Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Roeddwn i’n athro am 30 mlynedd. Fi oedd y pennaeth cerddoriaeth mewn ysgol fawr. Un diwrnod, cefais fy ngalw i mewn ac oedd rhywun wedi fy nghyhuddo o anaddasrwydd.  Roeddwn i fod wedi’i wneud 30 mlynedd yn ôl. Roeddwn i’n benderfynol iawn i wneud yn siŵr bod fy enw wedi’i glirio.  Roedd gennyf le i gwyno. O fewn pedair wythnos disgynnodd yr heddlu'r cyhuddiad achos doedd dim digon o dystiolaeth. Darllenais Job yn ystod y cyfnod yna. Oedd Job wedi dioddef cymaint yn fwy na fi. Roedd yna bobol oedd yn rhoi cyngor a phobol eraill ddim yn dweud un rhywbeth achos doedden nhw ddim yn gwybod beth i ddweud.  Yna, roedd pobol yn teimlo’n angerddol am y peth. Cafodd Job y cyfan. Rwy’n credu rhoddodd hwn nerth i mi barhau. Roedd wedi codi fy nghalon. Roedd stopio [gweithio a pherfformio] yn drawmatig. Teimlodd fel petai neb yn poeni amdanaf pryd hynny. Yn y cyfnod yna, gall wedi bod yn ddinistriol. Buaswn i wedi gallu torri lawr yn gyfan gwbl. Buasai wedi bod yn fwy anodd heb y Beibl. A fyddwn i wedi rhoi'r gorau iddi? Sain siŵr. Dwi wedi cael bywyd hyfryd, bywyd boddhaol iawn. Ond, yn ystod yr un anhawster mawr yma, sylweddolais fod fy ffydd yn gryf ac oeddwn i gallu defnyddio’r Beibl a ffeindio darnau oedd gallu fy nghysuro.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible