Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Roeddwn yn glanhau fy nhŷ ac roeddwn yn clywed y gair “Deuteronomium” o hyd yn fy mhen. Roeddwn i'n meddwl tybed beth oedd hynny'n ei olygu. Yn bennaf, rwy'n defnyddio'r rhyngrwyd i ddarganfod pethau. Fe wnes i ddod o hyd i fideo ar YouTube sy'n mynd â chi trwy Deuteronomium a sut mae Duw yn ein puro. Rwy'n berson gweledol ac mae'n haws imi amgyffred hynny na darllen.

‘Roedd yn teimlo i mi fel petai'r pandemig yn gwneud inni fyfyrio ar yr hyn sy'n bwysig. Nid yw'n bwysig cael y pethau materol hyn a'r siopau ar agor trwy'r amser. Roeddem yn meddwl bod y pethau hyn yn bwysig, ond nawr gallwn weld mai bod yn garedig â'n gilydd a threulio amser gyda phobl rydyn ni'n eu caru, cael amser o ansawdd gyda'n gilydd, dyna beth sy'n bwysig.

‘Cyn y pandemig roeddwn i'n brysur iawn. Rwy'n gweithio'n llawn amser. Rwy'n danfon fy mab o gwmpas i wahanol ddigwyddiadau pêl-droed ac rwy'n gwirfoddoli yn yr eglwys, ac rydw i ar Bwyllgor Rhieni ac Athrawon ysgol fy mab. Rwy'n weithredwr. Ond fe orfododd y pandemig i mi stopio a meddwl. Fe wnaeth i mi weld mai treulio amser o ansawdd gyda'r bobl rwy'n eu caru yw'r peth pwysicaf. Ond mae'r bobl rydw i'n eu caru yn bell i ffwrdd mewn gwirionedd. Rydw i eisiau mynd yn ôl adref i weld fy chwiorydd a fy Nhad. Felly, rydyn ni'n gobeithio symud. Felly, roedd gen i neges am buro pan oeddwn i'n glanhau! Gallai'r foment honno newid fy mywyd.

‘Gwelais fy chwiorydd pan ddechreuodd pethau lacio. Ond nid wyf wedi gweld fy Nhad ers dros flwyddyn ac mae hynny wedi bod yn anodd iawn.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible