No themes applied yet
Mae Duw yn mynd i ddod âʼi bobl yn ôl iʼw gwlad
(30:1–33:26)
Gobaith! – Duw yn addo adfer ei bobl
1Neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia: 2“Dyma maeʼr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i eisiau i ti ysgrifennu popeth dw iʼn ei ddweud wrthot ti ar sgrôl. 3Maeʼr amser yn dod,’ meddaiʼr ARGLWYDD, ‘pan fydda iʼn rhoiʼr cwbl wnaeth fy mhobl Israel a Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw. Dw iʼn mynd i ddod â nhwʼn ôl iʼr wlad rois i iʼw hynafiaid. Byddan nhwʼn ei chymryd hiʼn ôl eto.’”
Bydd Israel a Jwdaʼn cael eu hachub
4Dymaʼr neges roddodd yr ARGLWYDD i mi am bobl Israel a Jwda. 5“Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud:
‘Sŵn pobl yn gweiddi mewn panig a dychryn sydd iʼw glywed;
does dim sôn am heddwch!’
6Ond meddyliwch am hyn:
ydy dyn yn gallu cael babi?
Na? Felly pam dw iʼn gweld y dynion cryf yma i gyd
yn dal eu boliau fel gwraig yn cael babi?
Pam mae eu hwynebau nhw i gyd yn wyn fel y galchen?
7O! Maeʼn amser caled ofnadwy!
Does erioed gyfnod tebyg wedi bod oʼr blaen.
Maeʼn argyfwng ofnadwy ar bobl Jacob –
ac eto byddan nhw yn cael eu hachub.”
8Yr ARGLWYDD hollbwerus syʼn dweud hyn, “Bryd hynny bydda iʼn torriʼr iau sydd ar eu gwar a dryllioʼr rhaffau syʼn eu dal yn gaeth. Fydd pobl estron ddim yn feistri arnyn nhw o hynny ymlaen. 9Byddan nhwʼn gwasanaethuʼr ARGLWYDD eu Duw aʼr un o linach Dafydd fydda iʼn ei wneud yn frenin arnyn nhw.”
10“Felly, peidiwch bod ag ofn, bobl Jacob, fy ngweision,”
–yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn.
“Peidiwch anobeithio, bobl Israel.
Dw iʼn mynd iʼch achub chi aʼch plant
oʼr wlad bell lle buoch yn gaeth.
Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch.
Byddan nhwʼn teimloʼn saff a fydd neb yn eu dychryn nhw.
11Dw i gyda chi, iʼch achub chi,”
–yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn.
“Dw iʼn mynd i ddinistrioʼr gwledydd hynny
lle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl,
ond wna i ddim eich dinistrio chi.
Ydw, dw iʼn mynd iʼch disgyblu,
ond dim ond faint dych chiʼn ei haeddu;
alla i ddim peidioʼch cosbi chi o gwbl.”
12Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Does dim modd gwella dy friwiau;
ti wedi dy anafuʼn ddifrifol.
13Does neb yn gallu dy helpu di.
Does dim eli i wellaʼr dolur;
does dim iachâd.
14Mae dy ‘gariadon’30:14 gariadon Cyfeiriad at y gwledydd roedd Jwdaʼn pwyso arnyn nhw am help. i gyd wedi dy anghofio di.
Dŷn nhwʼn poeni dim amdanat ti!
Dw i wedi dy daro di fel petawn iʼn elyn;
rwyt wedi diodde cosb greulon,
am dy fod wedi bod mor ddrwg
ac wedi pechu mor aml.
15Pam wyt tiʼn cwyno am dy friwiau?
Does dim modd gwella dy boen
Dw i wedi gwneud hyn i gyd i ti
am dy fod ti wedi bod mor ddrwg
ac wedi pechu mor aml.
16Ond bydd y rhai wnaeth dy larpio di yn cael eu llarpio.
Bydd dy elynion i gyd yn cael eu cymryd yn gaeth.
Bydd y rhai wnaeth dy ysbeilio yn cael eu hysbeilio,
aʼr rhai wnaeth ddwyn dy drysorau yn colli popeth.
17Ydw, dw iʼn mynd i dy iacháu di;
dw iʼn mynd i wella dy friwiau,”
–yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn.
“Roedden nhwʼn dy alw di ‘yr un gafodd ei gwrthod’.
‘Does neb yn poeni am Seion,’ medden nhw.”
18Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Dw iʼn mynd i adfer tai pobl Jacob,
a thosturio wrth eu teuluoedd.
Bydd y ddinas yn cael ei chodi eto ar safle ei hadfeilion,
aʼr palas yn cael ei ailadeiladu lle roedd oʼr blaen.
19Bydd canu mawl a diolch a sŵn pobl yn joio
iʼw clywed yn dod oddi yno.
Bydda iʼn gwneud iʼw poblogaeth dyfu yn lle lleihau;
bydda iʼn eu hanrhydeddu yn lle eu bod yn cael eu bychanu.
20Bydd disgynyddion Jacob yn profiʼr bendithion fel oʼr blaen.
Bydda iʼn eu sefydlu nhw eto fel cymuned o bobl,
a bydda iʼn cosbi pawb sydd am eu gorthrymu nhw.
21Bydd eu harweinydd yn un oʼu pobl eu hunain;
bydd yr un syʼn eu rheoli yn dod oʼu plith.
Bydda iʼn ei wahodd i ddod ata i, a bydd yn dod.
Pwy fyddaiʼn mentro dod heb gael gwahoddiad?”
–yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn.
22“Byddwch chiʼn bobl i mi,
a bydda iʼn Dduw i chi.”
23Gwyliwch chi! Maeʼr ARGLWYDD yn ddig.
Maeʼn dod fel storm,
fel corwynt dinistriol fydd yn disgyn ar y rhai drwg.
24Fydd llid ffyrnig yr ARGLWYDD ddim yn tawelu
nes bydd wedi gwneud popeth maeʼn bwriadu ei wneud.
Byddwch chiʼn dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015