Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Cefais fy ngeni â chyflwr eithaf difrifol ar y galon sy'n effeithio ar lif y gwaed trwy'r galon. Roeddwn i'n teimlo'n wahanol i bawb arall. Roeddwn ym mynd allan o wynt ac yn cael AG yn anodd. Rhoddais y gorau iddi pan oeddwn ym Mlwyddyn 11.

‘Pan oeddwn yn 17 cefais lawdriniaeth gywirol ar y galon gan gynnwys amnewid falf. Wedi hynny, cafodd fy nhannau llais eu difrodi ac ni allwn siarad. Roeddwn hefyd yn dioddef o niwed i'r nerfau a olygai na allwn gerdded chwaith. Cefais ddiagnosis o arthritis gwynegol. Treuliais dri mis yn Ysbyty Great Ormond Street. Roedd yn amser eithaf brawychus, ond roeddwn i'n teimlo bod Duw’n bresennol.

 ‘Rwyf bob amser wedi cael fy nenu at y llinell yn Salm 23 sy’n dweud, “Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi”. Wynebais hynny pan oeddwn yn 17 oed. Pan gefais fy merch, wynebais farwolaeth eto. Ac yn 2019 cefais ddiagnosis o ganser y fron. Fe wnaethant lwmpectomi. Cefais radiotherapi ac roedd fy mamogram olaf yn glir.

‘Mae Salm 23 yn fy atgoffa, waeth pa mor agos ydych chi at farwolaeth, fod Duw yn dal gyda chi. Rwy'n teimlo bod Duw wedi bod gyda mi erioed. Ar y diwrnodau yr wyf yn ei chael yn anodd iawn, bydd rhywbeth yn fy atgoffa o hynny. Rwy’n cael fy ystyried fel rhywun sy'n hynod fregus yn feddygol, ac eto rydw i dal yma wedi blwyddyn o’r pandemig. Mae Salm 23 yn rhoi gobaith i mi.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible