No themes applied yet
Y Nasareaid
1Dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2“Dwed wrth bobl Israel:
“Pan mae dynion neu wragedd yn addo ar lw i fyw fel Nasareaid, a chysegru eu hunain iʼr ARGLWYDD, 3rhaid iddyn nhw ymwrthod yn llwyr â gwin a diod feddwol. Rhaid iddyn nhw beidio yfed finegr wediʼi wneud o win, na hyd yn oed yfed sudd grawnwin. A rhaid iddyn nhw beidio bwyta grawnwin na rhesins. 4Tra maen nhw wedi cysegru eu hunain, rhaid iddyn nhw beidio bwyta unrhyw beth sydd wedi tyfu ar y winwydden – dim hyd yn oed croen neu hadauʼr grawnwin. 5Rhaid iddyn nhw hefyd beidio torri eu gwalltiau yn y cyfnod yma, am eu bod wedi cysegru eu hunain iʼr ARGLWYDD. Rhaid iddyn nhw adael iʼw gwallt dyfuʼn hir. 6Rhaid iddyn nhw hefyd beidio mynd yn agos at gorff marw tra maen nhw wedi cysegru eu hunain iʼr ARGLWYDD 7– hyd yn oed os ydy tad, mam, brawd neu chwaer un ohonyn nhw yn marw. Maeʼr arwydd fod y person hwnnw wedi cysegru ei hun iʼr ARGLWYDD ar ei ben. 8Maen nhw i gysegru eu hunain yn llwyr iʼr ARGLWYDD drwy gydol y cyfnod yma.
9“Os ydy rhywun yn syrthioʼn farw wrth ymyl un ohonyn nhw, ac yn achosi iʼw ben gael ei lygru, rhaid aros saith diwrnod, ac yna siafioʼr pen ar ddiwrnod y puro. 10Ynaʼr diwrnod wedyn mynd â dwy durtur neu ddwy golomen at fynedfa pabell presenoldeb Duw, iʼw rhoi iʼr offeiriad. 11Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno nhw – un yn offrwm puro aʼr llall yn offrwm iʼw losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethauʼn iawn rhyngddo a Duw ar ôl iʼr corff marw ei wneud yn euog. Wedyn bydd yn ailgysegru ei hun y diwrnod hwnnw. 12Bydd rhaid iddo ddechrau oʼr dechrau, a chyflwyno oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gyfaddef bai. Fydd y dyddiau oedd wediʼu cyflawni cyn iʼr person gael ei wneud yn aflan gan y corff marw ddim yn cyfrif.
13“Dymaʼr ddefod ar gyfer Nasareaid: Ar ddiwedd y cyfnod pan oedden nhw wedi cysegru eu hunain, rhaid mynd â nhw at fynedfa pabell presenoldeb Duw, 14a chyflwynoʼr offrymau canlynol iʼr ARGLWYDD: oen gwryw blwydd oed sydd â dim byd oʼi le arno yn offrwm iʼw losgiʼn llwyr, oen banw blwydd oed sydd â dim byd oʼi le arni yn offrwm puro, ac un hwrdd sydd â ddim byd oʼi le arno yn offrwm i gydnabod daioniʼr ARGLWYDD. 15Hefyd, basged o fara heb furum ynddo, cacennau o flawd mân wediʼi gymysgu gydag olew olewydd, bisgedi tenau wediʼu brwsio gydag olew olewydd, aʼr offrymau o rawn a diod sydd i fynd gyda nhw. 16Bydd yr offeiriad yn cyflwynoʼr rhain i gyd iʼr ARGLWYDD – sef yr offrwm puro aʼr offrwm iʼw losgiʼn llwyr. 17Ynaʼr hwrdd yn offrwm i gydnabod daioniʼr ARGLWYDD, gydaʼr fasged o fara heb furum ynddo. A rhaid iddo hefyd gyflwynoʼr offrymau o rawn a diod.
18“Ar ôl hynny, rhaid iʼr Nasaread siafioʼi ben wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw. Yna cymryd ei wallt, aʼi roi ar y tân lle maeʼr offrwm i gydnabod daioniʼr ARGLWYDD yn llosgi. 19Ar ôl i ben y Nasaread gael ei siafio, rhaid iʼr offeiriad gymryd ysgwydd yr hwrdd wedi iddo gael ei ferwi, un oʼr cacennau ac un oʼr bisgedi tenau sydd heb furum ynddyn nhw, aʼu rhoi nhw i gyd yn nwyloʼr Nasaread. 20Wedyn maeʼr offeiriad iʼw chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD. Maeʼr darnau ymaʼn cael eu cysegru aʼu rhoi iʼr offeiriad, gydaʼr frest a rhan uchaf y goes ôl syʼn cael ei chwifio. Ar ôl mynd drwyʼr ddefod yma, bydd y Nasaread yn cael yfed gwin eto. 21Dyma ddefod y Nasaread. Dymaʼi offrwm iʼr ARGLWYDD ar ôl cysegru ei hun, heb sôn am unrhyw beth arall mae wediʼi addo iʼr ARGLWYDD. Rhaid iddo wneud beth bynnag roedd wediʼi addo pan oedd yn mynd drwyʼr ddefod o gysegru ei hun.”
Y Fendith Offeiriadol
22Dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 23“Dwed wrth Aaron aʼi feibion mai dyma sut maen nhw i fendithio pobl Israel:
24‘Boed iʼr ARGLWYDD eich bendithio chi
aʼch amddiffyn chi.
25Boed iʼr ARGLWYDD wenuʼn garedig arnoch chi,
a bod yn hael tuag atoch chi.
26Boed iʼr ARGLWYDD fod yn dda atoch chi,
a rhoi heddwch i chi.’
27Bydda iʼn bendithio pobl Israel wrth i Aaron aʼi feibion wneud hyn ar fy rhan i.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015