Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

'Roeddwn yn 27 mlwydd oed ac yng Ngwasanaeth Menywod y Llynges Frenhinol (WRNS - Women's Royal Navy Service) sef y 'Wrens'. Roedd morwr wedi meddwi ac roedd hi’n anodd delio efo fe, ond welais i hwn fel her, felly wnes i ddod i nabod e. Gofynnodd i mi ei briodi. Ond, roedd gen i'r dewrder i ddweud nad oeddwn i eisiau priodi. Meddai, "os nad wyt ti am briodi fi, mi fydda i'n dod a dy ladd di.” Fe ddaeth yn agosach at yr orsaf lle’r oeddwn yn byw ac yn dyfalbarhau i ffonio ar ei ffordd draw i ddweud ei fod yn dod i ladd fi. Felly, meddyliais y peth gorau oedd mynd i guddio. Petawn i'n cuddio yn y pafiliwn chwaraeon, yna fyddwn i ddim yn gallu clywed neges yr uwch-seinydd yn fy rhybuddio pan fuasai’n cyrraedd y brif glwyd. Roeddwn i'n mynd trwy amser anodd bryd hynny, felly mi faswn i'n darllen Salm yn ddyddiol. Cyn i mi fynd i guddio, darllenais Salm 27. Meddai, "Mae'r ARGLWYDD yn rhoi golau i mi, ac yn fy achub i. Mae'r ARGLWYDD fel caer yn fy amddiffyn i.” Ym mhennod pump, dywed, "mewn amser o bryder, bydd yn fy nghuddio yn ei bafiliwn.” Wnaeth hynny fy synnu. Meddyliais os oedd Duw wedi cael pafiliwn, mae'n rhaid ei fod fel swigen anweladwy. Roeddwn i’n hollol ddigynnwrf bryd hynny. Es i i’r gât i gwrdd ag e.  Dywedais, “Ti’n gwybod bod fi methu dy briodi.” Cerddais lawr y lon yn y tywyllwch gydag ef er mwyn iddo fe gael y bws nol ac fe aeth i ffwrdd. Roedd y ffaith fy mod wedi mynd allan i’w gwrdd fel tystiolaeth nad oeddwn i am rhedeg i ffwrdd. Doedd dim rhaid i mi redeg am help. Siaradodd Duw â fi mewn geiriau oedd yn hollol gywir ar y pryd.'

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible