No themes applied yet
Gwrthryfel Absalom
1Beth amser wedyn dyma Absalom yn paratoi cerbyd a cheffylau iddoʼi hun, a hanner cant o warchodwyr personol. 2Byddaiʼn codiʼn fore a sefyll ar ochr y ffordd wrth giât y ddinas. Pan oedd unrhyw un yn dod heibio gydag achos cyfreithiol iʼw setlo gan y brenin, byddai Absalom yn ei alw draw. Byddaiʼn gofyn iddo, “Un o ble wyt ti?” Os oedd hwnnwʼn dweud ei fod yn perthyn i un o lwythau Israel, 3byddai Absalom yn dweud wrtho, “Gwranda, mae gen ti achos cryf, ond does gan y brenin neb ar gael i wrando arnat ti.” 4Wedyn byddaiʼn ychwanegu, “Piti na fyddwn niʼn cael fy ngwneud yn farnwr yn y wlad yma! Byddai pawb oedd ag achos ganddo yn gallu dod ata i. Byddwn iʼn gwneud yn siŵr eu bod nhwʼn cael tegwch.” 5Hefyd, pan fyddai rhywun yn dod ato ac ymgrymu oʼi flaen, byddai Absalom yn estyn ei law aʼi gofleidio a rhoi cusan iddo. 6Roedd yn gwneud hyn i bawb o Israel oedd yn dod i ofyn am gyfiawnder gan y brenin. A dyna sut wnaeth Absalom ennill cefnogaeth pobl Israel.
7Ar ôl pedair blynedd,15:7 pedair blynedd Hebraeg, “pedwar deg o flynyddoedd”. dyma Absalom yn gofyn iʼr brenin, “Plîs ga i fynd i Hebron i gyflawni adduned wnes i iʼr ARGLWYDD? 8Pan oeddwn iʼn byw yn Geshwr yn Syria, gwnes i addo ar lw: ‘Os bydd yr ARGLWYDD yn mynd â fiʼn ôl i Jerwsalem, gwna i addoliʼr ARGLWYDD yn Hebron.’” 9A dymaʼr brenin yn ei ateb, “Dos, a bendith arnat ti.” Felly dyma Absalom yn mynd i ffwrdd i Hebron.
10Ond yna dyma Absalom yn anfon negeswyr cudd at lwythau Israel i gyd i ddweud, “Pan fyddwch chiʼn clywed sŵn y corn hwrdd,15:10 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. cyhoeddwch: ‘Mae Absalom yn frenin yn Hebron.’” 11Roedd dau gant o ddynion wedi mynd gydag Absalom o Jerwsalem. Roedden nhw wedi cael gwahoddiad ganddo, ac wedi mynd yn gwbl ddiniwed heb wybod dim am ei fwriadau. 12Yna dyma Absalom yn cael Achitoffel, swyddog strategaeth Dafydd, i ddod ato o Gilo (y dre lle roedd eʼn byw) i gyflwyno aberthau gydag e. Roedd y cynllwyn yn cryfhau, a nifer y bobl oedd o blaid Absalom yn cynyddu.
Dafydd yn dianc o Jerwsalem
13Daeth neges at Dafydd i ddweud fod pobl Israel wedi troi at Absalom. 14Felly dyma Dafydd yn dweud wrth ei swyddogion yn Jerwsalem, “Rhaid i ni ffoi, neu wnawn ni ddim dianc oddi wrth Absalom. Dewch! Brysiwch i ni adael, rhag iddoʼn dal ni a lladd pawb yn y ddinas!” 15Dymaʼr swyddogion yn ateb, “Mae dy weision yn barod i wneud beth bynnag mae ein meistr, y brenin, yn ei benderfynu.”
16Felly dymaʼr brenin yn gadael, aʼi deulu aʼi staff i gyd gydag e. Ond gadawodd ddeg oʼi gariadon15:16 gariadon Maeʼr gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. i edrych ar ôl y palas. 17Wrth iddo fynd, aʼr bobl i gyd yn ei ddilyn, dyma nhwʼn aros wrth y Tŷ Pellaf. 18Safodd yno tra oedd ei warchodlu i gyd yn mynd heibio (Cretiaid15:18 Hebraeg, Cerethiaid, syʼn enw arall ar y Cretiaid. a Pelethiaid)15:18 2 Samuel 8:18 aʼr chwe chant o ddynion oedd wediʼi ddilyn o Gath. Wrth iddyn nhw fynd heibio 19dymaʼr brenin yn galw ar Itai (oedd o Gath), “Pam ddylet ti ddod gyda ni? Dos yn ôl ac aros gydaʼr brenin newydd. Un oʼr tu allan wyt ti, yn alltud ac yn bell oddi cartref. 20Dim ond newydd gyrraedd wyt ti. Alla i ddim gwneud i ti grwydro o le i le ar fy ôl i! Dos yn ôl, a dos â dy bobl gyda ti. A boed iʼr Duw ffyddlon dy amddiffyn di.” 21Ond dyma Itai yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, aʼm meistr y brenin yn fyw, bydda iʼn mynd ble bynnag fyddi diʼn mynd – hyd yn oed os fydd hynnyʼn golygu marw gyda ti.” 22A dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos yn dy flaen, felly.” Ac aeth Itai yn ei flaen gydaʼi ddynion i gyd aʼu teuluoedd.
23Roedd pawb yn crioʼn uchel wrth iʼr fyddin fynd heibio. Dymaʼr brenin yn croesi Dyffryn Cidron ac aethon nhw i gyd ymlaen i gyfeiriad yr anialwch. 24Roedd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yno, aʼr Lefiaid yn cario Arch Ymrwymiad Duw. Dyma nhwʼn gosod yr Arch i lawr, a wnaethon nhw ddim ei chodi eto nes oedd y bobl i gyd wedi gadael y ddinas. 25Yna dymaʼr brenin yn dweud wrth Sadoc, “Dos ag Arch Duw yn ôl iʼr ddinas. Os bydd yr ARGLWYDD yn garedig ata i, bydd yn dod â fiʼn ôl iʼw gweld hi aʼi chartref eto. 26Ond os ydy eʼn dweud nad ydy e fy eisiau i bellach, dw iʼn fodlon iddo wneud beth bynnag mae eisiau gyda mi.”
27Yna dymaʼr brenin yn dweud wrth Sadoc yr offeiriad, “Wyt tiʼn deall? Dos yn ôl iʼr ddinas yn dawel fach, ti ac Abiathar aʼch meibion – Achimaäts, dy fab di, a Jonathan, mab Abiathar. 28Bydda iʼn aros wrth y rhydau ar y ffordd iʼr anialwch nes bydda i wedi clywed gynnoch chi.” 29Felly dyma Sadoc ac Abiathar yn mynd ag Arch Duw yn ôl i Jerwsalem, ac aros yno.
30Aeth Dafydd yn ei flaen i fyny Mynydd yr Olewydd, yn crio wrth fynd. Roedd yn cuddioʼi ben a doedd dim am ei draed. Ac roedd pawb arall oedd gydag e wedi gorchuddioʼu pennau ac yn crio hefyd. 31Clywodd Dafydd fod Achitoffel yn un oʼr rhai oedd wedi cynllwynio gydag Absalom, dyma feʼn gweddïo, “ARGLWYDD, plîs gwna gyngor Achitoffel yn gyngor gwirion.”
32Wrth i Dafydd gyrraedd copaʼr bryn lle roedd pobl yn arfer addoli, dyma Chwshai yr Arciad15:32 Arciad Roedd yr Arciaid yn perthyn i lwyth Benjamin (gw. Josua 16:2). yn dod iʼw gyfarfod, wedi rhwygoʼi ddillad a rhoi pridd ar ei ben. 33Dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Os doi di gyda mi, byddiʼn faich arna i; 34ond os ei di yn ôl iʼr ddinas, dywed wrth Absalom, ‘Dw i am fod yn was i ti, o frenin. Maeʼn wir mod i wedi bod yn was i Dafydd dy dad, ond nawr dw i am fod yn was i ti.’ Wedyn byddiʼn gallu drysu cyngor Achitoffel. 35Bydd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yna gyda ti. Rhanna gyda nhw bopeth fyddi diʼn ei glywed yn y palas brenhinol. 36Mae eu meibion gyda nhw hefyd, Achimaäts fab Sadoc, a Jonathan fab Abiathar. Gallwch eu hanfon nhw ata i i ddweud beth syʼn digwydd.”
37Felly dyma Chwshai, ffrind Dafydd, yn cyrraedd Jerwsalem pan oedd Absalom ar fin mynd i mewn iʼr ddinas.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015