No themes applied yet
Dafydd yn achub teuluoedd ei filwyr
1Erbyn i Dafydd aʼi ddynion gyrraedd yn ôl i Siclag ddeuddydd wedyn, roedd yr Amaleciaid wedi bod yno ac wedi ymosod ar dde Jwda a Siclag. Roedden nhw wedi llosgi Siclag, 2ac wedi cymryd y gwragedd oedd yno yn gaethion, hen ac ifanc. Doedden nhw ddim wedi lladd neb, ond wedi mynd â nhw i ffwrdd gyda nhw.
3Roedd y dre wediʼi llosgi pan gyrhaeddodd Dafydd yno. Roedd eu gwragedd aʼu plant wediʼu cymryd yn gaethion. 4A dyma Dafydd aʼi ddynion yn dechrau crioʼn uchel nes eu bod nhwʼn rhy wan i grio ddim mwy. 5Roedd gwragedd Dafydd wediʼu cymryd yn gaeth hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel. 6Roedd Dafydd mewn trwbwl. Roedd y dynion yn bygwth taflu cerrig ato iʼw ladd, am eu bod nhw i gyd mor chwerw am beth oedd wedi digwydd iʼw plant. Ond cafodd Dafydd nerth gan yr ARGLWYDD ei Dduw.
7Yna dyma Dafydd yn galwʼr offeiriad, Abiathar fab Achimelech, a dweud wrtho, “Tyrd âʼr effod i mi.” Daeth Abiathar aʼr effod iddo. 8A dyma Dafydd yn gofyn iʼr ARGLWYDD, “Os af i ar ôl y rhai wnaeth ymosod, wna i eu dal nhw?” A dymaʼr ARGLWYDD yn ei ateb, “Dos ar eu holau. Byddiʼn eu dal nhw ac yn llwyddo i achub y rhai sydd wedi cael eu cipio!”
9Felly i ffwrdd a Dafydd, aʼi chwe chant o ddynion gydag e. Dyma nhwʼn cyrraedd Wadi Besor,30:9 Wadi Besor Rhyw 15 milltir iʼr de o Siclag. a dyma rai oʼr dynion yn aros yno. 10Aeth Dafydd yn ei flaen gyda pedwar cant oʼr dynion. (Roedd dau gant wedi aros ar ôl am eu bod yn rhy flinedig i groesi Wadi Besor.)
11Dyma nhwʼn dod o hyd i ddyn oʼr Aifft mewn cae, a mynd â fe at Dafydd. Dyma nhwʼn rhoi ychydig o fwyd iddo a diod o ddŵr. 12Wedyn dyma nhwʼn rhoi bar o ffigys a dau lond dwrn o rhesins iddo, a daeth atoʼi hun. Doedd e ddim wedi cael dim byd iʼw fwyta naʼi yfed ers tri diwrnod.
13Dyma Dafydd yn ei holi, “O ble tiʼn dod? Pwy ydy dy feistr di?” A dymaʼr bachgen yn ateb, “Dw iʼn dod oʼr Aifft ac yn gaethwas i un oʼr Amaleciaid. Gadawodd fy meistr fi yma dridiau yn ôl am fy mod iʼn sâl. 14Roedden ni newydd ymosod ar Negef y Cerethiaid,30:14 Enw arall ar y Philistiaid, oedd yn dod o Creta yn wreiddiol. ar ardal Jwda a Negef Caleb. Ac roedden ni wedi rhoi Siclag ar dân.” 15Dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Wnei diʼn harwain ni at y criw wnaeth ymosod?” A dyma feʼn ateb, “Addo i mi o flaen dy Dduw na wnei di fy lladd i naʼm rhoi i yn ôl iʼm meistr, a gwna i dy arwain di atyn nhw.”
16Pan aeth e â Dafydd atyn nhw, roedden nhw dros bobman. Roedden nhwʼn bwyta ac yn yfed ac yn dathlu am eu bod wedi llwyddo i ddwyn cymaint o wlad y Philistiaid ac o Jwda. 17Yna cyn iddi wawrio dyma Dafydd aʼi fyddin yn ymosod arnyn nhw. Buon nhwʼn ymladd drwyʼr dydd nes oedd hiʼn dechrau nosi. Yr unig rai wnaeth lwyddo i ddianc oedd rhyw bedwar cant o ddynion ifanc wnaeth ffoi ar gefn camelod. 18Llwyddodd Dafydd i achub popeth oedd yr Amaleciaid wediʼi gymryd, gan gynnwys ei ddwy wraig. 19Doedd neb ar goll, oʼr ifancaf iʼr hynaf, gan gynnwys y plant. Cafodd bawb a phopeth oedd wediʼi ddwyn yn ôl. 20Yna cymerodd Dafydd y defaid aʼr gwartheg aʼu gyrru nhw o flaen gweddill ei anifeiliaid. Roedd pawb yn dweud, “Dyma wobr Dafydd!”
21Aeth Dafydd yn ôl i Wadi Besor, at y dau gant o ddynion oedd wedi bod yn rhy flinedig iʼw ddilyn. Dymaʼr dynion yn dod allan iʼw gyfarfod e aʼi filwyr. Pan gwrddon nhw dyma Dafydd yn eu cyfarch. 22Ond roedd rhai oʼr dynion oedd wedi mynd gyda Dafydd yn ddynion drwg, a dechreuon nhw godi stŵr a dweud, “Pam ddylaiʼr rhain gael siâr oʼr ysbail? Wnaethon nhw ddim dod gyda ni! Gad i bob un ohonyn nhw gymryd ei wraig aʼi blant yn ôl, ond wedyn rhaid iddyn nhw adael!” 23Ond meddai Dafydd, “Na, peidiwch gwneud hynny ar ôl popeth maeʼr ARGLWYDD wediʼi roi i ni! Fe ydyʼr un wnaeth ofalu amdanon ni, a rhoiʼr dynion wnaeth ymosod arnon ni yn ei gafael. 24Does neb yn mynd i wrando arnoch chi yn siarad fel yna! Bydd siâr pawb yr un fath – y rhai aeth i ymladd aʼr rhai arhosodd gydaʼr offer. Bydd pawb yn cael yr un faint.30:24 Numeri 31:25-54” 25A dynaʼr rheol aʼr drefn yn Israel hyd heddiw.
26Wedi i Dafydd ddod yn ôl i Siclag, dyma feʼn anfon peth oʼr ysbail iʼr arweinwyr yn Jwda roedd eʼn ffrindiau gyda nhw. “Dyma i chi rodd o ysbail gelynion yr ARGLWYDD!” meddai. 27Anfonodd beth iʼr lleoedd canlynol: Bethel, Ramoth yn y Negef, a Iattir; 28Aroer, Siffmoth, Eshtemoa, 29a Rachal; trefiʼr Ierachmeëliaid aʼr Ceneaid; 30Horma, Bor-ashan, Athach, 31a Hebron; ac i bobman arall roedd e wedi bod gydaʼi ddynion o bryd iʼw gilydd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015