Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

'Mae “Yr Arglwydd yw fy mugail” (Salm 23) yn meddwl lot i mi. Es i’n sâl iawn tra bod fi’n byw yn Lagos yn y 70au. Gostyngodd fy lefelau platen, roedd yn fath o lewcemia. Buasai fy nghroen yn torri a chleisio a dechreuais i waedu. Teimlais fel petai marwolaeth ar y gorwel. Daeth fy ffrind i’m gweld yn yr ysbyty. Mae’n rhaid bod e wedi cymryd tri i bedwar awr iddi gyrraedd yna oherwydd ei fod yn bwrw glaw yn drwm. Dywedodd, “Dwi ishe ti ddarllen y Salm hon.” Meddyliais “Dwi ddim am farw eto.” Mae adnod pedwar o Salm 23 yn dweud, "Pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi.” Roeddwn i’n gwybod hynny gan fy mod i’n blentyn i Grist ac os gall ef farw i mi, roedd ef – ac mae dal i fod – wrth fy mron trwy fywyd a marwolaeth. Doedd dim angen ofni marw oherwydd ei fod yno’n aros i fy nghroesawu. O’r diwedd, ar ôl y driniaeth dwedodd ymgynghorwr yr ysbyty, “Sain siŵr beth i wneud amdanat ti. Ni allaf roi mwy o steroidau i ti. I ddweud y gwir, ni ddylet ti fod yn fyw.” Ar ôl i’r ysbyty rhyddhau fi, gofynnodd yr esgob i'r esgobaeth i weddi drostai. Heddiw, rwy’n 81 oed ac yn iach iawn.'

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible