Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Cefais ddamwain car yn 2015 pan oeddwn yn 25 oed. Yn 2014, ganed fy merched sy’n efeilliaid. Yn 2015, cefais fechgyn sy’n efeilliaid. Roeddent yn ddeg wythnos oed ac o dan  ofal arbennig pan ddigwyddodd y ddamwain. Roedd tad y plant yn fy mygwth fi a phethau. Dywedodd ffrind wrthyf, “Beth am i ni yrru o amgylch y bloc yn fy nghar a dianc.” Roedd tad fy mhlant yn ein herlid. Cafodd fy ffrind ddamwain.

‘Dylwn i fod yn farw. Roedd gen i chwe asen wedi eu torri, cefn wedi torri ac anaf i'r pen. Roedd asgwrn fy moch wedi torri. Roedd y ddau ysgyfant wedi dadchwyddo ac roedd twll yn fy aorta. Mae gen i anaf ar yr ymennydd, felly mae fy nghof yn ddrwg iawn. Rwy'n teimlo bod Duw wedi rhoi cyfle i mi edifarhau a byw'n iawn. Rwy'n gwybod mai felly oedd hi.

‘Fe wnaeth Jeremeia 29.11 fy helpu. Mae'n dweud, “Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,” medd yr ARGLWYDD, “bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol.”

‘Pan rwy’n darllen hwn, rwy’n teimlo bod yna cymaint yn fwy, darlun mwy nad ydym yn ei weld. Rwy'n teimlo bod yna gynllun ar gyfer fy mywyd.

‘Mae'n hawdd i ni anghofio cymaint mae Duw wedi'i wneud drosom ni, ond gallaf weld bod Duw yno. Pan fyddaf yn meddwl am hynny, ni allaf stopio crio. Pan fyddaf yn myfyrio arno, rwy’n gwybod ei fod wedi bod gyda mi trwy'r amser. Rwy'n wirioneddol ddiolchgar o gael ail fywyd. Nid oedd yn rhaid iddo fy achub. Roeddwn i'n berson ar goll. Ond fe roddodd gyfle i mi.

‘Mae’r merched yn chwech nawr, mae’r bechgyn yn bump oed a’r babi bron yn ddwy. Mae gen i fywyd sy'n ymwneud â'r dyfodol. Mae'r adnod hon o'r Beibl wedi ei phlannu yn fy meddwl. Mae hi yno drwy’r amser.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible