No themes applied yet
Llwyth Dan yn setlo yn Laish
1Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Tuaʼr un adeg, roedd llwyth Dan yn edrych am rywle i setlo i lawr. Doedden nhw ddim wedi llwyddo i gymryd y tir oedd wedi cael ei roi iddyn nhw, fel gweddill llwythau Israel. 2Felly dyma lwyth Dan yn anfon pump o ddynion dewr o Sora ac Eshtaol i ysbïoʼr wlad. Dyma nhwʼn cyrraedd tŷ Micha ym mryniau Effraim, a dyna ble wnaethon nhw aros dros nos. 3Tra oedden nhw yno, dyma nhwʼn nabod acen y dyn ifanc o lwyth Lefi, a mynd ato a dechrauʼi holi, “Pwy ddaeth â ti yma? Beth wyt tiʼn wneud yma? Beth ydy dy fusnes di?” 4A dyma feʼn dweud wrthyn nhw beth oedd Micha wediʼi wneud iddo. “Dw i wedi cael swydd ganddo, fel offeiriad,” meddai. 5“Oes gen ti neges gan Dduw i ni?” medden nhw. “Dŷn ni eisiau gwybod os byddwn niʼn llwyddiannus.” 6A dymaʼr offeiriad yn ateb, “Gallwch fod yn dawel eich meddwl. Maeʼr ARGLWYDD gyda chi bob cam oʼr ffordd!”
7Felly dymaʼr pump yn mynd ymlaen ar eu taith ac yn dod i Laish. Doedd y bobl oedd yn byw yno yn poeni am ddim – roedden nhw fel pobl Sidon, yn meddwl eu bod nhwʼn hollol saff. Doedden nhwʼn gweld dim perygl o gwbl a doedd neb yn eu bygwth nhw na dwyn oddi arnyn nhw. Roedden nhwʼn bell oddi wrth Sidon iʼr gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall chwaith.
8Aeth y dynion yn ôl at eu pobl yn Sora ac Eshtaol. A dymaʼr bobl yn gofyn iddyn nhw, “Wel? Sut aeth hi?” 9A dyma nhwʼn ateb, “Dewch! Dŷn ni wedi dod o hyd i le da. Dewch i ymosod arnyn nhw! Peidiwch eistedd ymaʼn diogi! Rhaid i ni fynd ar unwaith a chymryd y tir oddi arnyn nhw. 10Maen nhwʼn meddwl eu bod nhwʼn hollol saff. Mae yna ddigon o dir yna, ac mae Duw yn ei roi i ni! Mae popeth sydd ei angen arnon ni yna!”
11Felly dyma chwe chant o ddynion Dan yn gadael Sora ac Eshtaol, yn barod i frwydro. 12Dyma nhwʼn gwersylla yn Ciriath-iearîm yn Jwda. (Maeʼr lleʼn dal i gael ei alwʼn Wersyll Dan hyd heddiw. Mae iʼr gorllewin o Ciriath-iearîm.) 13Yna aethon nhw yn eu blaenau i fryniau Effraim a chyrraedd tŷ Micha. 14A dymaʼr pum dyn oedd wedi bod yn chwilioʼr ardal yn dweud wrth y lleill, “Wyddoch chi fod yna effod yma ac eilun-ddelwau teuluol, hefyd eilun wediʼi gerfio a delw o fetel tawdd? Beth dych chi am ei wneud?” 15Felly dyma nhwʼn galw heibioʼr tŷ lle roedd y Lefiad ifanc yn byw (tŷ Micha), aʼi gyfarch, “Sut mae pethau?”
16Roedd y chwe chant o filwyr yn sefyll wrth giât y dref. 17Tra oedd yr offeiriad yn sefyll yno gydaʼr milwyr, dymaʼr pum dyn oedd wedi bod yn ysbïoʼr wlad yn torri i mewn iʼw dŷ, a dwyn yr eilun wediʼi gerfio, yr effod, yr eilun-ddelwau teuluol aʼr ddelw o fetel tawdd. 18Pan welodd yr offeiriad nhw, dyma feʼn gofyn, “Beth ydych chiʼn wneud?” 19A dyma nhwʼn ei ateb, “Paid dweud dim! Tyrd gyda ni. Cei di fod yn gynghorydd ac offeiriad i ni. Pa un sydd well – cael bod yn offeiriad i lwyth cyfan yn Israel neu i deulu un dyn?” 20Roedd yr offeiriad wrth ei fodd. Cymerodd yr effod, eilun-ddelwauʼr teulu aʼr eilun wediʼi gerfio, a mynd gyda nhw.
21I ffwrdd â nhw, gydaʼr plant, yr anifeiliaid aʼr eiddo i gyd ar y blaen. 22Yna, pan oedden nhw wedi mynd yn reit bell o dŷ Micha, dyma Micha a chriw o ddynion oedd yn gymdogion iddo yn dod ar eu holau. 23Dyma nhwʼn gweiddi arnyn nhw. A dyma ddynion Dan yn troi a gofyn, “Beth syʼn bod? Pam dych chi wedi dod ar ein holau ni?” 24Dyma Michaʼn ateb, “Dych chi wedi dwyn y duwiau dw i wediʼu gwneud, aʼr offeiriad, a cherdded i ffwrdd! Beth sydd gen i ar ôl? Sut allwch chi ddweud, ‘Beth syʼn bod?’” 25Ond dyma ddynion Dan yn ei ateb, “Byddaiʼn syniad i ti gau dy geg – mae yna ddynion milain yma, a gallen nhw ddod a dy ladd di a dy deulu!” 26A dyma nhwʼn troi a mynd yn eu blaenau ar eu taith. Gwelodd Micha eu bod nhwʼn gryfach naʼr criw o ddynion oedd gyda fe, felly dyma feʼn troi am adre.
27Aeth pobl llwyth Dan yn eu blaenau i Laish, gydaʼr offeiriad aʼr delwau roedd Micha wediʼu gwneud. Doedd pobl Laish yn gweld dim peryg o gwbl ac yn meddwl eu bod yn hollol saff. Ond dyma filwyr Dan yn ymosod arnyn nhw, ac yn llosgiʼr dref yn ulw. 28Doedd neb yn gallu dod iʼw helpu nhw. Roedden nhwʼn rhy bell o Sidon iʼr gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw bobl eraill. Roedd y dref mewn dyffryn heb fod yn bell o Beth-rechof.
Dyma lwyth Dan yn ailadeiladuʼr dref, a symud i fyw yno. 29Cafodd y dref ei galwʼn Dan, ar ôl eu hynafiad, oedd yn un o feibion Israel. Laish oedd yr hen enw arni. 30Cymerodd bobl Dan yr eilun wediʼi gerfio aʼi osod i fyny iʼw addoli, a gwneud Jonathan (oedd yn un o ddisgynyddion Gershom, mab Moses) yn offeiriad. Roedd ei deulu eʼn dal i wasanaethu fel offeiriaid i lwyth Dan adeg y gaethglud! 31Bu llwyth Dan yn dal i addoliʼr eilun gafodd ei wneud gan Micha yr holl amser roedd cysegr Duw yn Seilo.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015