No themes applied yet
Geiriau olaf Dafydd
1Dyma eiriau olaf Dafydd:
“Neges Dafydd fab Jesse.
Neges yr un gafodd ei godiʼn arweinydd,
aʼi eneinio gan Dduw Jacob.
Neges hoff ganwr Israel.
2Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD yn siarad trwof fi;
ei neges e oeddwn iʼn ei rhannu.
3Mae Duw Israel wedi siarad,
a dyma mae Craig Israel yn ei ddweud:
‘Maeʼr un syʼn llywodraethuʼn deg,
gan roi parch i Dduw,
4fel golau haul ar fore braf digwmwl
yn gwneud iʼr glaswellt dyfu oʼr ddaear
a sgleinio ar ôl y glaw.’
5Ie, dyna sut mae Duwʼn gweld fy nheulu!
Mae wedi gwneud ymrwymiad am byth i mi.
Maeʼr cwbl wediʼi drefnu – maeʼn siŵr o ddigwydd!
Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i mi lwyddo
ac yn dod âʼr cwbl dw i eisiau yn wir.
6Ond mae dynion drwg fel drain
syʼn dda i ddim ond iʼw torri i lawr.
Does neb yn gafael ynddyn nhw âʼu dwylo,
7dim ond gydag arf haearn neu goes gwaywffon.
Mae tân yn eu llosgiʼn ulw yn y fan aʼr lle!”
Milwyr dewr Dafydd
(1 Cronicl 11:10-41)
8Dyma enwau milwyr dewr Dafydd:
Iashofam23:8 fel 1 Cronicl 11:11; HebraegIoshef-bashefet. LXX Jeshbaal. yr Hachmoniad oedd pennaeth ‘Y Tri’. Roedd e wedi lladd wyth gant o ddynion gydaʼi waywffon mewn un frwydr.
9Ynaʼr nesa ato fe oʼr ‘Tri Dewr’ oedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach. Roedd e gyda Dafydd yn herioʼr Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Roedd gweddill byddin Israel wedi ffoi, 10ond dyma feʼn sefyll ei dir ac ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd ei law wedi blino gymaint, ond wnaeth e ddim gollwng ei gleddyf. Dymaʼr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo y diwrnod hwnnw. Yna daeth y fyddin yn ôl, ond dim ond i ddwyn pethau oddi ar y cyrff!
11Y nesaf wedyn oedd Samma fab Age o deulu Harar. Un tro roedd byddin y Philistiaid wedi casglu yn Lechi lle roedd cae o ffacbys. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen y Philistiaid, 12ond roedd Samma wedi sefyll ei dir yng nghanol y cae, iʼw amddiffyn. Roedd wedi ymosod ar y Philistiaid, a dymaʼr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo.
13Un tro, adeg y cynhaeaf, aeth tri oʼr ‘Tri deg’ i lawr at Dafydd i Ogof Adwlam.23:13 Rhyw ddeuddeg milltir iʼr de-orllewin o Bethlehem. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm.23:13 Reffaïm Dyffryn oedd ryw 3 milltir iʼr de-orllewin o Jerwsalem. 14Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra oedd prif wersyll garsiwn y Philistiaid yn Bethlehem. 15Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma feʼn dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr oʼr ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!” 16Felly dymaʼr ‘Tri Dewr’ yn mynd drwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr oʼr ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhwʼn dod âʼr dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma feʼn ei dywallt ar lawr yn offrwm iʼr ARGLWYDD, 17a dweud, “ARGLWYDD, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentroʼu bywydau iʼw nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed. (Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‘Tri Dewr’.)
18Abishai, brawd Joab a mab Serwia, oedd pennaeth y ‘Tri deg’. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gydaʼi waywffon un tro. Roedd eʼn enwog fel y Tri. 19A dweud y gwir, roedd yn fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e ddim yn un oʼr ‘Tri’.
20Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël23:20 Cabseël Ar ffin ddeheuol Jwda, heb fod yn bell o Edom (cf. Josua 15:21). yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira. 21Roedd hefyd wedi lladd cawr o ddyn oʼr Aifft. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma feʼn ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, aʼi ladd gyda hi. 22Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‘Tri Dewr’. 23Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un oʼr ‘Tri’. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.
24Yna gweddill y ‘Tri deg’ oedd:
Asahel, brawd Joab,
Elchanan fab Dodo o Bethlehem,
25Shamma o Charod,
Elicâ o Charod,
26Chelets o Pelet,
Ira fab Iccesh o Tecoa,
27Abieser o Anathoth,
Mefwnnai o Chwsha,
28Salmon o deulu Achoach,
Maharai o Netoffa,
29Cheleb fab Baana o Netoffa,
Itai fab Ribai o Gibea yn Benjamin,
30Benaia o Pirathon,
Hidai o Wadi Gaash,
31Abi-albon o Arba,
Asmafeth o Bachwrîm,
32Eliachba o Shaalbon,
Meibion Iashen,
Jonathan fab 33Shamma o Harar,
Achîam fab Sharar o Harar,
34Eliffelet fab Achasbai o Maacha,
Eliam fab Achitoffel o Gilo,
35Chetsrai o Carmel,23:35 Carmel Pentref tua naw milltir iʼr de o Hebron (nid y Carmel yng ngogledd Israel).
Paarai o Arba,
36Igal fab Nathan o Soba,
Bani o Gad,
37Selec o Ammon,
Nachrai o Beëroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia),
38Ira yr Ithriad,
Gareb yr Ithriad,
39ac Wreia yr Hethiad.
(Tri deg saith i gyd.)
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015