No themes applied yet
1Cafodd Joas ei wneud yn frenin yn ystod seithfed flwyddyn Jehw fel brenin Israel. Buʼn frenin yn Jerwsalem am bedwar deg o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Tsifia, ac roedd hiʼn dod o Beersheba. 2Yr holl amser y buodd eʼn frenin, gwnaeth Joas beth oedd yn plesioʼr ARGLWYDD, fel roedd Jehoiadaʼr offeiriad wediʼi ddysgu. 3Ond er hynny wnaeth e ddim cael gwared âʼr allorau lleol. Roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.
4Dwedodd Joas wrth yr offeiriaid, “Cymrwch yr arian sydd wedi cael ei gysegru iʼr deml – treth y cyfrifiad, y pris dalwyd am unigolion, aʼr rhoddion gwirfoddol. 5A defnyddiwch yr arian oʼch incwm personol hefyd i dalu am atgyweirioʼr deml.” 6Ond hyd yn oed pan oedd Joas wedi bod yn frenin am ddau ddeg tair o flynyddoedd, doedd yr offeiriaid yn dal ddim wedi atgyweirioʼr deml. 7Felly dymaʼr Brenin Joas yn galw Jehoiada aʼr offeiriaid eraill iʼw weld, a gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi ddim wedi atgyweirioʼr deml? O hyn ymlaen dych chi ddim i gadw unrhyw arian syʼn cael ei roi i chi. Rhaid iʼr cwbl fynd tuag at atgyweirioʼr deml.” 8Felly dymaʼr offeiriaid yn cytuno i beidio cymryd mwy o arian gan y bobl, ac i roi heibioʼr cyfrifoldeb i atgyweirioʼr deml.
9Dyma Jehoiadaʼr offeiriad yn cymryd cist a gwneud twll yn y caead. Yna dyma feʼn rhoiʼr gist ar yr ochr dde iʼr allor, wrth y fynedfa iʼr deml. Roedd y porthorion yn rhoiʼr holl arian roedd pobl yn ei gyfrannu yn y gist. 10Pan oedden nhwʼn gweld fod y gist yn llawn, roedd ysgrifennydd y brenin aʼr archoffeiriad yn cyfriʼr arian aʼi roi mewn bagiau. 11Yna roedden nhwʼn ei roi iʼr fformyn oedd yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio. Roedden nhw wedyn yn ei ddefnyddio i daluʼr seiri coed aʼr adeiladwyr oedd yn gweithio ar y deml – 12iʼr dynion oedd yn adeiladuʼr waliau aʼr seiri maen, a hefyd i brynu coed, cerrig wediʼu naddu ac unrhyw beth arall oedd angen ar gyfer y gwaith. 13Tra oedd y gwaith o atgyweirioʼr deml yn digwydd, gafodd dim oʼr arian ei ddefnyddio i dalu am bowlenni arian, sisyrnau, dysglau, utgyrn nac unrhyw gelfi aur ac arian eraill iʼr deml. 14Roedd y cwbl yn cael ei roi iʼr fformyn oedd yn arolyguʼr gwaith o atgyweirio teml yr ARGLWYDD. 15Doedd dim rhaid cadw cyfrifon manwl oʼr arian oedd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn gwbl onest. 16(Ond doedd yr arian oedd yn cael ei dalu gydaʼr offrwm i gyfaddef bai12:16 Lefiticus 5:16 aʼr aberth i buro o bechod ddim yn dod iʼr deml. Yr offeiriaid oedd yn cael hwnnw.)
Diwedd teyrnasiad Joas
17Bryd hynny dyma Hasael, brenin Syria, yn ymosod ar dre Gath aʼi choncro. Yna dyma feʼn penderfynu ymosod ar Jerwsalem. 18Ond dyma Joas, brenin Jwda, yn talu arian mawr iddo beidio ymosod. Cymerodd Joas y cwbl roedd e aʼr brenhinoedd oʼi flaen (sef Jehosaffat, Jehoram ac Ahaseia) wediʼi gysegru iʼr ARGLWYDD. Cymerodd yr aur oedd yn stordaiʼr deml aʼr palas hefyd, ac anfon y cwbl i Hasael brenin Syria; a dyma Hasael aʼi fyddin yn troiʼn ôl a pheidio ymosod ar Jerwsalem.
19Mae gweddill hanes Joas, aʼr cwbl wnaeth e ei gyflawni, iʼw weld yn y sgrôl, Hanes Brenhinoedd Jwda. 20-21Dyma Iosafad fab Shimeath a Iehosafad fab Shomer, swyddogion Joas, yn cynllwynio yn ei erbyn aʼi ladd yn Beth-milo (sydd ar y ffordd i lawr i Sila). Cafodd ei gladdu gydaʼi hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dymaʼi fab, Amaseia, yn dod yn frenin yn ei le.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015