Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Ym mis Ebrill 2018 rhoddodd Duw Salm 37.3–4 i mi, “Ymddiried yn yr Arglwydd a gwna ddaioni, iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel. Ymhyfryda yn yr Arglwydd, a rhydd iti ddeisyfiad dy galon.” Fe wnes i rannu hyn gyda ffrind a ddywedodd, “Mor gyffrous! Tybed beth sydd gan Dduw ar y gweill i ti eleni?”

‘Yn ystod mis Mai, yn sydyn dirywiodd symudedd gwael fy ngŵr ac erbyn mis Mehefin roedd yn amlwg bod angen i ni symud i fyngalo. Roedd y syniad o werthu a phrynu ar yr un pryd yn frawychus ond bendithiodd Duw fi â thangnefedd mawr.

‘Fe werthom ni’n gyflym iawn ond, cyn dod o hyd i fyngalo addas, roedd yna ymsuddiant yn ein tŷ a gafodd ei olrhain i fambŵ cymydog. Y tro hwn yr hyn a oedd yn sefyll allan o Salm 37 oedd y gorchymyn dro ar ôl tro “Paid â bod yn ddig”; mae un o’r achlysuron hynny hyd yn oed yn gorffen gyda, “Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt”. Diolch byth bod fy nghwmni yswiriant wedi delio'n brydlon â'r bambŵ, yna o fewn dwy awr i bopeth ddod i ben, derbyniais hysbysiad e-bost am fyngalo a oedd yn edrych yn berffaith.

‘Pan es i’w weld drannoeth, dywedodd y perchennog, “Rwy’n credu eich bod yn Gristion. Rydyn ni'n mynd i eglwys yng Nghaergrawnt ac yn gweddïo y bydden ni'n gwerthu i Gristnogion. ” Dywedais, “Rwy’n teimlo’n gyffrous, ac rwy’n credu y gallwch chi fod hefyd!”

‘Ar y diwrnod y cytunwyd ar y gwerthiant, torrodd y gadwyn y tu cefn i ni! Y tro hwn amlygodd Duw eiriau yn Salm 37 am etifeddiaeth (trosglwyddo o fewn teulu). Roeddwn i'n teimlo ei fod yn dweud bod y byngalo gyda ni o hyd oherwydd ein bod ni yn yr un teulu Cristnogol. Unwaith eto fe wnaethon ni werthu ein tŷ yn gyflym - i gwpl Cristnogol arall!

‘Mae fy ngŵr bellach yn hollol ansymudol ac mae dementia arno hefyd, ond mae gan y byngalo lolfa fawr hardd gyda lle i wely ysbyty a'i holl offer. Mae ein gofalwr sy’n byw i mewn yn Gristion hyfryd ac mae'n gymaint o fraint ei chael hi i rannu gofal fy ngŵr. Ambell ddiwrnod rwy’n cael trafferth gyda blinder ac yn meddwl tybed pa mor hir y gallaf fynd ymlaen, ond yna rwy’n edrych o gwmpas ar bopeth y mae Duw wedi’i ddarparu mewn modd mor rhyfeddol a gwn y bydd yn darparu’r nerth hefyd.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible