No themes applied yet
Job am fod yn gwbl onest
1Yna dyma Job yn mynd yn ei flaen i ddweud:
2“Mor sicr âʼi fod yn fyw, dydy Duw ddim wedi bod yn deg!
Maeʼr Un syʼn rheoli popeth wedi gwneud fy enaid yn chwerw!
3Tra mae bywyd yn dal ynof i,
ac anadl Duw yn fy ffroenau,
4wna i byth ddweud gair o gelwydd,
na siarad yn dwyllodrus.
5Wna i byth gytuno mai chi syʼn iawn!
Bydda iʼn onest hyd fy medd –
6Dw iʼn dal i fynnu mai fi syʼn iawn;
mae fy nghydwybod iʼn glir!
7Boed iʼm gelyn gael ei drin fel un drwg;
yr un syʼn ymosod arna i, fel yr anghyfiawn.
8Pa obaith sydd iʼr annuwiol pan maeʼn marw,
a Duw yn dwyn ei fywyd oddi arno?
9Fydd Duw yn gwrando arnoʼn gweiddi
pan fydd mewn trafferthion?
10Fydd eʼn ymgolli yn yr Un syʼn rheoli popeth?
Fydd eʼn galw ar Dduw yn ddi-baid?
11Dysgaf i i chi am nerth Duw,
heb guddio dim o fwriad yr Un syʼn rheoli popeth.
12Dych chi wedi gweld y peth eich hunain,
felly pam dych chiʼn dal i siarad y fath nonsens?
13Dyma mae pobl ddrwg yn ei gael gan Dduw,
aʼr gormeswr yn ei dderbyn gan yr Un syʼn rheoli popeth:
14Er iddo gael llawer o blant – cânt eu taro âʼr cleddyf;
fydd gan ei deulu ddim digon o fwyd.
15Bydd y rhai syʼn goroesi yn marw oʼr pla,
a fydd dim amser iʼr gweddwon alaru.
16Er casglu pentwr o arian fel pridd,
a thomen o ddillad fel baw –
17gall gasgluʼr cwbl, ond y cyfiawn fydd yn eu gwisgo,
aʼr diniwed fydd yn rhannuʼr arian.
18Maeʼr tŷ maeʼn ei godi yn frau fel cocŵn gwyfyn,
neuʼr lloches dros dro maeʼr gwyliwr yn ei chreu.
19Maeʼn mynd iʼw wely yn gyfoethog, ond am y tro olaf;
pan fydd yn agor ei lygaid bydd y cwbl wedi mynd.
20Mae dychryn yn dod drosto fel ffrydlif,
aʼr storm yn ei gipio yn y nos.
21Mae gwynt y dwyrain yn ei godi aʼi gymryd,
aʼi ysgubo i ffwrdd oʼi le;
22maeʼn ei daroʼn ddidrugaredd
wrth iddo drioʼi orau i ddianc oʼi afael;
23maeʼn curoʼi ddwyloʼn wawdlyd,
a chwibanu wrth ei yrru oʼi le.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015