No themes applied yet
Diwygiadau Crefyddol Asa
1Dyma ysbryd Duw yn dod ar Asareia fab Oded, 2a dyma feʼn mynd at y Brenin Asa a dweud: “Gwrandwch arna i, Asa a phobl Jwda a Benjamin i gyd. Bydd yr ARGLWYDD gyda chi tra dych chiʼn ffyddlon iddo fe. Bydd eʼn ymateb pan fyddwch chiʼn ei geisio. Ond os byddwch chiʼn troiʼch cefn arno, bydd eʼn troi ei gefn arnoch chi. 3Roedd Israel heb y Duw go iawn am amser maith, heb offeiriaid iʼw dysgu a heb Gyfraith. 4Ond yn eu helynt dyma nhwʼn troi at yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dyma nhwʼn ei geisio, a dyma feʼn ymateb. 5Yr adeg yna doedd hi ddim yn saff i neb fynd a dod, am fod yna helyntion ofnadwy yn y gwledydd i gyd. 6Roedd un wlad yn dinistrioʼr llall, aʼr trefi yn dinistrioʼi gilydd, am fod Duw wedi dod â phob math o helyntion arnyn nhw. 7Ond byddwch chiʼn ddewr a pheidio llaesu dwylo, oherwydd fe gewch chi wobr am eich gwaith.”
8Roedd Asaʼn teimloʼn llawer mwy hyderus ar ôl clywed beth ddwedodd y proffwyd. Dyma feʼn cael gwared âʼr holl eilunod ffiaidd oedd yn Jwda a Benjamin aʼr trefi roedd wediʼu concro ym mryniau Effraim. Yna dyma feʼn trwsioʼr allor oedd o flaen cyntedd teml yr ARGLWYDD.
9Casglodd bobl Jwda a Benjamin at ei gilydd, gyda phobl llwythau Effraim, Manasse a Simeon oedd wedi dod atyn nhw i fyw (Roedd llawer iawn o bobl wedi symud o Israel i Jwda ar ôl gweld fod yr ARGLWYDD ei Dduw gydag Asa.) 10Dyma nhwʼn dod i Jerwsalem yn y trydydd mis pan oedd Asa wedi bod yn frenin am un deg pump o flynyddoedd. 11Dyma nhwʼn aberthu iʼr ARGLWYDD rai oʼr anifeiliaid roedden nhw wediʼu cymryd yn ysbail, gan gynnwys saith gant o wartheg a saith mil o ddefaid. 12Wedyn, dyma nhwʼn gwneud ymrwymiad i geisio yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, o ddifrif. 13Byddai pawb oedd yn gwrthod gwneud hynny yn cael eu lladd, hen ac ifanc, dynion a merched. 14Dyma nhwʼn tyngu llw iʼr ARGLWYDD gan weiddi, canu utgyrn a chwythuʼr corn hwrdd.15:14 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. 15Roedd pobl Jwda i gyd yn hapus i gymryd y llw, achos roedden nhwʼn hollol o ddifrif. Roedden nhw wedi ceisioʼr ARGLWYDD, ac roedd yntau wedi ymateb. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddyn nhw o bob cyfeiriad.
16Yna dymaʼr Brenin Asa yn diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam-frenhines, am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, ei faluʼn fân, aʼi losgi wrth Ddyffryn Cidron. 17Er ei fod heb gael gwared âʼr allorau lleol yn Israel roedd Asa yn ffyddlon iʼr ARGLWYDD ar hyd ei oes. 18Daeth âʼr celfi roedd e aʼi dad wediʼu cysegru (rhai aur, arian, a llestri eraill), aʼu gosod yn nheml Dduw.
19Fuodd dim rhyfel arall nes oedd Asa wedi bod yn frenin am dri deg pump o flynyddoedd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015