No themes applied yet
Bod yn ffyddlon i dy wraig
1Fy mab, clyw, dyma gyngor doeth i ti;
gwrandoʼn ofalus ar beth dw iʼn ddweud.
2Er mwyn i ti fynd y ffordd iawn,
ac i dy eiriau bob amser fod yn ddoeth.
3Mae gwefusauʼr wraig anfoesol yn diferu fel mêl,
aʼi geiriau hudol yn llyfn fel olew;
4Ond mae hiʼn troi allan i fod yn chwerw fel y wermod,
ac yn finiog fel cleddyf.
5Mae ei dilyn hi yn arwain at farwolaeth;
mae ei chamau yn arwain iʼr bedd.
6Dydy hiʼn gwybod dim am fywyd go iawn;
mae hi ar goll – a ddim yn sylweddoli hynny.
7Felly, fy mab, gwrandoʼn ofalus arna i,
a phaid troi cefn ar beth dw iʼn ddweud.
8Cadw draw oddi wrthi hi!
Paid mynd yn agos at ddrws ei thŷ hi,
9rhag i ti golli pob hunan-barch,
ac iʼw gŵr creulon gymryd dy fywyd oddi arnat ti.
10Rhag i bobl ddieithr lyncu dy gyfoeth di,
ac i rywun arall gael popeth rwyt ti wedi gweithioʼn galed amdano.
11Wedyn byddiʼn griddfan yn y diwedd,
pan fydd dy gorff wediʼi ddifetha.
12Byddiʼn dweud,
“Pam wnes i gasáu disgyblaeth gymaint?
Pam wnes i wrthod cymryd sylw o gerydd?
13Pam wnes i ddim gwrando ar fy athrawon,
a chymryd sylw oʼr rhai oedd yn fy nysgu i?
14Bu bron i bopeth chwaluʼn llwyr i mi,
a hynny o flaen pawb yn y gymdeithas.”
15Yfed ddŵr o dy ffynnon dy hun,
ei dŵr ffres hi, a dim un arall.
16Fyddet ti eisiau i ddŵr dy ffynnon di
lifo allan iʼr strydoedd?
17Na, cadw hi i ti dy hun,
paid gadael i neb arall ei chael.
18Gad i dy ffynnon gael ei bendithio!
Mwynha dy hun gydaʼr wraig briodaist ti pan oeddet tiʼn ifanc
19– dy ewig hyfryd, dy afr dlos.
Gad iʼw bronnau roi boddhad i ti,
i ti ymgolli yn ei chariad bob amser.
20Fy mab, pam gwirioni ar ferch anfoesol?
Ydy anwesu bronnau gwraig rhywun arall yn iawn?
21Cofia fod Duw yn gweld popeth tiʼn wneud.
Maeʼn gweld y cwbl, oʼr dechrau iʼr diwedd.
22Bydd yr un syʼn gwneud drwg yn cael ei ddal gan ei ddrygioni –
bydd wediʼi rwymo gan raffau ei bechod ei hun.
23Bydd yn marw am fod ganddo ddim disgyblaeth,
ac wedi meddwi ar chwaraeʼr ffŵl.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015