No themes applied yet
Asa yn frenin Jwda
1Pan fu farw, cafodd Abeia ei gladdu yn ninas Dafydd. Daeth Asa ei fab yn frenin yn ei le. Pan ddaeth eʼn frenin roedd heddwch yn y wlad am ddeg mlynedd. 2Roedd Asa yn gwneud beth oedd yn dda ac yn plesioʼr ARGLWYDD. 3Dyma feʼn cael gwared âʼr allorau paganaidd aʼr temlau lleol, maluʼr colofnau cysegredig a thorri i lawr bolion y dduwies Ashera. 4Dyma feʼn dweud wrth bobl Jwda fod rhaid iddyn nhw addoliʼr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a chadw ei ddysgeidiaeth aʼi orchmynion. 5Dyma feʼn cael gwared âʼr holl allorau lleol aʼr llestri dal arogldarth o drefi Jwda. Roedd heddwch yn y wlad pan oedd eʼn frenin.
6Dyma Asaʼn adeiladu trefi amddiffynnol yn Jwda tra oedd y wlad yn dawel. Doedd dim rhyfel yn y cyfnod hwnnw am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddo. 7Dwedodd Asa wrth bobl Jwda, “Gadewch i ni adeiladuʼr trefi yma gyda waliau a thyrau oʼu cwmpas, a giatiau gyda barrau iʼw cloi. Maeʼr wlad ymaʼn dal gynnon ni am ein bod wedi ceisio yr ARGLWYDD ein Duw. Dŷn ni wediʼi geisio, ac mae e wedi rhoi heddwch i ni o bob cyfeiriad.” Felly dyma nhwʼn adeiladu ac roedden nhwʼn llwyddiannus iawn.
8Roedd gan Asa 300,000 o filwyr yn Jwda yn cario tarianau mawr a gwaywffyn. Gyda nhw roedd 280,000 o ddynion o lwyth Benjamin wediʼu harfogi gyda tharianau bach a bwasaeth. Roedden nhw i gyd yn filwr profiadol. 9Un tro dyma Serach o Cwsh yn nwyrain Affrica yn ymosod arnyn nhw gyda byddin o filiwn o ddynion a thri chant o gerbydau rhyfel. Wrth iddyn nhw gyrraedd Maresha 10roedd Asa aʼi fyddin yn Nyffryn Seffatha (heb fod yn bell o Maresha) yn trefnuʼu hunain yn rhengoedd iʼw gwrthwynebu.
11Dyma Asaʼn gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw: “ARGLWYDD, dim ond ti syʼn gallu helpuʼr gwan pan mae byddin enfawr yn dod yn eu herbyn nhw. Helpa ni ARGLWYDD ein Duw, dŷn niʼn dibynnu arnat ti. Dŷn ni wedi dod allan yn erbyn y fyddin enfawr yma ar dy ran di. O ARGLWYDD ein Duw, paid gadael i ddyn ennill yn dy erbyn di.”
12Felly dymaʼr ARGLWYDD yn galluogiʼr brenin Asa a byddin Jwda i orchfyguʼr fyddin o Cwsh yn nwyrain Affrica. Dymaʼr Affricanwyr yn ffoi 13gydag Asa aʼi fyddin yn mynd ar eu holau cyn belled â Gerar. Cafodd byddin Cwsh ei difaʼn llwyr gan yr ARGLWYDD aʼi fyddin. A dyma Asa aʼi ddynion yn casglu lot fawr o ysbail. 14Dyma nhwʼn concroʼr trefi o gwmpas Gerar i gyd, am fod yr ARGLWYDD wedi gwneud iʼr rheiny banicio. A dyma filwyr Jwda yn casglu llwythi o bethau gwerthfawr oʼr trefi hynny hefyd. 15A dyma nhwʼn ymosod ar bebyll y rhai oedd yn gofalu am yr anifeiliaid, a dwyn llawer iawn o ddefaid a chamelod cyn mynd yn ôl i Jerwsalem.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015