Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Roedd fy nhad o deulu Bwdhaidd cryf iawn ond roedd fy mam yn dod o deulu Cristnogol, felly dysgais am Iesu trwyddi. Pan oeddwn tua 10 oed, gadawsom Sri Lanka am Zambia a daeth fy nain i ymweld â ni. Roeddwn i gyda'r criw anghywir yn yr ysgol - roedd yna bethau nad oedden nhw o Dduw, fel ymhel â’r ocwlt. Dywedais wrth fy nain a darllenodd Salm 23 i mi, a theimlais gariad Iesu. Trwy gydol fy mywyd mae'r salm honno wedi atseinio gyda mi.

‘Magwyd fy nain mewn teulu Anglicanaidd iawn. Roedden nhw wedi bod yn Anglicaniaid ers cenedlaethau ac esgob Colombo oedd fy hen ewythr. Oherwydd bod ganddi dri llys-frawd a chwaer a oedd yn eithaf ifanc, pan oedd hi'n 21 oed priododd fy nhaid nad oedd yn Gristion. Dywedodd y byddai'n gofalu am ei brodyr a'i chwiorydd, ond bu bron iddi orfod ildio'i chrefydd ac ni chaniatawyd iddi fynd i'r eglwys. Pan oedd ganddi wyrion ac wyresau byddai'n siarad â mi a'm cefndryd am Iesu, er na allai wneud hynny gyda'i phlant ei hun.

‘Pan oeddwn yn 19 oed des i Loegr i astudio. Fe wnes i gyfarfod fy ngŵr yn y Brifysgol. Roedd yn Hindŵ, tra roeddwn i'n Gristion ond ddim yn ymarfer mewn gwirionedd. Pan anwyd fy mhlant, dechreuais ddod i'r eglwys gyda ffrind a gwnaethom y cwrs Alffa. Ar y diwrnod i ffwrdd, teimlais rhywbeth arbennig - roedd bron yn drawsnewidiad, roeddwn i'n gwybod mai'r Ysbryd Glân ydoedd.

‘Dw i'n credu bod fy ngŵr eisiau dod i'r eglwys, ond roedd yn broses raddol iddo. Aethon ni i'r Oriel Genedlaethol a gwelodd lun gan Rubens o Pedr yn y cwch. Dywedodd iddo deimlo ei fod wedi'i lethu ganddo. Drannoeth daeth i'r eglwys pan oedd yna fedydd, a chredaf iddo wir deimlo’r Ysbryd Glân bryd hynny, a byth ers hynny mae wedi bod yn Gristion.

‘Wnes i erioed feddwl y byddai'n digwydd - roedd yn bendant iawn ei fod yn Hindŵ a'i deulu yn Hindŵiaid, felly roedd hynny'n eithaf anhygoel.

‘Mae Salm 23 yn ymwneud â thaith, ac mae hynny wir yn siarad â mi. Nid yw fy ngŵr yn dda am ddysgu’r Ysgrythur, ond dyma’r un darn y mae’n ei wybod ar ei gof.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible