No themes applied yet
Rhyddid wrth berthyn iʼr Meseia
1Dŷn niʼn rhydd! Maeʼr Meseia wediʼn gollwng niʼn rhydd! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn aros felly, a gwrthod carioʼr baich o fod yn gaeth byth eto.
2Gwrandwch yn ofalus! Dyma dw i, Paul, yn ei ddweud wrthoch chi – os dych chiʼn mynd drwyʼr ddefod o gael eich enwaedu yn y gobaith o blesio Duw, does gan y Meseia ddim iʼw gynnig i chi bellach. 3Dw iʼn eich rhybuddio chi eto – os ydy dyn yn cael ei enwaedu, mae ganddo gyfrifoldeb wedyn i wneud popeth maeʼr Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. 4Os dych chiʼn ceisio cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolauʼr Gyfraith, dych chi wediʼch torri i ffwrdd oddi wrth y Meseia! Dych chi wedi colli gafael ar rodd Duw. 5Ond wrth gredu a byw yn nerth yr Ysbryd dŷn niʼn gallu edrych ymlaen yn frwd at gael perthynas hollol iawn gyda Duw – dynaʼn gobaith sicr ni. 6Os oes gynnoch chi berthynas gydaʼr Meseia Iesu does dim gwahaniaeth os dych chi wedi bod drwyʼr ddefod o gael eich enwaedu neu beidio. Credu syʼn bwysig – ffydd yn mynegi ei hun mewn bywyd o gariad.
7Roeddech chiʼn dod ymlaen mor dda. Pwy wnaeth eich rhwystro chi rhag ufuddhau iʼr gwir? 8Does gan y fath syniadau ddim byd iʼw wneud âʼr Duw wnaeth eich galw chi atoʼi hun! 9Fel maeʼr hen ddywediad yn dweud: “Mae mymryn bach o furum yn lledu drwyʼr toes i gyd.” Dyna mae drwg yn ei wneud! 10Dw iʼn hyderus y bydd yr Arglwydd yn eich cadw chi rhag creduʼn wahanol. Ond bydd Duw yn cosbiʼr un sydd wedi bod yn eich drysu chi, pwy bynnag ydy e. 11Frodyr a chwiorydd, os ydw iʼn dal i bregethu bod rhaid mynd drwy ddefod enwaediad, pam ydw iʼn dal i gael fy erlid? Petawn iʼn gwneud hynny, fyddaiʼr groes ddim problem i neb. 12Byddaiʼn dda gen i petaiʼr rhai syʼn creuʼr helynt yn eich plith chi yn mynd yr holl ffordd ac yn sbaddu eu hunain!
13Ydych, ffrindiau annwyl, dych chi wediʼch galw i fod yn rhydd. Ond dw i ddim yn sôn am benrhyddid, syʼn esgus i adael iʼr chwantau eich rheoli chi. Sôn ydw i am y rhyddid i garu a gwasanaethu eich gilydd. 14Mae yna un gorchymyn syʼn crynhoiʼr cwbl maeʼr Gyfraith Iddewig yn ei ddweud: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt tiʼn dy garu dy hun.”5:14 Lefiticus 19:18 15Ond os dych chiʼn gwneud dim byd ond cega ac ymosod ar eich gilydd, gwyliwch eich hunain! Byddwch chiʼn dinistrioʼch gilydd.
Bywyd yn yr Ysbryd
16Beth dw iʼn ei ddweud ydy y dylech adael iʼr Ysbryd reoliʼch bywydau chi, wedyn fyddwch chi ddim yn gwneud beth maeʼr chwantau eisiau. 17Mae ein natur bechadurus ni am i ni wneud drwg – yn hollol groes i beth maeʼr Ysbryd eisiau. Ond maeʼr Ysbryd yn rhoiʼr awydd i ni wneud fel arall, sef y gwrthwyneb i beth maeʼr natur bechadurus eisiau. Mae brwydr barhaus yn mynd ymlaen – allwch chi ddim dianc rhagddi. 18Ond os ydyʼr Ysbryd yn eich arwain chi, dych chi ddim yn gaeth iʼr Gyfraith Iddewig bellach.
19Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a phenrhyddid llwyr; 20hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, 21eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw iʼn eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud oʼr blaen, fydd pobl syʼn byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw.
22Ond dymaʼr ffrwyth maeʼr Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, 23addfwynder a hunanreolaeth. Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly. 24Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gydaʼi nwydau aʼi chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes. 25Felly os ydyʼr Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael iʼr Ysbryd ein harwain ni. 26Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocioʼn gilydd a bod yn eiddigeddus oʼn gilydd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015