No themes applied yet
Llythyr Jeremeia at yr Iddewon yn Babilon
1Dyma lythyr Jeremeia at yr arweinwyr oedd ar ôl, yr offeiriaid aʼr proffwydi, a phawb arall o Jerwsalem oedd wediʼu cymryd yn gaeth i Babilon gan y Brenin Nebwchadnesar.29:1 cymryd yn gaeth … Nebwchadnesar Roedd hyn wedi digwydd yn 598 CC – 2 Brenhinoedd 24:14-17. 2(Roedd hyn ar ôl iʼr Brenin Jehoiachin29:2 Jehoiachin Hebraeg, Jechoneia, oedd yn enw arall ar Jehoiachin. aʼr fam frenhines, swyddogion y palas brenhinol, arweinwyr Jwda a Jerwsalem, y seiri coed aʼr gweithwyr metel i gyd gael eu cymryd i ffwrdd yn gaeth o Jerwsalem.) 3Elasa fab Shaffan29:3 Elasa fab Shaffan Aelod o deulu dylanwadol iawn. Brawd i Achicam oedd wedi cefnogi Jeremeia flynyddoedd ynghynt, ac ewyrth i Gedaleia, gafodd ei wneud yn llywodraethwr Jwda ar ôl i Jerwsalem gael ei choncro yn 586 CC. a Gemareia fab Chilceia aeth âʼr llythyr yno. Roedden nhw wediʼu hanfon i Babilon at Nebwchadnesar gan Sedeceia, brenin Jwda. Dymaʼr llythyr:
4Dyma maeʼr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud wrth y bobl mae wediʼu hanfon yn gaeth o Jerwsalem i Babilon: 5“Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwytaʼr hyn syʼn tyfu ynddyn nhw. 6Priodwch a chael plant. Dewiswch wragedd iʼch meibion a gadael iʼch merched briodi, er mwyn iddyn nhw hefyd gael plant. Dw i eisiau iʼch niferoedd chi dyfu, yn lle lleihau. 7Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas lle dw i wedi mynd â chiʼn gaeth. Gweddïwch ar yr ARGLWYDD drosti. Ei llwyddiant hi fydd eich llwyddiant chi.”
8Achos dyma maeʼr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Peidiwch gadael iʼr proffwydi sydd gyda chi, aʼr rhai hynny syʼn dweud ffortiwn, eich twyllo chi. Peidiwch cymryd sylw oʼu breuddwydion.29:8 Deuteronomium 13:1-5 9Maen nhwʼn hawlio eu bod nhwʼn siarad drosto i, ond yn dweud celwydd! Wnes i moʼu hanfon nhw,” meddaiʼr ARGLWYDD.
10Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pan fydd Babilon wedi rheoli am saith deg mlynedd29:10 Jeremeia 25:11; 2 Cronicl 36:21; Daniel 9:2 bydda iʼn cymryd sylw ohonoch chi eto. Dyna pryd y bydda iʼn gwneud y pethau da dw i wediʼu haddo, a dod â chi yn ôl yma iʼch gwlad eich hunain. 11Fi syʼn gwybod beth dw i wediʼi gynllunio ar eich cyfer chi,” meddaiʼr ARGLWYDD. “Dw iʼn bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi.29:11 Deuteronomium 4:29-31 12Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda iʼn gwrando. 13Os byddwch chiʼn chwilio amdana i o ddifri, âʼch holl galon,29:13 Deuteronomium 6:5; 13:3 byddwch chiʼn fy ffeindio i. 14Bydda iʼn gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddaiʼr ARGLWYDD. “Bydda iʼn rhoiʼr cwbl wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi. Bydda iʼn eich casglu chi yn ôl oʼr holl wledydd wnes i eich gyrru chi i ffwrdd iddyn nhw. Bydda iʼn dod â chi adre iʼch gwlad eich hunain.”
15“Ond maeʼr ARGLWYDD wedi rhoi proffwydi i ni yma yn Babilon,” meddech chi. 16Felly gwrandwch beth maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud am y brenin syʼn eistedd ar orsedd Dafydd yma yn Jerwsalem, ac am eich perthnasau syʼn dal i fyw yma a heb gael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion gyda chi. 17Dyma maeʼr ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Dw iʼn mynd i anfon rhyfel, newyn a haint iʼw taro nhw. Byddan nhw fel ffigys ffiaidd sydd ddim ffit iʼw bwyta. 18Dw iʼn mynd i anfon rhyfel, newyn a haint iʼw taro nhw. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Byddan nhwʼn enghraifft o wlad wediʼi melltithio. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd, pethau fydd yn achosi i bobl chwibanu mewn rhyfeddod. A byddan nhwʼn destun sbort iʼr gwledydd lle bydda iʼn eu hanfon nhwʼn gaeth. 19Bydd hyn yn digwydd am eu bod nhw heb wrando na chymryd sylw o beth dw i wediʼi ddweud dro ar ôl tro drwy fy ngweision y proffwydi,” meddaiʼr ARGLWYDD.
20Felly – chi sydd wediʼch gyrru i ffwrdd o Jerwsalem yn gaeth i Babilon – gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD. 21Dyma maeʼr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Ahab fab Colaia a Sedeceia fab Maaseia syʼn proffwydo celwydd ac yn hawlio eu bod nhwʼn siarad drosto i: “Dw iʼn mynd iʼw rhoi nhw yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon, a bydd eʼn eu lladd nhw oʼch blaenau chi. 22Bydd gan bobl Jwda syʼn gaeth yn Babilon y dywediad yma wrth felltithio rhywun: ‘Boed iʼr ARGLWYDD dy wneud di fel Sedeceia ac Ahab, gafodd eu llosgiʼn fyw gan frenin Babilon!’ 23Maen nhw wedi gwneud pethau gwarthus yn Israel, wedi cysgu gyda gwragedd dynion eraill a dweud celwydd, traʼn honni eu bod nhwʼn siarad drosto i. Wnes i ddim dweud dim wrthyn nhw. Ond dw iʼn gwybod yn iawn ac wedi gweld beth maen nhw wediʼi wneud,” meddaiʼr ARGLWYDD.
Ymateb i lythyr Shemaia
24Yna dywed wrth Shemaia o Nechelam: 25dyma maeʼr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel yn ei ddweud: “Anfonaist lythyrau ar dy liwt dy hun at y bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia fab Maaseia aʼr offeiriaid eraill i gyd, yn dweud fel hyn, 26‘Maeʼr ARGLWYDD wedi dy wneud diʼn offeiriad yn lle Jehoiada, i fod yn gyfrifol am beth syʼn digwydd yn y deml, a delio gydag unrhyw wallgofddyn syʼn dod yno a chymryd arno ei fod yn broffwyd. Dylet ei ddal a rhoi coler haearn a chyffion arno. 27Felly pam wyt ti ddim wedi ceryddu Jeremeia o Anathoth am gymryd arno ei fod yn broffwyd? 28Mae e wedi anfon neges aton ni yn Babilon, yn dweud, “Dych chiʼn mynd i fod yna am amser hir. Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwytaʼr hyn syʼn tyfu ynddyn nhw.”’
29Darllenodd Seffaneiaʼr offeiriad y llythyr i Jeremeia. 30A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia, 31‘Anfon y neges yma at y bobl sydd wediʼu cymryd yn gaeth i Babilon: “Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud am Shemaia o Nechelam: ‘Mae Shemaia yn siarad fel petaiʼn broffwyd, ond wnes i ddim ei anfon e. Mae e wedi gwneud i chi gredu celwydd!’ 32Felly, dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw iʼn mynd i gosbi Shemaia aʼi deulu. Fydd neb ohonyn nhwʼn cael byw i weld y pethau da dw iʼn mynd iʼw gwneud iʼm pobl. Fi, yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn. Mae e wedi annog pobl i wrthryfela yn fy erbyn i.’”’”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015