No themes applied yet
Dafydd yn caniatáu i Absalom ddod yn ôl i Jerwsalem
1Roedd Joab (mab Serwia) wedi sylwi fod Dafydd ddim yn gallu stopio meddwl am Absalom. 2Felly dyma feʼn anfon rhywun i nôl gwraig ddoeth oedd yn byw yn Tecoa.14:2 Tecoa Pentref oedd rhyw ddeuddeg milltir iʼr de-ddwyrain o Jerwsalem. Meddai wrthi, “Dw i eisiau i ti esgus dy fod yn galaru. Rho ddillad galar amdanat, peidio gwisgo colur, a gwneud i ti dy hun edrych fel rhywun sydd wedi bod yn galaru am amser hir iawn. 3Yna dos at y brenin a dweud fel yma: …” (Dyma Joab yn dweud wrthi yn union beth iʼw ddweud.) 4Felly dymaʼr wraig o Tecoa yn mynd at y brenin. Aeth ar ei gliniau ac ymgrymu oʼi flaen gydaʼi hwyneb ar lawr. “Plîs helpa fi, o frenin.” 5“Beth syʼn bod?” meddai Dafydd. A dyma hiʼn ateb, “Gwraig weddw ydw i. Maeʼr gŵr wedi marw. 6Roedd gen i ddau fab, a dyma nhwʼn dechrau ymladd allan yng nghefn gwlad. Doedd yna neb o gwmpas iʼw gwahanu nhw, a dyma un yn taroʼr llall aʼi ladd. 7A nawr mae aelodauʼr clan i gyd wedi troi yn fy erbyn i, ac yn mynnu, ‘Rho dy fab i ni. Rhaid iddo farw am lofruddio ei frawd.’14:7 Numeri 35:19-21 Ond fe ydyʼr etifedd. Os gwnân nhw hynny, bydd y fflam olaf sydd gen i wedi diffodd! Fydd yna neb ar ôl i gadw enwʼr gŵr yn fyw.”
8Dymaʼr brenin Dafydd yn dweud wrth y wraig, “Dos adre. Gwna i setloʼr achos i ti.” 9A dymaʼr wraig yn dweud wrth y brenin, “Os bydd unrhyw broblem, arna i aʼm teulu maeʼr bai. Does dim bai o gwbl ar fy meistr y brenin aʼi orsedd.” 10Ond dymaʼr brenin yn ateb, “Os bydd unrhyw un yn cwestiynuʼr peth, gwna i ddelio gydag e. Fydd e ddim yn dy blagio di byth eto!” 11A dyma hiʼn gofyn, “Plîs wnei di addo i mi o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw, na fydd y perthynas agosaf yn mynnu dial ar fy mab a thywallt mwy o waed eto?” “Ar fy llw,” meddaiʼr brenin, “fydd neb yn cyffwrdd blewyn o wallt ei ben!”
12Yna dymaʼr wraig yn gofyn, “Plîs ga i ddweud un peth arall wrthot ti, syr?” “Ie, beth?” meddaiʼr brenin. 13A dyma hiʼn dweud, “Pam wyt ti wedi gwneud yr un math o beth yn erbyn pobl Dduw? Drwy roiʼr dyfarniad yna i mi rwyt tiʼn barnu dy hun yn euog. Ti ddim wedi gadael i dy fab, syʼn alltud, ddod yn ôl adre. 14Rhaid i ni i gyd farw rywbryd. Dŷn ni fel dŵr yn cael ei dywallt ar y tir a neb yn gallu ei gasgluʼn ôl. Dydy Duw ddim yn cymryd bywyd rhywun cyn pryd; ond mae eʼn trefnu ffordd i ddod âʼr un sydd wediʼi alltudio yn ôl adre.14:14 Numeri 35:28 15Nawr, dw i wedi dod i siarad âʼr brenin, fy meistr, am fod pobl yn codi ofn arna i. Rôn iʼn meddwl, ‘Os gwna i siarad âʼr brenin falle y bydd eʼn gwneud beth dw iʼn ei ofyn. 16Bydd y brenin yn siŵr o wrando. Bydd eʼn fy achub i oddi wrth yr un sydd am fy ngyrru i aʼm mab oʼr etifeddiaeth roddodd Duw i ni.’ 17Rôn iʼn meddwl, ‘Bydd ateb y brenin yn dod â chysur i mi. Achos maeʼr brenin fel angel Duw, yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg.’ Boed iʼr ARGLWYDD dy Dduw fod gyda ti!”
18A dymaʼr Brenin Dafydd yn ei hateb, “Dw i eisiau gwybod un peth. Paid cuddio dim oddi wrtho i.” “Gofyn, syr,” meddaiʼr wraig. 19“Ai Joab sydd wedi dy gael i wneud hyn?” meddai. A dymaʼr wraig yn ateb, “Ie, alla i ddim gwaduʼr peth syr. Joab drefnodd y cwbl, a dweud wrtho i beth iʼw ddweud. 20Roedd e eisiau i ti edrych ar y sefyllfa o safbwynt gwahanol. Ond rwyt ti, syr, yn ddoeth fel angel Dduw. Tiʼn deall popeth syʼn digwydd yn y wlad.”
21Yna dymaʼr brenin yn galw Joab, “Oʼr gorau! Dyna wna i. Dos i nôl y bachgen Absalom.” 22Dyma Joab yn ymgrymu âʼi wyneb ar lawr o flaen y brenin, a diolch iddo. Meddai wrtho, “Heddiw dw iʼn gwybod fod gen ti ffydd yno i, dy was. Ti wedi caniatáu fy nghais i.” 23Felly dyma Joab yn mynd i lawr i Geshwr a dod ag Absalom yn ôl i Jerwsalem. 24Ond roedd y brenin wedi dweud, “Rhaid iddo fynd iʼw dŷ ei hun. Gaiff e ddim fy ngweld i.” Felly dyma Absalom yn mynd iʼw dŷ ei hun, heb gael gweld y brenin.
Absalom yn cael gweld ei dad Dafydd eto
25Roedd Absalom yn cael ei ystyried y dyn mwyaf golygus yn Israel. Dyn cryf, iach, gydaʼr corff perffaith. 26Roedd yn arfer torri ei wallt yn fyr bob blwyddyn am fod ei wallt wedi tyfu mor drwchus. Ar ôl torri ei wallt byddaiʼn ei bwyso, ac roedd dros ddau gilogram (yn ôl y safon brenhinol). 27Roedd gan Absalom dri mab ac un ferch. Enwʼr ferch oedd Tamar, ac roedd hiʼn ferch arbennig o hardd.
28Roedd Absalom wedi bod yn Jerwsalem am ddwy flynedd heb gael gweld y brenin, 29a dyma feʼn anfon neges at Joab i geisioʼi gael i drefnu iddo gael gweld y brenin. Ond roedd Joab yn gwrthod mynd ato. Dyma feʼn anfon amdano eto, ond roedd Joab yn dal i wrthod mynd. 30Felly dyma Absalom yn dweud wrth ei weision, “Mae gan Joab gae o haidd nesa at fy nhir i. Ewch iʼw roi ar dân.” A dyma weision Absalom yn gwneud hynny. 31Yna aeth Joab ar ei union i dŷ Absalom. “Pam mae dy weision di wedi rhoi fy nghae i ar dân?” meddai. 32A dyma Absalom yn ateb, “Edrych, gwnes i anfon neges atat ti am fy mod eisiau i ti fynd at y brenin, a gofyn iddo pam wnaeth e ddod â fi yn ôl o Geshwr os nad oedd e eisiau fy ngweld i. Byddai wedi bod yn well i mi aros yno! Nawr, dw i eisiau gweld y brenin. Os ydw i wedi gwneud rhywbeth oʼi le, gad iddo fy lladd i!”
33Felly, dyma Joab yn mynd at y brenin a dweud hynny wrtho. Dymaʼr brenin yn galw am Absalom, a dyma Absalom yn dod ato ac ymgrymu oʼi flaen âʼi wyneb ar lawr. A dymaʼr brenin yn ei gyfarch gyda chusan.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015