No themes applied yet
Pobl syʼn aflan
1Yna dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2“Gorchymyn bobl Israel i anfon allan oʼr gwersyll unrhyw un syʼn dioddef o glefyd heintus ar y croen, neu glefyd ar ei bidyn, neu ddiferiad o unrhyw fath, neu unrhyw un syʼn aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw. 3Dynion a merched fel ei gilydd – rhaid eu gyrru nhw allan fel bod y gwersyll, lle dw iʼn byw yn eich canol chi, ddim yn cael ei wneud yn aflan.”
4Felly dyma bobl Israel yn eu gyrru nhw allan oʼr gwersyll, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Gwneud iawn am ryw ddrwg
5Dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 6“Dwed wrth bobl Israel, ‘Pan mae dyn neu wraig yn gwneud drwg i rywun arall, maeʼn euog o droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD. 7Maeʼn rhaid iddo gyfaddeʼr drwg mae wediʼi wneud, taluʼr person arall yn ôl yn llawn ac ychwanegu 20% ato. 8Ond os ydyʼr person gafodd y drwg ei wneud iddo wedi marw a heb berthynas agos y gellid talu iddo, maeʼr tâl i gael ei roi iʼr ARGLWYDD. Mae iʼw roi iʼr offeiriad, gydaʼr hwrdd maeʼn ei gyflwyno i wneud pethauʼn iawn rhyngddo aʼr ARGLWYDD. 9Yr offeiriad syʼn cael yr holl bethau cysegredig mae pobl Israel yn eu cyflwyno iddo. 10Maeʼr offeiriad yn cael cadw beth bynnag mae unrhyw un yn ei gyflwyno iddo fel offrwm cysegredig.’”
Achos gŵr syʼn amau fod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo
11A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 12“Dwed wrth bobl Israel: ‘Dyma sydd i ddigwydd os ydy gwraig rhywun yn anffyddlon iddo: 13Cymrwch ei bod hi wedi cael rhyw gyda dyn arall heb yn wybod iʼw gŵr. (Doedd neb arall wediʼu gweld nhw, a wnaethon nhw ddim cael eu dal yn y weithred.) 14Os ydyʼr gŵr yn amau fod rhywbeth wedi digwydd, ac yn dechrau teimloʼn genfigennus (hyd yn oed os ydyʼr wraig yn ddieuog), 15rhaid iʼr gŵr fynd â hi at yr offeiriad. Mae i gyflwyno cilogram o flawd haidd yn offrwm trosti. Ond rhaid iddo beidio tywallt olew olewydd ar y blawd na rhoi thus arno, am mai offrwm amheuaeth ydy e, er mwyn dod âʼr drwg iʼr amlwg.
16“‘Bydd yr offeiriad yn gwneud iʼr wraig sefyll o flaen yr ARGLWYDD. 17Wedyn bydd yr offeiriad yn rhoi dŵr cysegredig mewn cwpan bridd, a rhoi llwch oddi ar lawr y Tabernacl yn y dŵr. 18Yna, tra maeʼr wraig yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD, maeʼr offeiriad i ddatod ei gwallt hi a rhoiʼr offrwm o rawn yn ei dwylo, sef yr offrwm amheuaeth. Wedyn, maeʼr offeiriad i sefyll oʼi blaen hi, gydaʼr gwpan o ddŵr chwerw syʼn dod â melltith yn ei law. 19Wedyn rhaid iʼr offeiriad wneud iʼr wraig fynd ar ei llw, a dweud wrthi, “Os wyt ti ddim wedi cysgu gyda dyn arall, a gwneud dy hun yn aflan drwy fod yn anffyddlon i dy ŵr, boed iʼr dŵr chwerw yma syʼn dod â melltith wneud dim drwg i ti. 20-21Ond os wyt ti wedi bod yn anffyddlon, ac wedi gwneud dy hun yn aflan drwy gael rhyw gyda dyn arall, yna boed i bawb weld fod yr ARGLWYDD wedi dy felltithio di, am dy fod tiʼn methu cael plant byth eto!” (Bydd yr offeiriad wedi rhoiʼr wraig dan lw i gael ei melltithio os ydy hiʼn euog.) 22“Bydd y dŵr yma syʼn achosi melltith yn gwneud niwed i dy gorff, fel dy fod yn methu cael plant byth eto!” A dylaiʼr wraig ateb, “Amen, amen.” 23Wedyn, maeʼr offeiriad i ysgrifennuʼr melltithion yma ar sgrôl, cyn eu crafu i ffwrdd eto iʼr dŵr. 24Yna rhaid iddo wneud iʼr wraig yfed y dŵr chwerw syʼn dod â melltith, fel ei bod yn dioddeʼn chwerw os ydy hiʼn euog. 25Bydd yr offeiriad yn cymryd grawn yr offrwm amheuaeth o ddwyloʼr wraig, ei chwifio o flaen yr ARGLWYDD, a mynd ag e at yr allor. 26Bydd yr offeiriad yn cymryd dyrnaid oʼr offrwm iʼw losgiʼn ernes ar yr allor. Yna bydd yn gwneud iʼr wraig yfed y dŵr.
27“‘Os ydyʼr wraig wedi gwneud ei hun yn aflan drwy fod yn anffyddlon iʼw gŵr, bydd y dŵr yn gwneud iddi ddioddeʼn chwerw. Bydd hiʼn methu cael plant byth eto, a bydd ei henwʼn felltith yng ngolwg y bobl. 28Ond os ydyʼr wraig yn ddieuog, a heb wneud ei hun yn aflan, fydd y dŵr yn gwneud dim niwed iddi, a bydd hiʼn gallu cael plant eto.
29“‘Felly, dyma sut mae delio gydag achos o eiddigedd, pan mae gwraig wedi bod yn anffyddlon iʼw gŵr ac wedi gwneud ei hun yn aflan. 30Neu pan mae gŵr yn amau ei wraig ac yn dechrau teimloʼn eiddigeddus. Rhaid iddo ddod âʼi wraig i sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a bydd yr offeiriad yn mynd drwyʼr ddefod yma gyda hi. 31Fydd y gŵr ddim yn euog o wneud unrhyw beth oʼi le, ond bydd y wraig yn gyfrifol am ei phechod.’”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015