No themes applied yet
Helpu pobl eraill
1Frodyr a chwiorydd, os ydy rhywun yn cael ei ddal yn pechu, dylech chi syʼn cael eich arwain gan yr Ysbryd fod yn garedig ato, aʼi helpu i droiʼn ôl – ond gwyliwch rhag i chithau gael eich temtio i wneud yr un peth. 2Helpwch eich gilydd pan mae pethauʼn galed – dyna mae ‘cyfraith’ y Meseia yn ei ofyn. 3Os dych chiʼn meddwl eich bod chiʼn rhywun, dych chiʼn twylloʼch hunain – dych chiʼn neb mewn gwirionedd. 4Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wediʼi wneud heb orfod cymharuʼch hunain â phobl eraill o hyd. 5Dŷn niʼn gyfrifol am beth dŷn niʼn hunain wediʼi wneud.
6Dylaiʼr rhai syʼn cael eu dysgu am neges Duw dalu iʼw hathro drwy rannu beth sydd ganddyn nhw gydag e.
7Peidiwch twylloʼch hunain: Allwch chi ddim chwarae gemau gyda Duw. Mae pobl yn medi beth maen nhwʼn ei hau. 8Bydd y rhai syʼn byw i foddhau eu chwantau pechadurus yn medi canlyniadau hynny, sef dinistr; ond bydd y rhai syʼn byw i blesioʼr Ysbryd yn medi bywyd tragwyddol oʼr Ysbryd. 9Felly dylen ni byth flino gwneud daioni. Os gwnawn ni ddal ati dawʼr amser pan fyddwn niʼn medi cynhaeaf o fendith. 10Felly bob cyfle gawn ni, gadewch i ni wneud daioni i bawb, ac yn arbennig iʼr teulu o gredinwyr.
Dim y ddefod o enwaediad ond creadigaeth newydd
11Edrychwch mor fawr ydy fy llawysgrifen i!
12Maeʼr rhai syʼn ceisio eich gorfodi chi i gael eich enwaedu yn gwneud sioe o beth sydd wediʼi wneud iʼr corff. A pham? Am eu bod nhw eisiau osgoi cael eu herlid am ddweud mai dim ond croes y Meseia syʼn achub. 13Ond dydyʼr rhai sydd wediʼu henwaedu ddim yn gwneud popeth maeʼr Gyfraith Iddewig yn ei ddweud beth bynnag! Y rheswm pam maen nhw eisiau i chi fynd drwyʼr ddefod o gael eich enwaedu ydy er mwyn iddyn nhw gael brolio am y peth! 14“Na!” meddwn innau. Does ond un peth i frolio amdano: croes ein Harglwydd Iesu Grist ydy hwnnw. Maeʼr groes yn golygu fod y byd aʼi bethau yn hollol farw i mi, a dw innauʼn farw iʼr byd aʼi bethau. 15Dim cael eich enwaedu neu beidio syʼn bwysig bellach. Beth syʼn bwysig ydy bod eich bywyd chi wediʼi newid yn llwyr – eich bod chiʼn greadigaeth newydd! 16Dw iʼn gweddïo y bydd pawb syʼn byw fel hyn, a phobl Dduw i gyd, yn profi ei heddwch dwfn aʼi drugaredd!
17Felly o hyn ymlaen, peidied neb â dal ati i greu mwy o helynt i mi. Mae gen i greithiau ar fy nghorff syʼn dangos mod iʼn perthyn i Iesu!
18Frodyr a chwiorydd, dw iʼn gweddïo y byddwch chiʼn profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015