No themes applied yet
Mae Duw gyda ni!
Iʼr arweinydd cerdd. Cân i leisiau merched ifanc, gan feibion Cora.
1Mae Duw yn ein cadw niʼn saff ac yn rhoi nerth i ni.
Mae e bob amser yna iʼn helpu pan mae trafferthion.
2Felly fydd gynnon ni ddim ofn
hyd yn oed petaiʼr ddaear yn ysgwyd,
aʼr mynyddoedd yn syrthio i ganol y môr
3gydaʼi donnau gwyllt yn troelli ac yn ewynnu.
Maeʼr mynyddoedd yn crynu wrth iddo ymchwyddo.
Saib
4Y mae afon! Mae ei chamlesi yn gwneud dinas Duw yn llawen.
Ie, y ddinas lle maeʼr Duw Goruchaf yn byw.
5Mae Duw yn ei chanol – fydd hi byth yn syrthio!
Bydd Duw yn dod iʼw helpu yn y bore bach.
6Mae gwledydd mewn cyffro, a theyrnasoedd yn syrthio.
Pan mae Duw yn taranu maeʼr ddaear yn toddi.
7Maeʼr ARGLWYDD hollbwerus gyda ni!
Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni!
Saib
8Dewch i weld beth maeʼr ARGLWYDD wediʼi wneud;
y difrod rhyfeddol mae wediʼi ddwyn ar y ddaear!
9Maeʼn dod â rhyfeloedd i ben drwyʼr ddaear gyfan;
maeʼn maluʼr bwa ac yn torriʼr waywffon,
ac yn llosgi cerbydau rhyfel mewn tân.
10“Stopiwch! Maeʼn bryd i chi ddeall mai Duw ydw i!
Dw iʼn llawer uwch naʼr cenhedloedd;
dw iʼn llawer uwch naʼr ddaear gyfan.”
11Maeʼr ARGLWYDD hollbwerus gyda ni!
Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni!
Saib
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015