Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.
Mae proffwydoliaethau Eseia yn drysorau i bregethwyr. Yn y bennod hon, mae’n cymharu duwiau Babilon â’r ARGLWYDD; ni allant achub, meddai, ond mae Duw yn gwneud hynny. Ond ei ddarlun byw o’u diymadferthedd sy’n dod â’r meddwl hwn yn fyw. Mae’r delwau o Bel a Nabw, duwiau Babilon, yn cael eu cario ar gefn anifeiliaid pwn. Maent mor drwm nes eu bod nhw’n blino’r anifeiliaid sy’n eu cario, ond mae’r anifeiliaid mor aneffeithiol fel nad ydynt hyd yn oed yn gallu ysgafnhau eu llwyth eu hunain (adnodau 1-2). Ond nid yw Duw Israel yn cael ei gludo: ef sy’n tywys. Dywed wrth ei bobl ‘Fi wnaeth eich cario chi pan oeddech chi yn y groth, a dw i wedi'ch cynnal chi ers i chi gael eich geni. A bydd pethau yr un fath pan fyddwch chi'n hen; bydda i'n dal i'ch cario chi pan fydd eich gwallt wedi troi'n wyn! Fi wnaeth chi, a fi sy'n eich cario chi – fi sy'n gwneud y cario, a fi sy'n achub’ (adnodau 3-4).
Beth yw’r ‘duwiau’ rydym yn eu creu heddiw? Efallai y bydd Eseia yn dweud eu bod yn unrhyw beth rydym ni’n ymddiried ynddo yn hytrach na’r ARGLWYDD. Teulu, gyrfa, arian, cred wleidyddol neu ideoleg – gallwn ddychmygu eu bod yn ein cario ni, tra ein bod ni’n eu cario hwythau mewn gwirionedd. Weithiau bydd yr eglwys ei hun, gyda’i thraddodiadau a’i gofynion, yn dod yn eilun, ac mae’r baich yn rhy drwm i ni ei ysgwyddo.
Nid felly mae Duw yn gweithio. Nid yw’n faich; y mae’n codi beichiau. ‘Achos fi sydd Dduw, a does dim un arall yn bod. Fi ydy Duw, a does neb tebyg i mi’ (adnod 9).
Duw, diolch i ti am ysgafnhau fy llwyth. Dangosa i mi’r beichiau rwy’n eu cario ac y gallaf eu hildio a helpa fi i ymddiried yn unig ynot ti.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl