No themes applied yet
Y ddwy lechen garreg newydd
(Deuteronomium 10:1-5)
1Dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Cerfia ddwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Gwna i ysgrifennu arnyn nhw beth oedd ar y llechi wnest ti eu malu. 2Bydd barod i ddringo mynydd Sinai yn y bore, a sefyll yno ar ben y mynydd iʼm cyfarfod i. 3Does neb arall i ddod gyda ti. Does neb arall i ddod yn agos iʼr mynydd. Paid hyd yn oed gadael iʼr defaid aʼr geifr aʼr gwartheg bori o flaen y mynydd.”
4Felly dyma Moses yn cerfio dwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Ynaʼn gynnar y bore wedyn aeth i fyny i ben Mynydd Sinai, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Aeth âʼr ddwy lechen gydag e. 5A dymaʼr ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, yn sefyll yna gydag e, a chyhoeddi mai ei enw ydy yr ARGLWYDD. 6Dymaʼr ARGLWYDD yn pasio heibio oʼi flaen a chyhoeddi, “Yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD! Maeʼn Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, aʼi haelioni aʼi ffyddlondeb yn anhygoel! 7Maeʼn dangos cariad di-droiʼn-ôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod. Ond dydy e ddim yn gadael iʼr euog fynd heb ei gosbi. Bydd yn ymateb i bechodauʼr tadau syʼn gadael eu hôl ar eu plant aʼu plant hwythau – am dair neu bedair cenhedlaeth.” 8Ac ar unwaith dyma Moses yn ymgrymu yn isel i addoli, 9a dweud, “Meistr, os ydw i wedi dy blesio di, wnei di, Meistr, fynd gyda ni? Maeʼr bobl ymaʼn ystyfnig, ond plîs wnei di faddau ein beiau aʼn pechod ni, aʼn derbyn ni yn bobl arbennig i ti dy hun?”
Yr ARGLWYDD yn adnewyddu ei ymrwymiad
(Exodus 23:14-19; Deuteronomium 7:1-5; 16:1-17)
10Atebodd Duw, “Iawn. Dw iʼn gwneud ymrwymiad. Dw iʼn mynd i wneud pethau rhyfeddol does neb yn unman wediʼu dychmygu oʼr blaen. Bydd y bobl rwyt tiʼn byw yn eu canol nhw yn gweld beth maeʼr ARGLWYDD yn ei wneud. Dw iʼn gwneud rhywbeth anhygoel gyda ti. 11Gwnaʼn siŵr dy fod tiʼn gwneud beth dw iʼn ddweud wrthot ti heddiw. Dw iʼn mynd i yrru allan oʼch blaen chi yr Amoriaid, Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. 12Gwyliwch chi eich bod chi ddim yn gwneud cytundeb gwleidyddol gydaʼr bobl hynny syʼn byw yn y wlad lle dych chiʼn mynd, rhag iddyn nhwʼch baglu chi. 13Dw i eisiau i chi ddinistrioʼu hallorau, maluʼr colofnau cysegredig, a thorri polion y dduwies Ashera i lawr. 14Peidiwch plygu i addoli unrhyw dduw arall. Maeʼr ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus – Eiddigedd ydy ei enw e. 15Gwyliwch eich bod chi ddim yn gwneud cytundeb gwleidyddol gydaʼr bobl syʼn byw yn y wlad. Y peryg wedyn ydy y byddwch chiʼn derbyn gwahoddiad i fwyta gyda nhw pan fyddan nhwʼn addoli ac yn aberthu iʼw duwiau. 16Byddwch chiʼn gadael iʼch meibion briodi eu merched nhw. Bydd y rheiny yn addoli eu duwiau, ac yn cael eich meibion chi i fod yn anffyddlon i mi a gwneud yr un fath!
17Peidiwch gwneud duwiau o fetel tawdd.
18Rhaid i chi gadw Gŵyl y Bara Croyw. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo, fel gwnes i orchymyn i chi. Mae hyn i ddigwydd ar yr amser iawn ym mis Abib, am mai dyna pryd ddaethoch chi allan oʼr Aifft.
19Mae mab cyntaf pob gwraig, a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, yn perthyn i mi – oʼr gwartheg, defaid a geifr. 20Maeʼr asyn bach cyntaf i gael ei eni i gael ei brynu yn ôl gydag oen. Os nad ydy eʼn cael ei brynu, rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf. Rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynuʼn ôl. A does neb i ddod ata i heb rywbeth iʼw offrymu.
21Cewch weithio am chwe diwrnod, ond rhaid i chi orffwys ar y seithfed. Rhaid i chi orffwys hyd yn oed os ydy hiʼn amser i aredig neu i gasgluʼr cnydau.
22Rhaid i chi gadw Gŵyl y Cynhaeaf34:22 Gŵyl y Cynhaeaf Hebraeg, “Gŵyl yr Wythnosau”. – gyda ffrwyth cyntaf y cynhaeaf gwenith – a Gŵyl Casgluʼr Cynhaeaf ar ddiwedd y flwyddyn.
23Felly, dair gwaith bob blwyddyn maeʼr dynion i gyd i ddod o flaen y Meistr, yr ARGLWYDD, sef Duw Israel. 24Dw iʼn mynd i yrru allan bobloedd o dy flaen di a rhoi mwy eto o dir i ti. Ac os byddi diʼn ymddangos o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw dair gwaith bob blwyddyn, fydd neb yn dod ac yn ceisio dwyn dy dir oddi arnat ti.
25Rhaid peidio offrymu gwaed anifail sydd wediʼi aberthu gyda bara sydd â burum ynddo. A does dim o aberth Gŵyl y Pasg i fod wediʼi adael ar ôl tan y bore wedyn.
26Tyrd â ffrwyth cyntaf gorau dy dir i deml yr ARGLWYDD dy Dduw.
Paid berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.”
27Yna dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ysgrifenna hyn i gyd i lawr. Dyma amodauʼr ymrwymiad dw i wediʼi wneud gyda ti a phobl Israel.”
28Roedd Moses yno gyda Duw am bedwar deg diwrnod, ddydd a nos. Wnaeth e ddim bwyta nac yfed o gwbl. A dyma feʼn ysgrifennu amodauʼr ymrwymiad ar y llechi – sef y Deg Gorchymyn.
Moses yn dod i lawr o ben Mynydd Sinai
29Pan ddaeth Moses i lawr o ben Mynydd Sinai gyda dwy lechen y dystiolaeth yn ei law, doedd e ddim yn sylweddoli fod ei wyneb wedi bod yn disgleirio wrth iʼr ARGLWYDD siarad ag e. 30Pan welodd Aaron a phobl Israel Moses yn dod, roedd ei wyneb yn dal i ddisgleirio, ac roedd ganddyn nhw ofn mynd yn agos ato. 31Ond dyma Moses yn galw arnyn nhw, a dyma Aaron aʼr arweinwyr eraill yn dod yn ôl i siarad ag e. 32Wedyn dymaʼr bobl i gyd yn dod draw ato, a dyma Moses yn dweud wrthyn nhw beth oedd y gorchmynion roedd Duw wediʼi rhoi iddo ar Fynydd Sinai.
33Pan oedd Moses wedi gorffen siarad â nhw, dyma feʼn rhoi gorchudd dros ei wyneb. 34Ond pan fyddaiʼn mynd i mewn i siarad âʼr ARGLWYDD, byddaiʼn tynnuʼr gorchudd i ffwrdd nes byddaiʼn dod allan eto. Wedyn byddaiʼn dweud wrth bobl Israel beth roedd yr ARGLWYDD wediʼi orchymyn iddo, 35a byddai pobl Israel yn gweld wyneb Moses yn disgleirio. Yna byddaiʼn rhoiʼr gorchudd yn ôl dros ei wyneb nes byddaiʼn mynd yn ôl i siarad âʼr ARGLWYDD eto.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015