No themes applied yet
Amnon yn treisio Tamar
1Yna beth amser wedyn digwyddodd hyn:
Roedd gan Absalom, mab Dafydd, chwaer oʼr enw Tamar, oedd yn arbennig o hardd. Roedd Amnon, mab arall i Dafydd, yn ei ffansïo hi. 2Roedd ei deimladau ati mor gryf roedd yn gwneud ei hun yn sâl. Roedd Tamar wedi cyrraedd oed priodi ac yn wyryf, ond doedd Amnon ddim yn gweld unrhyw ffordd y gallai e ei chael hi. 3Ond roedd gan Amnon ffrind oʼr enw Jonadab (mab Shamma,13:3 Shamma Hebraeg, Shimea – ffurf arall ar yr un enw (gw. 1 Samuel 16:9; 17:13). brawd Dafydd). Roedd Jonadab yn ddyn cyfrwys iawn. 4Dyma feʼn gofyn i Amnon, “Beth syʼn bod? Ti ydy mab y brenin. Pam wyt ti mor ddigalon drwyʼr amser? Wnei di ddim dweud wrtho i beth sydd?” A dyma Amnon yn ateb, “Dw i mewn cariad hefo Tamar, chwaer Absalom.”
5Yna dyma Jonadab yn dweud wrtho, “Dos i orwedd ar dy wely ac esgus bod yn sâl. Wedyn, pan fydd dy dad yn dod i dy weld, dywed wrtho, ‘Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i wneud bwyd i mi. Gad iddi ei baratoi o mlaen i, ac wedyn fy mwydo i.’” 6Felly dyma Amnon yn mynd iʼw wely a smalio bod yn sâl. Daeth y brenin iʼw weld, a dyma Amnon yn dweud wrtho, “Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i baratoi cacennau sbesial o mlaen i, ac wedyn fy mwydo i.” 7Dyma Dafydd yn anfon neges at Tamar yn y palas, yn dweud wrthi am fynd i dŷ ei brawd Amnon i wneud bwyd iddo. 8Felly dyma Tamar yn mynd i dŷ Amnon, lle roedd yn gorwedd. Cymerodd does aʼi baratoi oʼi flaen aʼi goginio. 9Ond pan ddaeth âʼr bwyd ato, dyma Amnon yn gwrthod bwyta. Yna dyma feʼn gorchymyn iʼw weision, “Pawb allan o ma!”, a dyma nhw i gyd yn mynd allan.
10Wedyn dyma Amnon yn dweud wrth Tamar, “Tyrd âʼr bwyd iʼr ystafell wely, a gwna i fwyta yno.” Felly dyma Tamar yn mynd âʼr bwyd oedd hi newydd ei baratoi at ei brawd Amnon iʼr ystafell wely. 11Ond wrth iddi ei annog i fwyta, dyma feʼn gafael ynddi a dweud, “Tyrd iʼr gwely hefo fi, chwaer.” 12“Na! frawd, paid!” meddai hi. “Paid treisio fi. Dydy pobl Israel ddim yn gwneud pethau fel yna. Paid gwneud peth mor erchyll. 13Allwn i ddim byw gydaʼr cywilydd. A fyddai neb yn Israel yn dy barchu di am wneud peth mor erchyll. Plîs paid. Gofyn iʼn tad, y brenin; wnaiff e ddim gwrthod fy rhoi i ti.”13:13 Doedd priodas oʼr fath ddim yn dderbyniol yn ôl y Gyfraith (Lefiticus 18:9,11; 20:17), er fod enghreifftiau yn gynharach yn hanes Israel (Genesis 20:12). 14Ond doedd Amnon ddim am wrando arni. Roedd yn gryfach na hi, a dyma feʼn ei dal hi i lawr aʼi threisio. 15Ond wedyn dyma feʼn dechrau teimlo casineb llwyr ati. Roedd yn ei chasáu hi nawr fwy nag roedd yn ei charu hi oʼr blaen. A dyma feʼn dweud wrthi, “Cod! Dos o ma!” 16A dyma Tamar yn ei ateb, “Na! Plîs paid! Mae fy anfon i ffwrdd nawr yn waeth na beth rwyt ti newydd ei wneud!” Ond doedd e ddim am wrando arni. 17A dyma feʼn galwʼi was ystafell, a dweud wrtho, “Dos â hon allan o ma, a chloiʼr drws tu ôl iddi!” 18Felly dymaʼr gwas yn ei thaflu allan, a bolltioʼr drws ar ei hôl. Roedd hi mewn gwisg laes (y math o wisg fyddai merched dibriod y brenin yn arfer ei wisgo). 19Yna dyma Tamar yn rhwygoʼr wisg a rhoi lludw ar ei phen. Aeth i ffwrdd âʼi dwylo dros ei hwyneb, yn crioʼn uchel.
20Dyma Absalom, ei brawd, yn gofyn iddi, “Ydyʼr brawd yna sydd gen ti, Amnon, wedi gwneud rhywbeth i ti? Paid dweud dim am y peth gan ei fod yn frawd i ti. Ond paid ti â phoeni.” Yna aeth Tamar i aros yn nhŷ ei brawd Absalom, yn unig ac wedi torri ei chalon.
21Pan glywodd y Brenin Dafydd am bopeth oedd wedi digwydd, roedd yn flin ofnadwy. 22Roedd Absalom yn gwrthod siarad gydag Amnon, run gair; roedd yn ei gasáu am beth wnaeth e iʼw chwaer Tamar.
Absalom yn dial ar Amnon
23Aeth dwy flynedd heibio. Roedd gweision Absalom yn cneifio yn Baal-chatsor,13:23 Baal-chatsor Tua 15 milltir iʼr gogledd o Jerwsalem. wrth ymyl tref oʼr enw Effraim. A dyma Absalom yn gwahodd meibion y brenin i gyd i barti. 24Aeth at y brenin hefyd a dweud, “Maeʼr dynion acwʼn cneifio. Tyrd aton ni iʼr parti, a thyrd â dy swyddogion hefyd.” 25Atebodd y brenin, “Na, machgen i, ddown ni ddim i gyd, neu byddwn niʼn faich arnat ti.” Er i Absalom bwyso arno, doedd e ddim yn fodlon mynd. Ond dyma fe yn ei fendithio. 26Wedyn, dyma Absalom yn dweud, “Os ddoi di dy hun ddim, plîs gad iʼm brawd Amnon ddod.” Holodd y brenin, “Pam fyddet ti eisiau iddo fe fynd gyda ti?” 27Ond roedd Absalom yn dal i bwyso arno, ac yn y diwedd dymaʼr brenin yn anfon Amnon aʼi feibion eraill i gyd. A dyma Absalom yn paratoi gwledd digon da i frenin.13:27 A dyma … i frenin Fel rhai llawysgrifau.
28Dwedodd Absalom wrth ei weision, “Gwyliwch Amnon. Dw i eisiau i chi aros nes bydd e ychydig yn chwil. Wedyn pan fydda iʼn dweud, lladdwch e. Peidiwch bod ofn. Fi sydd wedi dweud wrthoch chi i wneud hyn. Byddwch yn ddewr!” 29Felly dyma weision Absalom yn lladd Amnon. A dyma feibion eraill y brenin yn codi, neidio ar eu mulod, a dianc.
30Tra oedden nhw ar eu ffordd adre, clywodd Dafydd si fod Absalom wedi lladd ei feibion e i gyd, a bod dim un ohonyn nhwʼn dal yn fyw. 31Felly cododd y brenin, rhwygoʼi ddillad a gorwedd ar lawr. Ac roedd ei weision i gyd yn sefyll oʼi gwmpas, wedi rhwygoʼu dillad nhw hefyd. 32Ond yna dyma Jonadab (mab Shamma,13:32 Shamma Hebraeg, Shimea – ffurf arall ar yr un enw (gw. 1 Samuel 16:9; 17:13). brawd Dafydd) yn dweud, “Syr, paid meddwl fod dy feibion i gyd wediʼi lladd. Dim ond Amnon fydd wedi marw. Mae Absalom wedi bod yn cynllunio i wneud hyn ers i Amnon dreisio ei chwaer e, Tamar. 33Ddylaiʼr brenin ddim creduʼr stori fod ei feibion i gyd wediʼu lladd. Dim ond Amnon sydd wedi marw, 34a bydd Absalom wedi dianc.”
Yna dymaʼr gwyliwr oedd ar ddyletswydd yn edrych allan a gweld tyrfa o bobl yn dod heibioʼr bryn o gyfeiriad trefi Beth-choron. 35A dyma Jonadab yn dweud wrth y brenin, “Edrych, dy feibion syʼn dod, fel gwnes i ddweud!” 36Aʼr eiliad honno dyma feibion y brenin yn cyrraedd, yn crioʼn uchel. A dymaʼr brenin ei hun aʼi swyddogion i gyd yn dechrau beichio crio hefyd. 37Buodd Dafydd yn galaru am ei fab Amnon13:37 Amnon Amnon oedd mab hynaf Dafydd, aʼr un fyddai wediʼi olynu fel brenin. am amser hir.
Roedd Absalom wedi dianc at Talmai13:37,38 Talmai Taid Absalom, sef tad ei fam. (gw. 3:3). fab Amihwd, brenin Geshwr. 38Arhosodd yn Geshwr am dair blynedd. 39Erbyn hynny, roedd Dafydd wedi dod dros farwolaeth Amnon, ac wedi dechrau hiraethu am Absalom.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015