No themes applied yet
Blynyddoedd olaf teyrnasiad Asa
(1 Brenhinoedd 15:17-22)
1Pan oedd Asa wedi bod yn frenin ers bron dri deg chwech o flynyddoedd, dyma Baasha, brenin Israel, yn ymosod ar Jwda ac yn adeiladu Rama yn gaer filwrol i rwystro pobl rhag mynd a dod i diriogaeth Asa brenin Jwda. 2Dyma Asa yn cymryd y cwbl oʼr arian aʼr aur oedd ar ôl yn stordai teml yr ARGLWYDD a stordai palas y brenin, aʼi anfon gydaʼr neges yma i Ben-hadad,16:2 Ben-hadad Ben-hadad I, brenin Syria rhwng 885 CC a 865 CC. brenin Syria, yn Damascus:
3“Dw i eisiau gwneud cytundeb heddwch gyda ti, fel roedd yn arfer bod rhwng fy nhad a dy dad di. Dw iʼn anfon yr arian aʼr aur yma i ti. Dw i eisiau i ti dorriʼr cytundeb sydd rhyngot ti a Baasha, brenin Israel, er mwyn iddo stopio ymosod arnon ni.”
4Dyma Ben-hadad yn derbyn cynnig y Brenin Asa, a dyma feʼn dweud wrth swyddogion ei fyddin am ymosod ar drefi Israel. Dyma nhwʼn taro Îon, Dan, Abel-maim a chanolfannau storfeydd Nafftali. 5Pan glywodd Baasha am hyn, dyma feʼn rhoiʼr gorau iʼr prosiect o adeiladu Rama. 6Yna dymaʼr Brenin Asa yn anfon pobl Jwda i nôl y cerrig aʼr coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. Yna dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa.
Neges y proffwyd Chanani
7Tuaʼr adeg honno dymaʼr proffwyd Chanani yn mynd at Asa, brenin Jwda, a dweud wrtho, “Am dy fod wedi gofyn am help brenin Syria yn lle trystioʼr ARGLWYDD, dy Dduw, wnei di byth orchfygu byddin Syria. 8Oedd gan yr Affricaniaid aʼr Libiaid ddim byddinoedd mawr gyda llawer iawn o gerbydau a marchogion? Ond am dy fod wedi trystioʼr ARGLWYDD dyma feʼn gadael i ti ennill y frwydr. 9Maeʼr ARGLWYDD yn gwylio popeth syʼn digwydd ar y ddaear, ac yn barod i helpuʼr rhai syʼn ei drystio feʼn llwyr. Ti wedi bod yn ffŵl. Byddi diʼn ymladd rhyfeloedd yn ddi-stop o hyn ymlaen.”
10Roedd Asa wedi gwylltio gydaʼr proffwyd am siarad fel yna, a dyma feʼn ei roi yn y carchar. Bryd hynny dechreuodd Asa orthrymu rhai oʼr bobl hefyd.
Crynodeb o deyrnasiad Asa
(1 Brenhinoedd 15:23-24)
11Mae hanes Asa, oʼr dechrau iʼr diwedd, iʼw weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda ac Israel. 12Pan oedd Asa wedi bod yn frenin am bron dri deg naw o flynyddoedd dyma feʼn dechrau dioddef o glefyd ar ei draed. Er ei fod eʼn dioddef yn ddifrifol oʼr afiechyd wnaeth e ddim gofyn am help yr ARGLWYDD, dim ond y meddygon. 13Pan fuodd Asa farw, ar ôl bod yn frenin am dros bedwar deg o flynyddoedd; 14cafodd ei gladdu yn y bedd roedd e wedi trefnu ei chloddio oʼr graig yn ninas Dafydd. Cafodd ei roi i orwedd ar elor oedd wediʼi gorchuddio gyda pherlysiau a gwahanol bersawrau. A dyma nhwʼn llosgi coelcerth enfawr iʼw anrhydeddu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015