No themes applied yet
Yr ARGLWYDD syʼn gofalu amdanat
Cân yr orymdaith.
1Dw iʼn edrych i fyny iʼr mynyddoedd.
O ble daw help i mi?
2Daw help oddi wrth yr ARGLWYDD,
yr Un wnaeth greuʼr nefoedd aʼr ddaear.
3Fydd e ddim yn gadael i dy droed lithro;
dydyʼr Un syʼn gofalu amdanat ddim yn cysgu.
4Wrth gwrs! Dydyʼr un syʼn gofalu am Israel
ddim yn gorffwys na chysgu!
5Yr ARGLWYDD syʼn gofalu amdanat ti;
maeʼr ARGLWYDD wrth dy ochr di
yn dy amddiffyn di.
6Fydd yr haul ddim yn dy lethu di ganol dydd,
naʼr lleuad yn effeithio arnat ti yn y nos.
7Bydd yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn rhag pob perygl;
bydd yn dy gadw diʼn fyw.
8Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw diʼn saff
ble bynnag ei di,
o hyn allan ac am byth.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015