No themes applied yet
Rhyfel cartref gyda llwyth Benjamin
Y Lefiad aʼi bartner
1Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd rhyw ddyn o lwyth Lefi yn byw yn bell o bobman yng nghanol bryniau Effraim. A dyma feʼn cymryd dynes o Bethlehem yn Jwda i fyw gydag e fel ei bartner19:1 bartner Maeʼr gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. 2Ond roedd hi wedi digio gydag e19:2 wedi digio gydag e felly LXX; Hebraeg, “yn anffyddlon iddo”., a dyma hiʼn mynd yn ôl i fyw gydaʼi theulu yn Bethlehem.
Rhyw bedwar mis wedyn, 3dymaʼr dyn yn mynd gydaʼi was a dau asyn i geisioʼi pherswadio i fynd yn ôl gydag e. Pan gyrhaeddodd, dyma hiʼn mynd ag e iʼw chartref, a chafodd groeso brwd gan ei thad. 4Dymaʼr tad yn ei berswadio i aros am dri diwrnod, a dyna lle buodd e, yn bwyta ac yn yfed ac yn aros dros nos. 5Ond yna, ar y pedwerydd diwrnod, dyma feʼn codiʼn gynnar a dechrau paratoi i adael. Dyma dad y ferch yn dweud wrtho, “Rhaid i ti gael tamaid iʼw fwyta cyn mynd. Cewch fynd wedyn.” 6Felly dymaʼr ddau ohonyn nhwʼn cael pryd o fwyd gydaʼi gilydd. Yna dyma dad y ferch yn dweud wrth y dyn, “Tyrd, aros un noson arall. Cei amser da!” 7Roedd y dyn ar fin mynd, ond dymaʼr tad yn pwyso arno aʼi berswadio i aros noson arall.
8Ynaʼn gynnar y bore wedyn, y pumed diwrnod, dymaʼr dyn yn codi eto i fynd. Ond dyma dad y ferch yn dweud wrtho eto, “Dylet ti gael rhywbeth i dy gadw di i fynd! Pam wnei di ddim gadael ar ôl cinio?” Felly dymaʼr ddauʼn bwyta gydaʼi gilydd eto.
9Rywbryd yn ystod y pʼnawn, dymaʼr dyn yn codi i fynd gydaʼi bartner aʼi was. Ond dyma dad y ferch yn dweud, “Gwranda, maeʼn rhy hwyr yn y dydd. Aros un noson arall! Mae hi wedi mynd yn rhy hwyr i ti fynd bellach. Aros un noson arall i fwynhau dy hun. Wedyn cei godiʼn gynnar bore fory a chychwyn ar dy daith am adre.” 10Ond doedd y dyn ddim am wneud hynny. Dyma fe aʼi bartner yn cymryd y ddau asyn oedd wediʼu cyfrwyo, a chychwyn ar eu taith. Dyma nhwʼn cyrraedd Jebws (sef Jerwsalem).
11Erbyn hynny, roedd hiʼn dechrau nosi, a dymaʼr gwas yn gofyn iʼw feistr, “Beth am i ni aros yma dros nos, yn nhref y Jebwsiaid?” 12Dymaʼr meistr yn ei ateb, “Na, allwn ni ddim aros gyda phaganiaid sydd ddim yn perthyn i Israel. Awn ni ymlaen i Gibea. 13Gallwn ni ddod o hyd i rywle i aros, naill aiʼn Gibea neu yn Rama.” 14Felly dyma nhwʼn teithio yn eu blaenau. Erbyn iddyn nhw gyrraedd Gibea, sydd ar dir llwyth Benjamin, roedd yr haul wedi machlud. 15Felly dyma nhwʼn penderfynu aros yno dros nos. Aethon nhw i mewn iʼr dref, ac eistedd i lawr i orffwys yn y sgwâr. Ond wnaeth neb eu gwahodd nhw iʼw tŷ i aros dros nos.
16Ond yna, dyma ryw hen ddyn yn dod heibio. Roedd wedi bod yn gweithio yn y caeau drwyʼr dydd ac ar ei ffordd adre. Un o fryniau Effraim oedd eʼn wreiddiol, ond roedd yn byw yn Gibea gyda phobl llwyth Benjamin. 17Pan welodd eʼr teithiwr yn y sgwâr, dyma feʼn gofyn iddo, “O ble dych chiʼn dod, ac i ble dych chiʼn mynd?” 18A dymaʼr dyn o lwyth Lefiʼn dweud wrtho, “Dŷn ni ar ein ffordd adre o Bethlehem yn Jwda. Dw iʼn byw mewn ardal ym mryniau Effraim syʼn bell o bobman. Dw i wedi bod i Bethlehem, a nawr dw i ar fy ffordd adre.19:18 adre felly LXX; Hebraeg, “i dŷʼr ARGLWYDD”. Ond does neb yn y dref yma wediʼn gwahodd ni i aros gyda nhw. 19Does arnon ni angen dim byd. Mae gynnon ni ddigon o wellt a grawn iʼn mulod, ac mae gynnon ni fwyd a gwin iʼr tri ohonon ni – fi, dy forwyn, aʼr bachgen ifanc sydd gyda ni.” 20“Mae croeso i chi ddod ata i!” meddaiʼr hen ddyn. “Gwna i ofalu amdanoch chi. Well i chi beidio aros ar sgwâr y dref drwyʼr nos!” 21Felly dyma feʼn mynd â nhw iʼw dŷ, ac yn bwydoʼr asynnod. Wedyn, ar ôl golchi eu traed19:21 golchi eu traed Dyma fyddaiʼr arferiad cyn pryd o fwyd, gan fod pobl yn gwisgo sandalau agored. dyma nhwʼn cael pryd o fwyd gydaʼi gilydd.
22Tra oedden nhwʼn mwynhauʼu hunain, dyma griw o rapsgaliwns oʼr dref yn codi twrw, amgylchynuʼr tŷ a dechrau curo ar y drws. Roedden nhwʼn gweiddi ar yr hen ddyn, “Anfon y dyn syʼn aros gyda ti allan. Dŷn ni eisiau cael rhyw gydag e!” 23Ond dymaʼr dyn oedd piauʼr tŷ yn mynd allan atyn nhw, a dweud, “Na, ffrindiau. Peidiwch bod mor ffiaidd! Fy ngwestai i ydyʼr dyn. Peidiwch bod mor amharchus! 24Mae gen i ferch syʼn wyryf, ac mae partner y dyn yma hefyd. Gwna i eu hanfon nhw allan. Gewch chi wneud beth leiciwch chi iddyn nhw. Ond peidiwch meddwl gwneud rhywbeth mor amharchus iʼr dyn yma!”
25Ond roedd y dynion yn gwrthod gwrando arno. Felly dymaʼr dyn o lwyth Lefi yn gafael yn ei bartner ac yn ei gwthio hi allan atyn nhw. A buon nhwʼn ei threisio hi aʼi cham-drin hi drwyʼr nos. Roedd hi bron yn gwawrio cyn iddyn nhwʼi gollwng hiʼn rhydd. 26Dim ond dechrau goleuo oedd hi pan gyrhaeddodd hiʼn ôl iʼr tŷ lle roedd ei gŵr yn aros. Syrthiodd ar lawr tu allan iʼr drws, a dyna lle buodd hiʼn gorwedd nes oedd yr haul wedi codi. 27Pan gododd ei gŵr y bore hwnnw, roedd yn bwriadu cychwyn ar ei daith. Agorodd y drws, a dyna lle roedd ei bartner yn gorwedd wrth ddrws y tŷ, aʼi dwylo ar y trothwy. 28“Tyrd, dŷn niʼn mynd,” meddai wrthi. Ond doedd dim ymateb. Felly dyma feʼn ei chodi ar ei asyn a mynd.
29Pan gyrhaeddodd adre, cymerodd gyllell a thorri corff ei bartner yn un deg dau darn. Yna dyma feʼn anfon y darnau, bob yn un, i bob rhan o Israel. 30Roedd pawb yn dweud, “Does yna ddim byd fel yma wedi digwydd erioed oʼr blaen, ers i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft! Meddyliwch am y peth! A trafodwch beth ddylid ei wneud.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015