No themes applied yet
Rheolauʼr Saboth
1Dyma Moses yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd, a dweud, “Dyma maeʼr ARGLWYDD wediʼi orchymyn i chi ei wneud:
2“Mae yna chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond maeʼr seithfed diwrnod yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, yn Saboth iʼr ARGLWYDD – diwrnod i chi orffwys. Os ydy rhywun yn gweithio ar y Saboth, y gosb ydy marwolaeth. 3Peidiwch hyd yn oed cynnau tân yn eich cartrefi ar y Saboth!”
Offrymau i adeiladuʼr Tabernacl
(Exodus 25:1-9; 35:10-19; 39:32-43)
4Wedyn dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel i gyd, “Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei orchymyn. 5‘Dylai pawb syʼn awyddus i gyfrannu ddod â rhoddion iʼr ARGLWYDD: aur, arian, pres, 6edau las, porffor a coch, lliain main drud, blew gafr, 7crwyn hyrddod wediʼu llifoʼn goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia, 8olew iʼr lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio aʼr arogldarth persawrus, 9onics a gemau eraill iʼw gosod ar yr effod aʼr boced fydd yn mynd dros y frest. 10Maeʼr crefftwyr yn eich plith chi i ddod a gwneud popeth maeʼr ARGLWYDD wediʼi orchymyn:
11Y Tabernacl, gydaʼr babell aʼi gorchudd, y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion aʼr socedi.
12Yr Arch aʼi pholion, y caead drosti, aʼr sgrîn syʼn ei chuddio.
13Y bwrdd, gydaʼi bolion aʼi lestri, i osod y bara cysegredig arno.
14Y menora syʼn rhoi golau, gydaʼi hoffer i gyd, y lampau aʼr olew.
15Allor yr arogldarth gydaʼi pholion, yr olew eneinio aʼr arogldarth persawrus.
Y sgrîn ar gyfer y fynedfa iʼr Tabernacl.
16Yr allor ar gyfer yr offrymau sydd iʼw llosgi, y gratin bres sydd arni, y polion, aʼr holl offer syʼn mynd gyda hi.
Y ddysgl fawr gydaʼi stand.
17Llenniʼr iard, y polion aʼr socedi, aʼr sgrîn sydd o flaen y fynedfa iʼr iard.
18Pegiau a rhaffauʼr Tabernacl aʼr iard.
19Hefyd gwisgoedd y rhai fydd yn gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wediʼu brodioʼn hardd), gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion fydd hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid.’”
Rhoddion iʼr ARGLWYDD
20Yna dyma bobl Israel i gyd yn mynd i ffwrdd. 21Ond daeth rhai, oedd wediʼu sbarduno, ac yn awyddus i gyfrannu, yn ôl a chyflwyno eu rhoddion iʼr ARGLWYDD – rhoddion tuag at godi pabell presenoldeb Duw, cynnal y gwasanaeth ynddi, a tuag at y gwisgoedd cysegredig. 22Dyma pawb oedd yn awyddus i roi yn dod – dynion a merched. A dyma nhwʼn cyfrannu tlysau aur o bob math – broetshis, clustdlysau, modrwyau a breichledau. Roedd pawb yn dod ac yn cyflwynoʼr aur yn offrwm iʼw chwifio o flaen yr ARGLWYDD. 23Roedd eraill yn dod ag edau las, porffor neu goch, lliain main drud, blew gafr, crwyn hyrddod wediʼu llifoʼn goch, neu grwyn môr-fuchod. 24Roedd pawb oedd eisiau rhoi arian neu bres yn ei gyflwyno yn offrwm iʼr ARGLWYDD. Roedd eraill yn dod ag unrhyw goed acasia oedd ganddyn nhw. 25Roedd y gwragedd oedd â dawn nyddu yn dod âʼr defnydd roedden nhw wediʼi wneud – edau las, porffor neu goch, neu liain main drud. 26Roedd gwragedd eraill wediʼu hysgogi i fynd ati i nyddu defnydd wediʼi wneud o flew gafr.
27Dymaʼr arweinwyr yn rhoi cerrig onics a gemau eraill iʼw gosod ar yr effod aʼr boced fyddaiʼn mynd dros y frest. 28Hefyd perlysiau ac olew olewydd ar gyfer y lampau, yr olew eneinio aʼr arogldarth persawrus. 29Felly, daeth pobl Israel ag offrymau gwirfoddol iʼr ARGLWYDD – dynion a merched oedd yn awyddus i helpu i wneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddyn nhw ei wneud drwy Moses.
Betsalel ac Oholiab
(Exodus 31:1-11)
30Dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel, “Maeʼr ARGLWYDD wedi dewis Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda. 31Mae wediʼi lenwi gydag Ysbryd Duw, syʼn rhoi dawn, deall a gallu iddo, i greu pob math o waith cywrain, 32a gwneud pethau hardd allan o aur, arian a phres. 33I dorri a gosod gemwaith, i gerfio coed ac i wneud pob math o waith artistig. 34Mae Duw wedi rhoiʼr ddawn iddo fe, ac i Oholiab fab Achisamach o lwyth Dan, i ddysgu eu crefft i eraill. 35Mae Duw wedi rhoiʼr doniau iʼr rhai hynny i weithio fel crefftwyr ac artistiaid, i frodio lliain main gydag edau las, porffor a coch, ac i wneud gwaith gwehydd – pob un yn feistri yn eu crefft ac yn artistiaid.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015