No themes applied yet
Y Brenin syʼn rheoli popeth
Iʼr arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora.
1Holl bobloedd y byd, curwch ddwylo!
Gwaeddwch yn llawen wrth addoli Duw!
2Maeʼr ARGLWYDD Goruchaf yn Dduw iʼw ryfeddu,
ac yn Frenin mawr dros y byd i gyd.
3Maeʼn gwneud i bobloedd ymostwng i ni,
ni syʼn eu rheoli nhw.
4Dewisodd dir yn etifeddiaeth i ni –
tir i Jacob, y bobl mae wediʼu caru, ymfalchïo ynddo.
Saib
5Mae Duw wedi esgyn iʼw orsedd, aʼr dyrfaʼn gweiddiʼn llawen.
Aeth yr ARGLWYDD i fyny, aʼr corn hwrdd47:5 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. yn seinio!
6Canwch fawl i Dduw, canwch!
canwch fawl iʼn brenin ni, canwch!
7Ydy, mae Duw yn frenin dros y byd i gyd;
Canwch gân hyfryd iddo!
8Mae Duw yn teyrnasu dros y cenhedloedd.
Mae eʼn eistedd ar ei orsedd sanctaidd.
9Mae tywysogion y bobloedd wedi ymgasglu
gyda phobl Duw Abraham.
Mae awdurdod Duw dros lywodraethwyr47:9 lywodraethwyr Hebraeg, “tarianau”, yn cynrychioliʼr llywodraethwyr oedd i amddiffyn y bobl. y byd;
mae e ymhell uwch eu pennau nhw i gyd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015