Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Rwy’n gweithio yn y maes bancio buddsoddi. Cymerais amser i ffwrdd o'r gwaith am chwe mis oherwydd roeddwn yn dioddef yn ddifrifol o nerf wedi'i wasgu yn fy ngwddf, a gafodd ei ddiagnosio fel ôl traul. Roedd y boen mor ddifrifol ar adegau fel nad oeddwn yn siŵr fy mod am fynd yn ôl i'r gwaith.

‘Gwelais bedwar arbenigwr, a chefais fy siomi oherwydd eu bod yn dweud mai ôl traul oedd o, a byddai’n diflannu. Teimlais y gallwn ddod o hyd i’r cyfan yr oeddent yn dweud wrthyf iddo ar Google (rwy’n sicr nid yw hynny'n wir). Meddyliais, ni allwn wneud hyn yn fy swydd, rydym yn canolbwyntio ar ba mor ddrwg gall pethau fod trwy ddiffinio’r senarios gwaethaf gyda lefel o sicrwydd, ac roeddwn i'n meddwl bod fy arbenigwyr braidd yn amwys. Fe wnaeth fy ypsetio’n fawr.

‘Bore yma fe wnes i ddeffro ac roeddwn i wir yn ypset am hyn eto. Dydw i ddim eisiau i hyn i fy rhwystro rhag bod yn fi. Roeddwn i'n camu i fyny ac i lawr y grisiau. Yna darllenais Philipiaid 4.7 sy’n dweud, “A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.

‘Fe roddodd tawelwch meddwl mi ond hefyd fe wnaeth fy nychryn oherwydd roeddwn i’n meddwl y gallai fy rhefru gynhyrfu Duw ac efallai y byddai’n rhoi rhywbeth i mi wirioneddol boeni amdano ond mae Duw yn gwybod mai fy rhwystredigaeth yw fy rhefru, ac nid fydd yn  fy nghosbi. Mae'n gweld fy nghalon ac yn gwybod fy mod yn ei garu'n daer.

‘Mae hynny’n gwneud i mi deimlo rhywfaint yn well, bod rhywun yn gwrando. Dyna’r peth allweddol.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible