No themes applied yet
Cyflwyniad
1Theoffilws, syr – Fel dych chiʼn gwybod, mae yna lawer o bobl wedi mynd ati i gasgluʼr hanesion am yr hyn sydd wedi digwydd yn ein plith ni. 2Cafodd yr hanesion yma eu rhannu â ni gan y rhai fuʼn llygad-dystion iʼr cwbl oʼr dechrau cyntaf, ac sydd ers hynny wedi bod yn cyhoeddi neges Duw. 3Felly, gan fy mod innau wedi astudioʼr pethau ymaʼn fanwl, penderfynais fynd ati i ysgrifennuʼr cwbl yn drefnus i chi, syr. 4Byddwch yn gwybod yn sicr wedyn fod y pethau gafodd eu dysgu i chi yn wir.
Dweud ymlaen llaw am eni Ioan Fedyddiwr
5Pan oedd Herod yn frenin ar Jwdea, roedd dyn oʼr enw Sachareias yn offeiriad. Roedd yn perthyn i deulu offeiriadol Abeia, ac roedd ei wraig Elisabeth hefyd yn un o ddisgynyddion Aaron, brawd Moses. 6Roedd y ddau ohonyn nhw yn bobl dda yng ngolwg Duw, ac yn gwneud yn union fel roedd eʼn dweud. 7Ond doedd Elisabeth ddim yn gallu cael plant, ac roedd y ddau ohonyn nhwʼn eithaf hen.
8Un tro, pan oedd y teulu offeiriadol oedd Sachareias yn perthyn iddo yn gwasanaethu yn y deml, roedd Sachareias yno gyda nhw yn gwneud ei waith fel offeiriad. 9A fe oedd yr un gafodd ei ddewis, drwy daflu coelbren, i losgi arogldarth wrth fynd i mewn iʼr cysegr. (Taflu coelbren oedd y ffordd draddodiadol roedd yr offeiriaid yn ei defnyddio i wneud y dewis.) 10Pan oedd yn amser iʼr arogldarth gael ei losgi, roedd yr holl bobl oedd wedi dod yno i addoli yn gweddïo y tu allan.
11Roedd Sachareias wrthiʼn llosgiʼr arogldarth, ac yn sydyn gwelodd un o angylion yr Arglwydd oʼi flaen yn sefyll ar yr ochr dde iʼr allor. 12Roedd Sachareias wedi dychryn am ei fywyd. 13Ond dymaʼr angel yn dweud wrtho: “Paid bod ofn, Sachareias; mae Duw wedi clywed dy weddi. Mae Elisabeth dy wraig yn mynd i gael plentyn – dy fab di! Ioan ydyʼr enw rwyt iʼw roi iddo, 14a bydd yn dy wneud diʼn hapus iawn. A bydd llawer iawn o bobl eraill yn llawen hefyd am ei fod wediʼi eni. 15Bydd eʼn was pwysig iawn iʼr Arglwydd Dduw. Fydd e ddim yn yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol, ond bydd wedi cael ei lenwi âʼr Ysbryd Glân hyd yn oed cyn iddo gael ei eni. 16Bydd yn troi llawer iawn o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw. 17Gydaʼr un ysbryd a nerth a oedd gan y proffwyd Elias bydd yn mynd allan i gyhoeddi fod yr Arglwydd yn dod, ac yn paratoiʼr bobl ar ei gyfer. Bydd yn gwella perthynas rhieni âʼu plant,1:17 cyfeiriad at Malachi 4:6 ac yn peri iʼr rhai sydd wedi bod yn anufudd weld mai byw yn iawn syʼn gwneud synnwyr.”
18“Sut alla i greduʼr fath beth?” meddai Sachareias wrth yr angel, “Wediʼr cwbl, dw iʼn hen ddyn ac mae ngwraig i mewn oed hefyd.”
19Dymaʼr angel yn ateb, “Gabriel ydw i. Fi ydyʼr angel syʼn sefyll o flaen Duw iʼw wasanaethu. Fe sydd wedi fy anfon i siarad â ti a dweud y newyddion da yma wrthot ti. 20Gan dy fod ti wedi gwrthod credu beth dw iʼn ddweud, byddiʼn methu siarad nes bydd y plentyn wediʼi eni. Ond dawʼr cwbl dw iʼn ei ddweud yn wir yn amser Duw.”
21Tra oedd hyn i gyd yn digwydd, roedd y bobl yn disgwyl i Sachareias ddod allan oʼr deml. Roedden nhwʼn methu deall pam roedd e mor hir. 22Yna pan ddaeth allan, roedd yn methu siarad â nhw. A dyma nhwʼn sylweddoli ei fod wedi gweld rhywbeth rhyfeddol yn y deml – roedd yn ceisio esbonio iddyn nhw drwy wneud arwyddion, ond yn methu siarad.
23Ar ôl iʼr cyfnod pan oedd Sachareias yn gwasanaethu yn y deml ddod i ben, aeth adre. 24Yn fuan wedyn dymaʼi wraig Elisabeth yn darganfod ei bod hiʼn disgwyl babi, a dyma hiʼn cadw oʼr golwg am bum mis. 25“Yr Arglwydd Dduw sydd wedi gwneud hyn i mi!” meddai. “Mae wedi bod mor garedig, ac wedi symud y cywilydd roeddwn iʼn ei deimlo am fod gen i ddim plant.”
Dweud ymlaen llaw am eni Iesu
26Pan oedd Elisabeth chwe mis yn feichiog, anfonodd Duw yr angel Gabriel i Nasareth, un o drefi Galilea, 27at ferch ifanc oʼr enw Mair. Roedd Mair yn wyryf (heb erioed gael rhyw), ac wediʼi haddoʼn wraig i ddyn oʼr enw Joseff. Roedd eʼn perthyn i deulu y Brenin Dafydd. 28Dymaʼr angel yn mynd ati aʼi chyfarch, “Mair, mae Duw wedi dangos ffafr atat ti! Maeʼr Arglwydd gyda ti!”
29Ond gwnaeth yr angel i Mair deimloʼn ddryslyd iawn. Doedd hi ddim yn deall o gwbl beth roedd yn ei feddwl. 30Felly dymaʼr angel yn dweud wrthi, “Paid bod ofn, Mair. Mae Duw wedi dewis dy fendithio diʼn fawr. 31Rwyt tiʼn mynd i fod yn feichiog, a byddi diʼn cael mab. Iesu ydyʼr enw rwyt iʼw roi iddo. 32Bydd yn ddyn pwysig iawn, a bydd yn cael ei alwʼn Fab y Duw Goruchaf. Bydd yr Arglwydd Dduw yn ei osod i eistedd ar orsedd y Brenin Dafydd, 33a bydd yn teyrnasu dros bobl Jacob am byth. Fydd ei deyrnasiad byth yn dod i ben!”
34Ond meddai Mair, “Sut maeʼr fath beth yn bosib? Dw i erioed wedi cael rhyw gyda neb.”
35Dymaʼr angel yn esbonio iddi, “Bydd yr Ysbryd Glân yn dod arnat ti, a nerth y Duw Goruchaf yn gofalu amdanat ti. Felly bydd y plentyn fydd yn cael ei eni yn berson sanctaidd – bydd yn cael ei alw yn Fab Duw. 36Meddylia! Mae hyd yn oed Elisabeth, syʼn perthyn i ti, yn mynd i gael babi er ei bod hi mor hen. Roedd pawb yn gwybod ei bod hiʼn methu cael plant, ond mae hi chwe mis yn feichiog! 37Rwyt tiʼn gweld, does dim byd syʼn amhosib i Dduw ei wneud.”
38A dyma Mair yn dweud, “Dw i eisiau gwasanaethuʼr Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wediʼi ddweud ddod yn wir.” Wedyn dymaʼr angel yn ei gadael hi.
Mair yn ymweld ag Elisabeth
39Cyn gynted ag y gallai dyma Mair yn mynd iʼr dref yng nghanol bryniau Jwda 40lle roedd Sachareias ac Elisabeth yn byw. Pan gyrhaeddodd y tŷ dyma hiʼn cyfarch Elisabeth, 41a dyma fabi Elisabeth yn neidio yn ei chroth hi. Cafodd Elisabeth ei hun ei llenwi âʼr Ysbryd Glân pan glywodd lais Mair, 42a gwaeddodd yn uchel: “Mair, rwyt ti wedi dy fendithio fwy nag unrhyw wraig arall, a bydd y babi rwyt tiʼn ei gario wediʼi fendithio hefyd! 43Pam mae Duw wedi rhoiʼr fath fraint i mi? – cael mam fy Arglwydd yn dod i ngweld i! 44Wir i ti, wrth i ti nghyfarch i, dymaʼr babi sydd yn fy nghroth i yn neidio o lawenydd pan glywais dy lais di. 45Rwyt ti wedi dy fendithioʼn fawr, am dy fod wedi credu y bydd yr Arglwydd yn gwneud beth mae wediʼi ddweud wrthot ti.”
Cân Mair
46A dyma Mair yn ymateb:
“O, dw iʼn moliʼr Arglwydd!
47Mae Duw, fy Achubwr, wedi fy ngwneud i mor hapus!
48Roedd yn gwybod bod ei forwyn yn ferch gyffredin iawn,
ond o hyn ymlaen bydd pobl o bob oes
yn dweud fy mod wedi fy mendithio,
49Mae Duw, yr Un Cryf, wedi gwneud pethau mawr i mi –
Mae ei enw mor sanctaidd!
50Mae bob amser yn trugarhau wrth y rhai syʼn ymostwng iddo.
51Mae wedi defnyddioʼi rym i wneud pethau rhyfeddol! –
Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl.
52Mae wedi cymryd eu hawdurdod oddi ar lywodraethwyr,
ac anrhydedduʼr bobl hynny syʼn ‘neb’.
53Mae wedi rhoi digonedd o fwyd da iʼr newynog,
ac anfon y bobl gyfoethog i ffwrdd heb ddim!
54Mae wedi helpu ei was Israel,
a dangos trugaredd at ei bobl. 55Dyma addawodd ei wneud iʼn cyndeidiau ni –
dangos trugaredd at Abraham aʼi ddisgynyddion am byth.”
56Arhosodd Mair gydag Elisabeth am tua tri mis cyn mynd yn ôl adre.
Hanes geni Ioan Fedyddiwr
57Pan ddaeth yr amser i fabi Elisabeth gael ei eni, bachgen bach gafodd hi. 58Clywodd ei chymdogion aʼi pherthnasau y newyddion, ac roedden nhw i gyd yn hapus hefyd fod yr Arglwydd wedi bod mor garedig wrthi hi.
59Wythnos ar ôl iʼr babi gael ei eni roedd pawb wedi dod i seremoni enwaedu y bachgen, ac yn cymryd yn ganiataol mai Sachareias fyddaiʼn cael ei alw, yr un fath âʼi dad. 60Ond dyma Elisabeth yn dweud yn glir, “Na! Ioan fydd ei enw.”
61“Beth?” medden nhw, “Does neb yn y teulu gydaʼr enw yna.” 62Felly dyma nhwʼn gwneud arwyddion i ofyn i Sachareias beth oedd e eisiau galwʼi fab. 63Gofynnodd am lechen i ysgrifennu arni, ac er syndod i bawb, ysgrifennodd y geiriau, “Ioan ydy ei enw.” 64Yr eiliad honno cafodd ei allu i siarad yn ôl, a dechreuodd foli Duw. 65Roedd ei gymdogion i gyd wediʼu syfrdanu, ac roedd pawb drwy ardal bryniau Jwdea yn siarad am beth oedd wedi digwydd. 66Roedd pawb yn gofyn, “Beth fydd hanes y plentyn yma?” Roedd hiʼn amlwg i bawb fod llaw Duw arno.
Cân Sachareias
67Dyma Sachareias, tad y plentyn, yn cael ei lenwi âʼr Ysbryd Glân, ac yn proffwydo fel hyn:
68“Molwch yr Arglwydd – Duw Israel!
Mae wedi dod i ollwng ei bobl yn rhydd.
69Mae wedi anfon un cryf iʼn hachub ni –
un yn perthyn i deulu ei was,
y Brenin Dafydd.
70Dymaʼn union addawodd ymhell yn ôl, drwy ei broffwydi sanctaidd:
71Bydd yn ein hachub ni rhag ein gelynion
ac o afael pawb syʼn ein casáu ni.
72Mae wedi trugarhau, fel yr addawodd iʼn cyndeidiau,
ac wedi cofioʼr ymrwymiad cysegredig a wnaeth
73pan aeth ar ei lw i Abraham:
74iʼn hachub ni o afael ein gelynion,
i ni allu ei wasanaethu heb ofni neb na dim,
75a byw yn bobl sanctaidd a chyfiawn
tra byddwn fyw.
76A thithau, fy mab bach, byddi diʼn cael dy alw
yn broffwyd iʼr Duw Goruchaf;
oherwydd byddiʼn mynd o flaen yr Arglwydd
i baratoiʼr ffordd ar ei gyfer.
77Byddiʼn dangos iʼw bobl sut mae cael eu hachub
drwy iʼw pechodau gael eu maddau.
78Oherwydd mae Duw yn dirion ac yn drugarog,
ac mae ei oleuni ar fin gwawrio arnon ni oʼr nefoedd.
79Bydd yn disgleirio ar y rhai syʼn byw yn y tywyllwch
gyda chysgod marwolaeth drostyn nhw,
ac yn ein harwain ar hyd llwybr heddwch.”
80Tyfodd y plentyn Ioan yn fachgen cryf yn ysbrydol. Yna aeth i fyw iʼr anialwch nes iddo gael ei anfon i gyhoeddi ei neges i bobl Israel.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015