No themes applied yet
Y Philistiaid yn gwrthod help Dafydd
1Roedd y Philistiaid wedi casglu at ei gilydd yn Affec, a dyma Israel yn codi gwersyll wrth y ffynnon yn Jesreel. 2Roedd llywodraethwyr y Philistiaid yn archwilio eu hunedau milwrol (unedau o gannoedd a miloedd), ac yn y cefn roedd Dafydd aʼi ddynion yn cael eu harchwilio gydag unedau Achish. 3“Pwy ydyʼr Hebreaid yma?” holodd capteiniaid y Philistiaid. “Dafydd ydy e,” meddai Achish wrthyn nhw. “Roedd eʼn arfer bod yn was i Saul, brenin Israel. Ond mae e wedi bod gyda mi bellach ers blwyddyn a mwy. Dydy e wedi gwneud dim oʼi le oʼr diwrnod y daeth e drosodd aton ni.” 4Ond roedd capteiniaid y Philistiaid yn wyllt hefo Achish, “Anfon y dyn yn ei ôl! Gad iddo fynd yn ôl i ble bynnag roist ti iddo fyw. Paid gadael iddo ddod i ymladd gyda ni, rhag ofn iddo droi yn ein herbyn ni yng nghanol y frwydr. Pa ffordd well fyddai iddo ennill ffafr ei feistr eto na gyda phennauʼr dynion yma? 5Hwn ydyʼr Dafydd roedden nhwʼn canu amdano wrth ddawnsio,
‘Mae Saul wedi lladd miloedd,
ond Dafydd ddegau o filoedd!’”
6Felly dyma Achish yn galw Dafydd ato a dweud, “Mor siŵr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw iʼn gwybod dy fod tiʼn ddyn gonest. Byddwn i wrth fy modd yn dy gael diʼn mynd allan gyda ni i ymladd. Dwyt ti wedi gwneud dim oʼi le oʼr diwrnod y dest ti drosodd aton ni. Ond dydyʼr arweinwyr eraill ddim yn hapus. 7Felly, dos yn ôl heb wneud ffws. Paid gwneud dim byd iʼw pechu nhw.”
8“Ond be dw i wediʼi wneud oʼi le?” meddai Dafydd. “Oʼr diwrnod y dois i atat ti hyd heddiw, pa fai wyt ti wediʼi gael yn dy was? Pam ga i ddim dod i ryfela yn erbyn gelynion fy meistr, y brenin?” 9Atebodd Achish e, “Dw iʼn gwybod dy fod ti mor ddibynnol ag angel Duw! Ond mae arweinwyr eraill y Philistiaid wedi dweud na chei di fynd i ryfela gyda nhw. 10Felly, codaʼn gynnar bore fory, ti a gweision dy feistr sydd gyda ti. Gallwch fynd cyn gynted ag y bydd hiʼn olau.”
11Felly dyma Dafydd aʼi ddynion yn codi ben bore, a mynd yn ôl i wlad y Philistiaid. Ac aeth y Philistiaid i fyny i Jesreel.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015