No themes applied yet
1a dyma feʼn anfon y proffwyd Nathan at Dafydd. Daeth ato a dweud wrtho: “Un tro roedd yna ddau ddyn yn byw yn rhyw dre. Roedd un yn gyfoethog aʼr llall yn dlawd. 2Roedd gan y dyn cyfoethog lond gwlad o ddefaid a gwartheg. 3Ond doedd gan y dyn tlawd ddim ond un oen banw fach roedd wediʼi phrynu aʼi magu. Roedd yr oen wedi tyfu gydag e aʼi blant. Roedd yn bwyta ac yn yfed gyda nhw, ac yn cysgu yn ei freichiau, fel petaiʼn ferch fach iddo. 4Cafodd y dyn cyfoethog ymwelydd. Ond doedd e ddim am ladd un oʼi ddefaid neu ei wartheg ei hun i wneud bwyd iddo. Felly dyma feʼn cymryd oen y dyn tlawd a gwneud pryd o fwyd iʼw ymwelydd o hwnnw.”
5Roedd Dafydd wedi gwylltioʼn lân pan glywodd hyn. Dwedodd wrth Nathan, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, maeʼr dyn ynaʼn haeddu marw! 6Rhaid iddo roi pedwar oen12:6 Exodus 22:1 yn ôl iʼr dyn tlawd am wneud y fath beth, ac am fod mor ddideimlad!”
7A dyma Nathan yn ateb Dafydd, “Ti ydyʼr dyn! Dyma maeʼr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Fi wnaeth dy osod di yn frenin ar Israel. Fi hefyd wnaeth dy achub di oddi wrth Saul. 8Dw i wedi rhoi eiddo dy feistr i ti, aʼi wragedd. A dw i wedi rhoi pobl Israel a Jwda i ti hefyd. A phetai hynny ddim yn ddigon byddwn wedi rhoi mwy eto i ti. 9Pam wyt ti wedi fy sarhau i, yr ARGLWYDD, drwy wneud peth mor ofnadwy? Ti wedi lladd Wreia yr Hethiad, a chymryd ei wraig yn wraig i ti dy hun. Ie, ti wnaeth ei ladd, gyda chleddyf yr Ammoniaid! 10Felly bydd cysgod y cleddyf arnat ti a dy deulu bob amser. Ti wedi fy sarhau i drwy gymryd gwraig Wreia yr Hethiad i ti dy hun!’ 11Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw iʼn mynd i greu helynt i ti o fewn dy deulu dy hun. Bydda iʼn cymryd dy wragedd di aʼu rhoi nhw i ddyn arall. Bydd eʼn cysgu gyda dy wragedd di yn gwbl agored. 12Er dy fod ti wedi trio cuddio beth wnest ti, bydd pobl Israel i gyd yn gweld beth dw iʼn mynd iʼw wneud!’”
Dafydd yn cyffesu ei bechod
13Dyma Dafydd yn ateb, “Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.”12:13 Salm 51
A dyma Nathan yn dweud, “Wyt, ond maeʼr ARGLWYDD hefyd wedi maddau dy bechod. Ti ddim yn mynd i farw. 14Ond am dy fod ti wedi bod mor amharchus oʼr ARGLWYDD, bydd y plentyn gafodd ei eni yn marw.”
15Yna aeth Nathan yn ôl adre.
Plentyn Dafydd a Bathseba yn marw
Dymaʼr ARGLWYDD yn gwneud y babi gafodd gwraig Wreia i Dafydd yn sâl iawn 16A dyma Dafydd yn mynd ati i bledioʼn daer ar yr ARGLWYDD iʼw wella. Roedd yn mynd heb fwyd, ac yn cysgu ar lawr bob nos. 17Daeth ei gynghorwyr ato i geisioʼi berswadio i godi oddi ar lawr, ond gwrthod wnaeth e, a gwrthod bwyta dim gyda nhw.
18Ar ôl saith diwrnod dymaʼr plentyn yn marw. Roedd gan swyddogion Dafydd ofn mynd i ddweud wrtho. “Doedd eʼn cymryd dim sylw ohonon ni pan oedd y plentyn yn dal yn fyw,” medden nhw. “Sut allwn ni ddweud wrtho fod y plentyn wedi marw? Bydd eʼn gwneud rhywbeth ofnadwy iddoʼi hun.” 19Ond pan sylwodd Dafydd fod ei swyddogion yn sibrwd, roedd yn amau fod y plentyn wedi marw. Felly gofynnodd iddyn nhw, “Ydyʼr plentyn wedi marw?” A dyma nhwʼn ateb, “Ydy, mae wedi marw.”
20Yna dyma Dafydd yn codi oddi ar lawr, yn ymolchi, rhoi olew ar ei wyneb a newid ei ddillad. Aeth i babell yr ARGLWYDD i addoli. Wedyn aeth yn ôl adre iʼr palas a bwyta pryd o fwyd. 21A dymaʼi swyddogion yn gofyn iddo, “Pam wyt tiʼn ymddwyn fel yma? Pan oedd y plentyn yn dal yn fyw roeddet tiʼn crio ac yn ymprydio. Ond nawr maeʼr plentyn wedi marw dyma tiʼn codi ac yn bwyta!” 22Atebodd Dafydd, “Tra oedd y plentyn yn dal yn fyw rôn iʼn ymprydio ac yn crio. Rôn iʼn meddwl, ‘Pwy a ŵyr? falle y byddaiʼr ARGLWYDD yn tosturio ac yn gadael iʼr plentyn fyw.’ 23Ond nawr mae e wedi marw. Does dim pwynt gwrthod bwyd bellach. Alla i ddim dod ag eʼn ôl. Bydda iʼn mynd ato fe, ond wnaiff e ddim dod yn ôl ata i.”
Geni Solomon
24Yna dyma Dafydd yn mynd i gysuro ei wraig, Bathseba. Cysgodd gyda hi a chael rhyw gyda hi. Cafodd hi fab iddo, a dyma nhwʼn ei alw yn Solomon. Roedd yr ARGLWYDD yn caruʼr plentyn, 25a dyma feʼn rhoi neges drwyʼr proffwyd Nathan yn dweud y dylai gael ei alwʼn Iedidia, sef “Maeʼr ARGLWYDD yn ei garu.”
Dafydd yn concro Rabba
(1 Cronicl 20:1b-3)
26Roedd Joab yn dal i ryfela yn erbyn Rabba, prifddinas yr Ammoniaid, a llwyddodd i ddal y gaer frenhinol. 27Anfonodd neges at Dafydd, “Dw i wedi ymosod ar Rabba, ac wedi cipio cronfa ddŵr y ddinas. 28Maeʼn bryd i ti gasglu gweddill y fyddin, a dod yma i warchae ar y ddinas. Wedyn ti fydd wediʼi choncro, nid fi, a fydd hi ddim yn cael ei henwi ar fy ôl i.” 29Felly dyma Dafydd yn casgluʼr fyddin i gyd a mynd i Rabba i ymladd yn ei herbyn aʼi choncro. 30Dyma feʼn cymryd coron eu brenin nhw aʼi rhoi ar ei ben ei hun. Roedd y goron wediʼi gwneud o dri deg cilogram o aur, ac roedd gem werthfawr arni. Casglodd Dafydd lot fawr o ysbail oʼr ddinas hefyd. 31Symudodd y bobl allan, aʼu gorfodi nhw i weithio iddo gyda llifau, ceibiau a bwyeill haearn, aʼu hanfon iʼr gwaith brics.
Gwnaeth Dafydd yr un peth gyda pob un o drefiʼr Ammoniaid. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem gydaʼi fyddin.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015