No themes applied yet
Job yn torri ar ei draws: mae Duw mor fawr
1A dyma Job yn ateb:
2“O, tiʼn gymaint o help iʼr gwan!
Ti wedi cynnal braich yr un sydd heb nerth!
3Mae dy gyngor mor werthfawr i rywun sydd mor ddwl!
Ti wedi bod mor hael yn rhannu dy ddoethineb!
4Pwy wnaeth ddysgu hyn i gyd i ti?
Pwy syʼn dy ysbrydoli i siarad fel yma?
5Maeʼr meirw yn crynu o flaen Duw –
pawb syʼn byw yn y byd dan y dŵr.
6Mae Annwn26:6 Annwn Hebraeg, Sheol, sef “y byd tanddaearol lle maeʼr meirw yn mynd”. yn noeth oʼi flaen,
ac Abadon26:6 Abadon, sef “lle dinistr”. heb orchudd iʼw guddio.
7Duw syʼn lleduʼr sêr dros yr anhrefn,
ac yn hongian y ddaear uwch y gwagle.
8Maeʼn rhwymoʼr dŵr yn ei gymylau trwchus,
ond does yr un yn byrstio dan y pwysau.
9Maeʼn cuddio wyneb y lleuad llawn
drwy ledu ei gymylau drosto.
10Maeʼn marcioʼr gorwel ar wyneb y moroedd,
fel terfyn rhwng y golau aʼr tywyllwch.
11Mae colofnauʼr nefoedd yn crynu,
wediʼu dychryn gan ei gerydd.
12Maeʼn gallu taweluʼr môr;
trawodd fwystfil y môr26:12 fwystfil y môr Hebraeg, Rahab. i lawr drwy ei ddoethineb.
13Mae ei wynt yn clirioʼr awyr;
trywanodd y sarff wibiog âʼi law.
14A dydy hyn prin yn cyffwrdd ei allu!
Mae fel rhyw sibrydiad bach tawel.
Pwy all ddychmygu holl rym ei nerth?”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015