No themes applied yet
Cyngor i bobl ifanc
1Blant, clywch beth maeʼch tad yn ei ddysgu i chi.
Gwrandwch, i chi ddysgu sut i fod yn ddoeth.
2Dw iʼn dysgu beth syʼn dda,
felly peidiwch troi cefn ar beth dw iʼn ddweud.
3Rôn iʼn blentyn ar un adeg,
yn unig blentyn, ac yn annwyl iawn yng ngolwg mam.
4Roedd dad yn fy nysgu i, ac yn dweud wrtho i,
“Dal dy afael yn yr hyn dw iʼn ddweud.
Gwna beth dw iʼn ei orchymyn, i ti gael bywyd da.
5Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall yn iawn;
paid anghofio, na throi cefn ar beth dw iʼn ddweud.
6Paid troi cefn ar ddoethineb – bydd hiʼn dy warchod di;
os gwnei di ei charu, bydd hiʼn dy amddiffyn di.
7Mynna fod yn ddoeth o flaen popeth arall!
Petaiʼn costio popeth sydd gen ti – mynna ddeall.
8Os byddiʼn meddwl yn uchel ohoni, bydd hiʼn dy helpu di;
cofleidia hi, a bydd hiʼn dod ag anrhydedd i ti.
9Bydd yn gosod torch hardd ar dy ben;
coron fydd yn dy anrhydeddu di.”
10Fy mab, gwrandoʼn ofalus ar beth dw iʼn ddweud,
a byddi diʼn cael byw yn hir.
11Dw i wedi dy ddysgu di i fod yn ddoeth,
ac wedi dy osod di ar y llwybr iawn.
12Byddiʼn cerdded yn dy flaen yn hyderus;
byddiʼn rhedeg heb faglu o gwbl.
13Dal yn dynn yn beth wyt tiʼn ddysgu, paid gollwng gafael.
Cadwʼr cwbl yn saff – maeʼn rhoi bywyd i ti!
14Paid dilyn llwybrau pobl ddrwg;
paid mynd yr un ffordd â nhw.
15Cadw draw! Paid mynd yn agos!
Tro rownd a mynd iʼr cyfeiriad arall!
16Allan nhw ddim cysgu heb fod wedi gwneud drwg.
Maen nhwʼn colli cwsg os nad ydyn nhw wedi baglu rhywun.
17Drygioni ydyʼr bara syʼn eu cadw nhwʼn fyw,
A thrais ydyʼr gwin maen nhwʼn ei yfed!
18Mae llwybr y rhai syʼn byw yn iawn yn ddisglair fel y wawr,
ac yn goleuo fwyfwy nes bydd hiʼn ganol dydd.
19Ond mae ffordd pobl ddrwg yn dywyll;
dŷn nhw ddim yn gwybod beth fydd yn eu baglu nhw.
20Fy mab, gwrando ar beth dw iʼn ddweud;
gwrandoʼn astud ar fy ngeiriau.
21Paid colli golwg arnyn nhw;
cadw nhwʼn agos at dy galon.
22Maen nhwʼn rhoi bywyd iʼr un syʼn eu cael,
ac iechyd iʼr corff cyfan.
23Gwarchod dy galon o flaen pob dim arall,
achos dyna ffynhonnell dy fywyd.
24Paid dweud celwydd;
paid dweud pethau i dwyllo pobl.
25Edrych yn syth o dy flaen,
cadw dy olwg ar ble rwyt tiʼn mynd.
26Gwyliaʼr ffordd rwyt tiʼn mynd,
a byddiʼn gwneud y peth iawn.
27Paid crwydro iʼr dde naʼr chwith;
cadw draw oddi wrth beth syʼn ddrwg.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015