No themes applied yet
Saul aʼi feibion yn marw
(1 Cronicl 10:1-14)
1Dymaʼr Philistiaid yn dod ac ymladd yn erbyn Israel, ac roedd rhaid i filwyr Israel ffoi. Cafodd llawer iawn ohonyn nhw eu lladd ar fynydd Gilboa. 2Yna dymaʼr Philistiaid yn mynd ar ôl Saul aʼi feibion, a dyma nhwʼn llwyddo i ladd y meibion – Jonathan, Abinadab a Malci-shwa. 3Roedd y frwydr yn ffyrnig o gwmpas Saul, a dymaʼr bwasaethwyr yn ei daro aʼi anafuʼn ddifrifol. 4Dyma Saul yn dweud wrth y gwas oedd yn carioʼi arfau, “Cymer dy gleddyf a thrywana fi. Paid gadael iʼr paganiaid yma ddod iʼm cam-drin i aʼm lladd i.” Ond roedd gan y gwas ofn gwneud hynny; felly dyma Saul yn cymryd ei gleddyf a syrthio arno. 5Pan welodd y gwas fod Saul wedi marw, dyma fe hefyd yn syrthio ar ei gleddyf a marw gydag e. 6Felly cafodd Saul a tri oʼi feibion, y gwas oedd yn carioʼi arfau aʼi filwyr i gyd, eu lladd y diwrnod hwnnw.
7Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw iʼr dyffryn, aʼr tu draw iʼr Iorddonen, yn clywed fod milwyr Israel wedi ffoi, a bod Saul aʼi feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhwʼn gadael eu trefi a ffoi; a symudodd y Philistiaid i fyw ynddyn nhw.
8Y diwrnod ar ôl y frwydr pan aeth y Philistiaid i ddwyn oddi ar y cyrff meirw, daethon nhw o hyd i Saul aʼi dri mab yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa. 9Dyma nhwʼn torri pen Saul i ffwrdd a chymryd ei arfau, yna anfon negeswyr drwy wlad y Philistiaid i gyhoeddiʼr newyddion da yn nhemlau eu duwiau ac wrth y bobl. 10Wedyn dyma nhwʼn rhoi arfau Saul yn nheml y dduwies Ashtart, ac yn crogi ei gorff ar waliau Beth-shan.
11Pan glywodd pobl Jabesh yn Gilead beth roedd y Philistiaid wediʼi wneud i Saul, 12aeth eu milwyr i gyd allan a theithio drwyʼr nos. Dyma nhwʼn cymryd cyrff Saul aʼi feibion oddi ar waliau Beth-shan, mynd â nhw i Jabesh aʼu llosgi yno. 13Wedyn, dyma nhwʼn cymryd yr esgyrn aʼu claddu o dan y goeden tamarisg31:13 goeden tamarisg Coeden fytholwyrdd oedd yn rhoi lot o gysgod i bobl. yn Jabesh, ac ymprydio am wythnos.31:11-13 Pan glywodd … wythnos Maeʼn siŵr fod pobl Jabesh yn Gilead yn cofioʼr gymwynas wnaeth Saul â nhw, yn eu hachub rhag yr Ammoniaid (gw. 1 Samuel 11).
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015