No themes applied yet
Offrymauʼr arweinwyr
1Ar y diwrnod pan oedd Moses wedi gorffen codiʼr Tabernacl, dyma feʼn eneinio a chysegruʼr cwbl – y Tabernacl ei hun aʼr holl ddodrefn ynddo, aʼr allor aʼi holl offer. 2Yna dyma arweinwyr Israel yn dod i wneud offrwm. (Nhw oedd yr arweinwyr oedd wedi bod yn goruchwylioʼr cyfrifiad.) 3Dyma nhwʼn dod â chwe wagen gyda tho, a deuddeg o ychen – sef un wagen ar gyfer dau arweinydd, a tharw bob un. A dyma nhwʼn eu cyflwyno nhw iʼr ARGLWYDD o flaen y Tabernacl.
4A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 5“Derbyn yr ychen aʼr wagenni yma ganddyn nhw, iʼw defnyddio yng ngwaith y Tabernacl. Rhanna nhw rhwng y Lefiaid, iddyn nhw allu gwneud y gwaith sydd gan bob un iʼw wneud.”
6Felly dyma Moses yn derbyn y wagenni aʼr ychen, aʼu rhoi nhw iʼr Lefiaid. 7Dwy wagen a phedwar o ychen iʼr Gershoniaid, i wneud eu gwaith. 8Dwy wagen a phedwar o ychen iʼr Merariaid, i wneud eu gwaith nhw, gyda Ithamar fab Aaron yr offeiriad yn eu goruchwylio. 9Ond gafodd y Cohathiaid ddim wagenni nac ychen. Roedden nhw i fod i gario pethau cysegredig y Tabernacl ar eu hysgwyddau.
10Cyflwynodd yr arweinwyr roddion pan gafodd yr allor ei heneinio aʼi chysegru hefyd. Dyma nhw i gyd yn gosod eu rhoddion o flaen yr allor. 11Achos roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Rhaid i bob arweinydd gyflwyno offrwm ar gyfer cysegruʼr allor. Mae pob un ohonyn nhw i wneud hynny ar ddiwrnod gwahanol.”
12-83Dyma pwy wnaeth gyflwyno eu hoffrwm, ac ar ba ddiwrnod:
Diwrnod | Llwyth | Arweinydd |
1af | Jwda | Nachshon fab Aminadab |
2il | Issachar | Nethanel fab Tswár |
3ydd | Sabulon | Eliab fab Chelon |
4ydd | Reuben | Eliswr fab Shedeŵr |
5ed | Simeon | Shelwmiel fab Swrishadai |
6ed | Gad | Eliasaff fab Dewel |
7fed | Effraim | Elishama fab Amihwd |
8fed | Manasse | Gamaliel fab Pedatswr |
9fed | Benjamin | Abidan fab Gideoni |
10fed | Dan | Achieser fab Amishadai |
11eg | Asher | Pagiel fab Ochran |
12fed | Nafftali | Achira fab Enan |
Roedd offrwm pawb yr un fath: Plât arian yn pwyso cilogram a hanner a phowlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram; roedd y ddau yn llawn oʼr blawd gwenith gorau wediʼi gymysgu gydag olew olewydd iʼw gyflwyno fel offrwm o rawn. Padell aur yn pwyso can gram; roedd hon yn llawn arogldarth. Un tarw ifanc, un hwrdd, ac un oen gwryw blwydd oed, yn offrwm iʼw losgiʼn llwyr. Un bwch gafr yn offrwm puro. A dau ych, pum hwrdd, pum bwch gafr, a phum oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod daioniʼr ARGLWYDD.
84-88Felly cyfanswm yr offrymau gyflwynodd arweinwyr Israel pan gafodd yr allor ei heneinio oedd:
– un deg dau plât arian yn pwyso cilogram a hanner yr un
– un deg dwy powlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram yr un
(felly roedd y llestri arian i gyd yn pwyso dau ddeg saith cilogram, yn ôl pwysau safonol y cysegr)
– un deg dwy badell aur yn llawn o arogldarth, yn pwyso can gram yr un
(felly roedd y padellau aur i gyd yn pwyso un cilogram a dau gan gram yn ôl pwysau safonol y cysegr)
– un deg dau tarw ifanc, un deg dau hwrdd ac un deg dau oen gwryw blwydd oed yn offrymau iʼw llosgiʼn llwyr – pob un gydaʼi offrwm o rawn
– un deg dau bwch gafr yn offrymau puro
– dau ddeg pedwar tarw ifanc, chwe deg hwrdd, chwe deg bwch gafr a chwe deg oen gwryw blwydd oed yn offrymau i gydnabod daioniʼr ARGLWYDD.
Dynaʼr rhoddion gafodd eu cyflwyno pan oedd yr allor yn cael ei chysegru aʼi heneinio.
89Pan aeth Moses i mewn i babell presenoldeb Duw i siarad âʼr ARGLWYDD, clywodd lais yn siarad ag e. Roedd y llais yn dod o rywle uwchben caead Arch y dystiolaeth oedd rhwng y ddau gerwb. Roedd yn siarad gyda Moses.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015