Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

Rwyf wedi bod yn brynwr i gwmni rhyngwladol mawr ers 18 mlynedd. Rwy'n credu fod gen i’r swydd orau yn y byd, a dweud y gwir. Rwyf wrth fy modd â phlanhigion. Bu gen i ddiddordeb erioed mewn planhigion. I mi, ceisio rhannu'r angerdd hwnnw â phobl, dyna pam rwy'n gwneud yr hyn rwy'n ei wneud.

Mae garddio’n cael cymaint o effeithiau cadarnhaol o ran iechyd meddwl a chorfforol, a nawr mae hynny'n arbennig o wir. Nawr, mae'n dangos pam fod garddio yn wirioneddol bwysig.

Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn hynod gymhleth. Yn y byd garddio, mae 60% o'r busnes yn cael ei wneud rhwng mis Mawrth a mis Mai. Mae Mawrth ac Ebrill wedi'u dileu. Mae'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn hynod o ddwys. Mae'n rhaid i chi ddod i arfer â'r pwysau. Rydych chi'n mynd o ddim i 100 milltir yr awr yn gyflym iawn, iawn.

Rydw i wedi mynd o fod yn ddarllenwr tywydd teg o'r Beibl i gloddio o dan yr wyneb yn llawer mwy. Yr adnod sydd wedi bod o gymorth i mi yw Joshua 1.9, ‘Onid wyf wedi gorchymyn iti: bydd yn gryf a dewr? Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei.' Mae hynny mor briodol ar gyfer yr hyn yr ydym yn mynd drwyddo ar hyn o bryd, ac mae'n fy helpu i deimlo'n dawel fy meddwl bod Duw gyda ni bob amser er bod pethau'n anodd iawn.

Yr hyn sydd wedi fy nharo i yw pwysigrwydd cael perthynas â Duw. Po fwyaf yr amser rwy'n ei dreulio yn darllen y Beibl, mae'n cau'r pellter rhyngof fi a Duw. Roeddwn i'n arfer gwneud hynny yn y car, ond nawr fy mod yn gweithio gartref mae'n anoddach. Mae llai o amser ar gael. Felly, rwy’n darllen ben bore. Unwaith y bydd y diwrnod yn cychwyn, daw hi’n 5yh.

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible