No themes applied yet
Athaleia, brenhines Jwda
(2 Cronicl 22:10–23:15)
1Pan glywodd Athaleia fod ei mab Ahaseia (brenin Jwda) wedi marw, dyma hiʼn mynd ati i gael gwared âʼr llinach frenhinol i gyd. 2Ond roedd gan Ahaseia chwaer, Jehosheba, merch iʼr brenin Jehoram. Dyma hiʼn cymryd Joas, mab Ahaseia, aʼi sleifio i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill y teulu brenhinol cyn iddyn nhw gael eu lladd. A dyma feʼn cael ei guddio gydaʼi nyrs yn un o ystafelloedd gwelyʼr offeiriaid yn y deml.11:2 un o … y deml Hebraeg, “ystafell fewnol y gwlâu.” Gan fod Jehosheba yn wraig i offeiriad (2 Cronicl 22:11) byddaiʼn bosib iddi guddio ei nai yn un o ystafelloedd preifat yr offeiriaid yn y deml (gw. adn. 3). Felly wnaeth Athaleia ddim dod o hyd iddo, a chafodd e moʼi ladd ganddi. 3Buʼn cuddio gydaʼi nyrs yn y deml am chwe mlynedd, tra oedd Athaleiaʼn rheoliʼr wlad.
4Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn galw capteniaid y Cariaid (oedd yn arwain unedau o gannoedd) aʼr gwarchodlu brenhinol i fynd iʼw weld. Dyma feʼn cyfarfod gyda nhw, ac ar ôl dod i gytundeb, yn gwneud iddyn nhw gymryd llw yn y deml. Yna dyma feʼn dangos mab y brenin iddyn nhw, 5a gorchymyn, “Dyma dych chi iʼw wneud: Ar y Saboth bydd un rhan o dair oʼr unedau sydd ar ddyletswydd, yn gwarchod y palas. 6Bydd un rhan o dair wedi cymryd eu lle wrth giât Swr, aʼr gweddill wrth y giât sydd tu ôl iʼr gwarchodlu brenhinol. 7Bydd y ddwy uned sydd ddim ar ddyletswydd ar y Saboth yn dod i warchod y deml ac amddiffyn y brenin. 8Rhaid i chi sefyll oʼi gwmpas gydaʼch arfau yn eich dwylo. Os bydd unrhyw un yn dod yn agos atoch, lladdwch e. Dych chi i aros gydaʼr brenin ble bynnag maeʼn mynd.”
9Dyma gapteiniaid yr unedau yn gwneud yn union fel roedd Jehoiadaʼr offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned (y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth aʼr rhai oedd yn rhydd), a dod â nhw at Jehoiada. 10Dymaʼr offeiriad yn rhoi gwaywffyn a tharianau iʼr capteniaid, sef arfau y Brenin Dafydd oedd yn cael eu cadw yn nheml yr ARGLWYDD. 11Yna dymaʼr gwarchodlu brenhinol yn cymryd eu lle, gydaʼu harfau yn eu dwylo. Roedden nhwʼn sefyll mewn llinell o un ochr iʼr deml iʼr llall, wrth yr allor ac ym mhob rhan oʼr deml, i amddiffyn y brenin. 12Wedyn dyma Jehoiada yn dod â mab y brenin allan, a rhoiʼr goron ar ei ben a chopi oʼr rheolau syʼn dweud sut i lywodraethu. A dyma nhwʼn cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio drwy dywallt olew ar ei ben, curo dwylo a gweiddi, “Hir oes iʼr brenin!”
13Dyma Athaleiaʼn clywed sŵn y gwarchodlu aʼr bobl, a mynd atyn nhw iʼr deml. 14Yno dyma hiʼn gweld y brenin yn sefyll wrth y piler yn ôl y ddefod. Roedd y capteiniaid aʼr trwmpedwyr oʼi gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu aʼr utgyrn yn canu ffanffer. Pan welodd hi hyn i gyd, dyma hiʼn rhwygoʼi dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!” 15Yna dyma Jehoiadaʼr offeiriad yn galw capteniaid y gwarchodlu, oedd yn arwain y milwyr, a dweud wrthyn nhw, “Ewch â hi allan oʼr deml heibioʼr rhengoedd, a lladdwch unrhyw un sydd gyda hi. Rhaid peidio ei lladd yn y deml.” 16Felly dyma nhwʼn ei harestio hi a mynd â hi iʼr palas brenhinol drwyʼr fynedfa iʼr stablau. A dyna lle cafodd hi ei lladd.
Jehoiadaʼr offeiriad yn newid pethau
(2 Cronicl 23:16-21)
17Dyma Jehoiada yn selioʼr ymrwymiad rhwng yr ARGLWYDD âʼr brenin aʼi bobl, iddyn nhw fod yn bobl ffyddlon iʼr ARGLWYDD. Gwnaeth gytundeb rhwng y brenin aʼr bobl hefyd.
18Yna aeth y dyrfa i gyd i mewn i deml Baal aʼi dinistrio. Dyma nhwʼn chwaluʼr allorau a maluʼr delwau i gyd yn ddarnau mân, a chafodd Mattan, offeiriad Baal, ei ladd o flaen yr allorau.
Roedd Jehoiadaʼr offeiriad wedi gosod gwarchodlu i wylio teml yr ARGLWYDD. 19Yna dyma feʼn galw capteniaid y Cariaid (oedd yn arwain unedau o gannoedd) aʼr gwarchodlu brenhinol, aʼr bobl i gyd. A dyma nhwʼn arwain y brenin mewn prosesiwn oʼr deml iʼr palas drwy Giât y Gwarchodlu Brenhinol. A dymaʼr brenin yn eistedd ar yr orsedd. 20Roedd pawb drwyʼr wlad i gyd yn dathlu. Roedd y ddinas yn heddychlon eto, ac Athaleia wedi cael ei lladd yn y palas.
Joas yn frenin ar Jwda
(2 Cronicl 24:1-16)
21Dim ond saith oed oedd Joas pan gafodd ei wneud yn frenin ar Jwda.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015