No themes applied yet
Dafydd yn pechu drwy gynnal cyfrifiad
(1 Cronicl 21:1-27)
1Dro arall roedd yr ARGLWYDD wedi digioʼn lân gydag Israel. Dyma feʼn gwneud i Dafydd achosi trwbwl iddyn nhw drwy orchymyn cyfrifiad o Israel a Jwda. 2Felly dymaʼr brenin yn dweud wrth Joab, pennaeth ei fyddin, “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl lwythau Israel, o Dan yn y gogledd i Beersheba24:2 Dan … Beersheba Roedd Dan wrth droed Mynydd Hermon yn y gogledd ar y llwybr masnach i Damascus. Roedd Beersheba 23 milltir iʼr de-orllewin o Hebron ar y prif lwybr masnach iʼr Aifft. yn y de, i mi gael gwybod faint o bobl sydd gen i.” 3Ond dyma Joab yn ateb y brenin, “O na fyddaiʼr ARGLWYDD dy Dduw yn gadael i ti fyw i weld byddin ganwaith fwy nag sydd gen ti! Ond syr, pam fyddet ti eisiau gwneud y fath beth?” 4Ond roedd y brenin yn benderfynol, er gwaetha gwrthwynebiad Joab a chapteiniaid y fyddin. Felly dyma nhwʼn mynd ati i gyfri pobl Israel, fel roedd y brenin wedi dweud.
5Dyma nhwʼn croesi afon Iorddonen, ac yn dechrau yn Aroer, iʼr de oʼr ddinas sydd yng nghanol y dyffryn. Yna dyma nhwʼn mynd iʼr sychnant ar diriogaeth Gad, ac i dref Iaser. 6Ymlaen wedyn i ardal Gilead, a tref Cadesh ar dir yr Hethiaid, yna Dan ac Îon, a rownd i Sidon. 7Yna i lawr i dref gaerog Tyrus a holl drefiʼr Hefiaid aʼr Canaaneaid, ac ymlaen i gyfeiriad y de nes cyrraedd yr holl ffordd i Beersheba yn anialwch Jwda. 8Cymerodd naw mis a thair wythnos cyn iddyn nhw gyrraedd yn ôl yn Jerwsalem, ar ôl teithio drwyʼr wlad i gyd. 9Yna dyma Joab yn rhoi canlyniadauʼr cyfrifiad iʼr brenin. Roedd yna 800,000 o ddynion dewr Israel allai ymladd yn y fyddin, a 500,000 yn Jwda.
10Ond wedi iddo gyfriʼr bobl, roedd cydwybod Dafydd yn ei boeni. A dyma feʼn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Dw i wedi pechuʼn ofnadwy drwy wneud hyn. Plîs wnei di faddau i mi ARGLWYDD? Dw i wedi gwneud peth gwirion.”
11Erbyn i Dafydd godiʼr bore wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Gad, proffwyd y llys: 12“Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw iʼn rhoi tri dewis i ti. Dewis pa un wyt ti am i mi ei wneud.’” 13Felly dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud, “Pa un wnei di ddewis? Tair blynedd o newyn yn y wlad? Neu dri mis o ffoi o flaen dy elynion? Neu dri diwrnod o bla drwyʼr wlad? Meddwl yn ofalus cyn dweud wrtho i pa ateb dw i iʼw roi iʼr un sydd wedi fʼanfon i.” 14Meddai Dafydd wrth Gad, “Maeʼn ddewis caled! Ond maeʼr ARGLWYDD mor drugarog! Byddaiʼn well gen i gael fy nghosbi ganddo fe na gan ddynion.”
15Fellyʼr bore hwnnw dymaʼr ARGLWYDD yn anfon haint ar wlad Israel wnaeth bara am dri diwrnod, a buodd saith deg mil o bobl o bob rhan oʼr wlad farw. 16Ond wrth iʼr angel bwyntio ei fys at Jerwsalem iʼw difa, dymaʼr ARGLWYDD yn teimloʼn sori am y niwed oedd yn cael ei wneud. A dyma feʼn rhoi gorchymyn iʼr angel oedd wrthiʼn difaʼr bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.)
17Pan welodd Dafydd yr angel yn taroʼr bobl, dyma feʼn dweud, “ARGLWYDD, fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg! Wnaeth y bobl ddiniwed24:17 bobl ddiniwed Hebraeg, “defaid”. yma ddim byd oʼi le. Cosba fi aʼm teulu!”
Dafydd yn codi allor iʼr ARGLWYDD
18Y diwrnod hwnnw dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dos, a chodi allor iʼr ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.” 19Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wediʼi ddweud wrth Gad. 20Pan welodd Arafna y brenin aʼi weision yn dod ato, dyma feʼn ymgrymu oʼi flaen âʼi wyneb ar lawr. 21“Pam mae fy meistr, y brenin, wedi dod yma ata i?” meddai. A dyma Dafydd yn ateb, “I brynu dy lawr dyrnu di. Dw i eisiau codi allor iʼr ARGLWYDD i stopioʼr pla yma ladd y bobl.” 22Dyma Arafnaʼn ateb, “Syr, cymer beth bynnag wyt ti eisiau. Cymer yr ychen iʼw llosgiʼn aberth, a defnyddiaʼr sled dyrnu a iauʼr ychen yn goed tân. 23Dw i am roiʼr cwbl iʼm meistr, y brenin. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn derbyn beth wyt tiʼn wneud.” 24Ond dymaʼr brenin yn ei ateb, “Na, maeʼn rhaid i mi daluʼr pris llawn i ti. Dw i ddim yn mynd i gyflwyno aberthau iʼw llosgi iʼr ARGLWYDD sydd wedi costio dim byd i mi.”
Felly dyma Dafydd yn prynuʼr llawr dyrnu aʼr ychen am bum deg darn arian. 25Wedyn adeiladodd allor iʼr ARGLWYDD yno, a chyflwyno arni aberthau iʼw llosgi ac offrymau i gydnabod daioniʼr ARGLWYDD. A dymaʼr ARGLWYDD yn ateb ei weddi a stopioʼr pla oedd yn mynd drwyʼr wlad.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015