No themes applied yet
Duw a doethineb
1Mae cloddfa i arian,
a lle i aur gael ei buro.
2Mae haearn yn cael ei dynnu oʼr ddaear,
a chopr yn cael ei doddi oʼr garreg.
3Mae dynion yn mynd â golau iʼr tywyllwch,
ac yn chwilio ym mhob cilfach
am y mwynau sydd yn y tywyllwch dudew.
4Maen nhwʼn agor siafft ymhell oddi wrth bawb,
mewn lleoedd nad oes neb wedi cerdded,
ac yn siglo wrth hongian ymhell o olwg pobl.
5Ar y ddaear mae bwyd yn tyfu,
ond islaw mae tân yn ei thoddi.
6Mae saffir iʼw gael yn y cerrig,
ac aur yn ei llwch hefyd.
7All aderyn rheibus ddim mynd ato;
all llygad barcud ddim gweld y llwybr yno.
8Fu anifeiliaid rheibus ddim yn troedio yno;
does dim llew wedi pasio heibio.
9Mae chwarelwyr yn taroʼr graig galed,
ac yn symud sylfeiniʼr mynyddoedd.
10Maen nhwʼn agor siafftiau yn y creigiau,
ac yn edrych am bethau gwerthfawr.
11Maen nhwʼn archwilio ble mae afonydd yn tarddu
a dod âʼr hyn oedd oʼr golwg iʼr golau.
12Ond ble mae dod o hyd i ddoethineb?
Ble mae deall iʼw gael?
13Does neb yn gwybod ble mae;
dydy e ddim iʼw gael ar dir y byw.
14Maeʼr dyfnder yn dweud, ‘Dydy e ddim yma,’
aʼr môr yn dweud, ‘Dydy e ddim gen i.’
15Does dim modd ei brynu gyda bar o aur,
na thalu amdano drwy bwyso arian.
16Ellir ddim ei brynu gydag aur Offir,28:16 Offir Does dim sicrwydd ble roedd Offir. Affrica neu India falle. Roedd aur Offir yn cael ei ystyried fel yr aur gorau.
nac onics gwerthfawr, na saffir chwaith.
17Dydy aur na grisial ddim cystal,
ac ni ellir ffeirio llestri o aur pur amdano.
18Dydy cwrel a grisial ddim gwerth sôn amdanyn nhw;
mae pris doethineb yn uwch na pherlau.
19Dydy topas Affrica28:19 Affrica Hebraeg, Cwsh. Yr ardal iʼr de o wlad yr Aifft, sef gogledd Swdan heddiw. yn werth dim oʼi gymharu,
a dydy aur pur ddim yn ddigon iʼw brynu.
20O ble mae doethineb yn dod?
Ym mhle mae deall iʼw gael?
21Mae wediʼi guddio oddi wrth bopeth byw,
hyd yn oed yr adar yn yr awyr.
22Mae Abadon28:22 Abadon, sef “lle dinistr”. a Marwolaeth yn dweud,
‘Dŷn ni ond wedi clywed rhyw si amdano.’
23Dim ond Duw syʼn gwybod sut iʼw gyrraedd;
mae eʼn gwybod o ble maeʼn dod.
24Mae eʼn gweld i bedwar ban byd;
maeʼn gweld popeth sydd dan yr haul.
25Pan benderfynodd pa mor gryf ydyʼr gwynt,
a mesur maint y dyfroedd;
26pan osododd reolau iʼr glaw
a llwybr iʼr mellt aʼr taranau,
27gwelodd ddoethineb, a mesur ei werth;
ei sefydlu aʼi archwilioʼn ofalus.
28A dwedodd wrth y ddynoliaeth:
‘Parchuʼr ARGLWYDD – dyna syʼn ddoeth;
peth call ydy troi cefn ar ddrygioni.’”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015