No themes applied yet
Pobl Israel yn paratoi i fynd i ryfel
1Dyma bobl Israel yn dod at ei gilydd yn un dyrfa fawr o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa. Roedden nhw wedi dod o bobman – o Dan yn y gogledd i Beersheba20:1 Dan … Beersheba Roedd Dan wrth droed Mynydd Hermon yn y gogledd, ar y llwybr masnach i Damascus. Roedd Beersheba 23 milltir iʼr de-orllewin o Hebron, ar y prif lwybr masnach iʼr Aifft. yn y de, ac o dir Gilead iʼr dwyrain o afon Iorddonen. 2A dyma arweinwyr llwythau Israel yn cymryd eu lle – roedd 400,000 o filwyr traed wediʼu harfogi yno i gyd.
3Clywodd llwyth Benjamin fod gweddill pobl Israel wedi dod at ei gilydd yn Mitspa. A dyma bobl Israel yn gofyn, “Sut allai peth mor ofnadwy fod wedi digwydd?” 4Atebodd y dyn o lwyth Lefi (gŵr y wraig oedd wedi cael ei llofruddio), “Rôn i aʼm partner wedi cyrraedd Gibea, sydd ar dir Benjamin, i aros dros nos. 5A dyma arweinwyr Gibea yn dod ar fy ôl i, ac yn amgylchynuʼr tŷ lle roedden niʼn aros. Roedden nhw am fy lladd i. Ond yn lle hynny, dyma nhwʼn treisio a cham-drin fy mhartner i nes buodd hi farw. 6Roedd yn beth hollol erchyll i bobl Israel ei wneud. Felly dyma fiʼn cymryd ei chorff, ei dorriʼn ddarnau, ac anfon y darnau i bob rhan o dir Israel. 7Rhaid i chi, bobl Israel, benderfynu beth ddylid ei wneud!”
8Dyma nhwʼn cytunoʼn unfrydol, “Does neb ohonon ni am fynd adre – neb o gwbl – 9nes byddwn ni wedi delio gyda phobl Gibea. Rhaid i ni ymosod ar y dre. Gwnawn ni dynnu coelbren i benderfynu pa lwyth ddylai arwain yr ymosodiad. 10Bydd degfed ran dynion pob llwyth yn gyfrifol am nôl bwyd iʼr milwyr. Pan fydd y fyddin yn cyrraedd Gibea, byddan nhwʼn eu cosbi nhw am wneud peth mor erchyll yn Israel.” 11Felly aeth dynion Israel i gyd gydaʼi gilydd i ymosod ar dref Gibea.
12Dyma nhwʼn anfon negeswyr at lwyth Benjamin i ofyn, “Sut allech chi fod wedi gwneud peth mor ofnadwy? 13Anfonwch y rapsgaliwns yn Gibea sydd wedi gwneud hyn aton ni, i gael eu dienyddio. Rhaid cael gwared âʼr drwg yma o Israel.” Ond doedd pobl llwyth Benjamin ddim yn fodlon cydweithredu. 14Yn lle hynny, dyma nhwʼn dod oʼu trefi i Gibea, a chasglu yno i fynd i ryfel yn erbyn gweddill Israel. 15Roedd dau ddeg chwe mil o filwyr arfog o lwyth Benjamin wedi ymuno gydaʼr saith mil o filwyr profiadol oedd yn Gibea ei hun. 16Roedd y fyddin yn cynnwys saith gant o ddynion llaw chwith oedd yn gallu taro targed i drwch blewyn gyda charreg o ffon dafl.
17Roedd gan weddill Israel bedwar can mil o filwyr arfog profiadol. 18Cyn y frwydr, aethon nhw i Bethel20:18 Bethel Gallaiʼr Hebraeg beth-el yma olygu “tŷ Dduw”, ac mai cyfeiriad sydd yma at y Tabernacl yn Seilo (gw. 18:30,31). i ofyn i Dduw, “Pwy sydd i arwain y frwydr yn erbyn llwyth Benjamin?” A dymaʼr ARGLWYDD yn ateb, “Llwyth Jwda sydd i arwain.”
Y frwydr
19Yn gynnar y bore wedyn, dyma fyddin Israel yn paratoi i ymosod ar Gibea. 20Dyma nhwʼn mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin, a threfnuʼu hunain yn rhengoedd yn barod i ymosod ar Gibea. 21Ond daeth milwyr llwyth Benjamin allan o Gibea, a lladd dau ddeg dwy fil o filwyr Israel yn y frwydr y diwrnod hwnnw. 22Ond wnaeth byddin Israel ddim digalonni. Dyma nhwʼn mynd allan eto, a sefyll mewn trefn yn yr un lle âʼr diwrnod cynt. 23Roedden nhw wedi mynd yn ôl i Bethel, ac wedi bod yn crio o flaen yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedden nhw wedi gofyn iʼr ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu ddim?” Ac roedd yr ARGLWYDD wedi ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw!”
24Felly dyma fyddin Israel yn mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin yr ail ddiwrnod. 25Ond daeth milwyr Benjamin allan o Gibea unwaith eto, a lladd un deg wyth mil arall o filwyr Israel. 26Felly dyma fyddin Israel i gyd yn mynd yn ôl i Bethel. Buon nhwʼn eistedd ynoʼn crio o flaen yr ARGLWYDD, a wnaethon nhw ddim bwyta o gwbl nes roedd hi wedi nosi. Buon nhw hefyd yn cyflwyno aberthau iʼw llosgi ac offrymau i gydnabod daioniʼr ARGLWYDD. 27-28Dyna lle roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar y pryd, gyda Phineas (mab Eleasar ac ŵyr i Aaron) yn gwasanaethu fel offeiriad. Dyma nhwʼn gofyn iʼr ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu roiʼr gorau iddi?” A dymaʼr ARGLWYDD yn ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw! Dw iʼn mynd iʼw rhoi nhwʼn eich dwylo chi.”
29Felly dyma Israel yn anfon dynion i guddio o gwmpas Gibea, i ymosod yn ddirybudd. 30Y diwrnod wedyn, dymaʼr fyddin yn mynd allan eto i ymosod ar lwyth Benjamin. Roedden nhwʼn sefyll yn rhengoedd fel oʼr blaen, yn barod i ymosod ar Gibea. 31A dyma fyddin Benjamin yn dod allan i ymladd yn eu herbyn, gan adael y dref heb ei hamddiffyn. Dyma nhwʼn dechrau taro byddin Israel, fel oʼr blaen. Cafodd tua tri deg o filwyr Israel eu lladd yng nghefn gwlad ac ar y ffyrdd (sef y ffordd syʼn mynd i Bethel, aʼr un syʼn mynd i Gibea). 32Felly roedd byddin Benjamin yn meddwl eu bod nhwʼn eu curo nhw fel oʼr blaen. Ond tacteg Israel oedd ffoi oʼu blaenau nhw er mwyn eu harwain nhw i ffwrdd o dref Gibea iʼr priffyrdd. 33Pan ddaeth byddin Israel i Baal-tamar, dyma nhwʼn ailgasglu a threfnuʼu hunain yn rhengoedd, yn barod i ymladd. Yr un pryd, dymaʼr milwyr oedd yn cuddio iʼr gorllewin o Gibea yn dod allan 34ac yn ymosod ar y dref – deg mil o filwyr profiadol i gyd. Roedd y brwydroʼn filain, ond doedd gan filwyr Benjamin ddim syniad eu bod nhw ar fin cael crasfa.
Sut oedd Israel wedi ennill y frwydr
35Dymaʼr ARGLWYDD yn taro byddin Benjamin i lawr o flaen milwyr Israel. Cafodd 25,100 o filwyr Benjamin eu lladd. 36Roedd byddin Benjamin yn gweld ei bod ar ben arnyn nhw! Roedd byddin Israel wedi ffoi o flaen milwyr llwyth Benjamin, gan wybod fod ganddyn nhw ddynion yn cuddio ac yn barod i ymosod ar Gibea. 37Ac roedd y dynion hynny wedi rhuthro i ymosod ar y dre a lladd pawb oedd yn byw yno. 38Roedden nhw wedi trefnu i roi arwydd i weddill y fyddin eu bod nhw wedi llwyddo – sef, cynnau tân a gwneud i golofn o fwg godi oʼr dref. 39Dyna pryd fyddai byddin Israel yn troi a dechrau gwrthymosod.
Pan oedd milwyr Benjamin wedi lladd rhyw dri deg o filwyr Israel, roedden nhwʼn meddwl eu bod nhwʼn ennill y frwydr fel oʼr blaen. 40Ond yna dyma nhwʼn gweld colofn o fwg yn codi oʼr dref. Roedd y dref i gyd ar dân, a mwg yn codiʼn uchel iʼr awyr. 41Pan drodd byddin Israel i ymladd, dyma filwyr llwyth Benjamin yn panicio – roedden nhwʼn gweld ei bod hi ar ben arnyn nhw. 42Dyma nhwʼn ffoi o flaen byddin Israel, ar hyd y ffordd iʼr anialwch. Ond roedden nhwʼn methu dianc. Roedd milwyr Israel yn eu taro nhw o bob cyfeiriad. 43Roedden nhw wedi amgylchynu byddin Benjamin a wnaethon nhw ddim stopio mynd ar eu holau. Roedden nhwʼn eu taro nhw i lawr yr holl ffordd iʼr dwyrain o Geba.
44Roedd un deg wyth o filoedd o filwyr gorau llwyth Benjamin wediʼu lladd. 45Dymaʼr gweddill yn dianc iʼr anialwch, i gyfeiriad Craig Rimmon. Ond lladdodd byddin Israel bum mil ohonyn nhw ar y ffordd. Dyma nhwʼn aros yn dynn ar eu sodlau yr holl ffordd i Gidom, a lladd dwy fil arall. 46Felly cafodd dau ddeg pum mil o filwyr llwyth Benjamin eu lladd y diwrnod hwnnw – i gyd yn filwyr profiadol. 47Chwe chant wnaeth lwyddo i ddianc i Graig Rimmon, a buon nhw yno am bedwar mis. 48Dyma fyddin Israel yn troiʼn ôl a mynd drwy drefi Benjamin i gyd, yn lladd popeth byw, pobl ac anifeiliaid. Wedyn roedden nhwʼn llosgiʼr trefiʼn llwyr, bob un.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015