Skip to main content

Ymprydio i bwy?: Sechareia 7.1–14 (19 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Sechareia 7.1–14

Ar ôl gweledigaethau rhyfedd Sechareia, trown at bregeth bwerus sy’n procio’r meddwl. Yn ystod y 70 mlynedd o alltudiaeth, mae pobl Bethel wedi ymprydio’n grefyddol i gofio dinistr y Deml. A ddylent barhau, maent yn gofyn, gan ei fod bellach yn cael ei ailadeiladu? Mae ateb Sechareia yn hynod ddiddorol: wrth siarad ag awdurdod Duw, mae’n gofyn iddynt, ‘Ond ydych chi wir wedi bod yn gwneud hynny i mi? (adnod 5), a phan wnaethant dorri eu hymprydiau, dwedodd wrthynt, ‘dych chi'n ei wneud i blesio'ch hunain!’ (adnod 6). Mae’n dilyn y cerydd hwn trwy eu hatgoffa o orchmynion Duw i fod ‘yn garedig a thrugarog at eich gilydd’, ac i beidio â gormesu gweddwon, plant amddifad, tramorwyr nac unrhyw un arall mewn angen (anodau 9-10). Nid ydynt wedi llwyddo i gadw’r rhain.

Mae yna rai syniadau cyfoethog iawn yma. Gall traddodiadau gael eu ffosileiddio; rydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud oherwydd ein bod yn eu gwneud, a’r gwir ystyr wedi diflannu. Neu efallai ein bod yn cael ein dal mewn patrwm o edifaru, yn dychwelyd yn barhaus at yr hyn rydym wedi’i golli ac yn methu edrych ymlaen gyda gobaith. Efallai bod y profiadau sydd wedi ein llethu yn ein gwneud yn chwerw ac yn elyniaethus i eraill, yn hytrach na bod yn gynnes ac yn agored. Efallai y byddwn yn cadw ffurf ffydd, ond nid yw ein theori yn troi’n arfer trawsnewidiol.

Am bob un o’r rhesymau hyn, mae geiriau Sechareia yn wir: roedd ympryd y bobl i blesio eu hunain, nid ar gyfer yr ARGLWYDD. Nid oes gan Dduw ddiddordeb mewn defodau sydd ddim yn tarddu o’r galon, ac yn bwydo’r enaid.

Gweddi

Gweddi

Duw, siarad â fy nghalon; cynhesa fi a thân dy gariad. Llenwa fi a gobaith yn dy ddyfodol, a rho imi ysbryd caredigrwydd i eraill.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible