No themes applied yet
Duw yn gorchymyn iʼr bobl adael Mynydd Sinai
1Dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos di yn dy flaen – ti aʼr bobl wnest ti eu harwain allan o wlad yr Aifft. Ewch iʼr wlad wnes i addo i Abraham, Isaac a Jacob, ‘Dw iʼn mynd iʼw rhoi hi iʼch disgynyddion chi.’ 2Dw iʼn mynd i anfon angel oʼch blaen chi, a gyrru allan y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. 3Maeʼn dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Ond dw i ddim am fynd gyda chi. Dych chiʼn bobl ystyfnig, a falle y bydda iʼn eich dinistrio chi ar y ffordd.”
4Dyna oedd newyddion drwg! Pan glywodd y bobl hynny, dyma nhwʼn dechrau galaru. Doedd neb yn gwisgo tlysau, 5am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Dwed wrth bobl Israel, ‘Dych chiʼn bobl ystyfnig. Petawn iʼn mynd gyda chi dim ond am foment, falle y byddwn iʼn eich dinistrio chi. Felly tynnwch eich tlysau i ffwrdd, i mi benderfynu beth iʼw wneud gyda chi.’” 6Felly dyma bobl Israel yn tynnu eu tlysau i gyd i ffwrdd pan oedden nhw wrth Fynydd Sinai.33:6 Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall ar Fynydd Sinai.
Y babell tu allan iʼr gwersyll
7Byddai Moses yn cymryd y babell, ac yn ei chodi tu allan iʼr gwersyll, gryn bellter i ffwrdd. Galwodd hi yn babell cyfarfod Duw. Os oedd rhywun eisiau gwybod rhywbeth gan yr ARGLWYDD, byddaiʼn mynd at y babell yma tu allan iʼr gwersyll.
8Pan fyddai Moses yn mynd allan iʼr babell, byddaiʼr bobl i gyd yn sefyll tu allan iʼw pebyll eu hunain, ac yn gwylio Moses nes iddo fynd i mewn iʼr babell. 9Bob tro y byddai Moses yn mynd i mewn iddi, byddai colofn o niwl yn dod i lawr ac yn sefyll tu allan iʼr fynedfa tra oedd yr ARGLWYDD yn siarad â Moses. 10Pan oedd pawb yn gweld y golofn o niwl yn sefyll wrth y fynedfa, bydden nhwʼn dod i sefyll wrth fynedfa eu pebyll eu hunain, ac yn addoli. 11Byddaiʼr ARGLWYDD yn siarad wyneb yn wyneb gyda Moses, fel byddai rhywun yn siarad â ffrind. Yna byddai Moses yn dod yn ôl iʼr gwersyll. Ond roedd ei was, y bachgen ifanc Josua fab Nwn, yn aros yn y babell drwyʼr amser.
Duw yn addo bod gydaʼi bobl
12Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ti wedi bod yn dweud wrtho i, ‘Tyrd âʼr bobl yma allan,’ ond ti ddim wedi gadael i mi wybod pwy fydd yn mynd hefo fi. Rwyt ti hefyd wedi dweud, ‘Dw i wedi dy ddewis di, ac wedi bod yn garedig atat ti.’ 13Os ydy hynnyʼn wir, dangos i mi beth rwyt ti am ei wneud, i mi ddeall yn well a dal ati i dy blesio di. A cofia mai dy bobl di ydyʼr rhain.” 14Atebodd yr ARGLWYDD e, “Bydda i fy hun yn mynd, ac yn gwneud yn siŵr y byddi diʼn iawn.” 15A dyma Moses yn dweud, “Wnawn ni ddim symud cam os na ddoi di gyda ni. 16Sut arall mae pobl yn mynd i wybod mor garedig rwyt ti wedi bod ata i a dy bobl? Sut arall maen nhw i wybod ein bod niʼn sbesial ac yn wahanol i bawb arall drwyʼr byd i gyd?”
17Dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Iawn, bydda iʼn gwneud beth rwyt tiʼn ei ofyn. Ti wedi fy mhlesio i, a dw i wedi dy ddewis di.” 18“Dangos dy ysblander i mi,” meddai Moses. 19A dymaʼr ARGLWYDD yn ateb, “Dw i am adael i ti gael cipolwg bach o mor dda ydw i. A dw iʼn mynd i gyhoeddi fy enw, ‘yr ARGLWYDD’ o dy flaen di. Fi syʼn dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw, a phwy dw iʼn mynd i dosturio wrthyn nhw. 20Ond gei di ddim gweld fy wyneb i. Does neb yn edrych arna i ac yn byw wedyn.”
21Yna dymaʼr ARGLWYDD yn dweud, “Edrych, mae yna le i ti sefyll ar y graig yn y fan yma. 22Pan fydd fy ysblander iʼn mynd heibio, bydda iʼn dy guddio di mewn hollt yn y graig, a rhoi fy llaw drosot ti wrth i mi fynd heibio. 23Wedyn bydda iʼn cymryd fy llaw i ffwrdd, a gadael i ti edrych ar fy nghefn i. Does neb yn cael gweld fy wyneb i.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015