Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

'Rwy'n feddyg locwm mewn ysbyty yn Nottingham. Ar hyn o bryd, rydw i ar ward gastro-enteroleg, ond roeddwn i ar y ward gofal lliniarol gyda chleifion â Covid-19.

'Yr ysgrythur sydd wedi fy helpu yn ddiweddar, yw Colosiaid 3.23-24, 'Gwnewch eich gorau glas bob amser, fel tasech chi'n gweithio i'r Arglwydd ei hun, a dim i feistri dynol. Byddwch chi'n derbyn eich gwobr gan yr Arglwydd. Y Meseia ydy'r meistr dych chi'n ei wasanaethu go iawn.’

'Mae'r holl fater Covid-19 hwn wedi gwneud i mi sylweddoli ein bod ni'n gwasanaethu Iesu. Mae'n hawdd gwasanaethu dyn. Weithiau bydd pobl yn clapio i chi. Weithiau maen nhw'n wyliadwrus ohonoch chi oherwydd eich bod chi'n gweithio mewn ward Covid. Mae yna faterion gwirioneddol o ddryswch a stigma ynghylch coronafeirws, ac wrth fod yn gysylltiedig â gweithio gyda phobl â Covid-19. Dwi erioed wedi profi hynny o'r blaen. Ond Duw yw'r peth cyson yn hyn i gyd.

'Mae Duw yn fy herio ynglŷn â lle dwi'n cael fy hunaniaeth. Ar ddydd Iau, mae pobl yn clapio ac yn  gweiddi hwrê ar ein stryd. Mae'n braf, ond am dymor mae hyn.

'Mae popeth yn ansefydlog, a gallwch chi deimlo'n sigledig iawn, ond rydw i mor falch bod y Beibl yn dir cadarn i sefyll arno yn yr amseroedd cythryblus hyn.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible