Skip to main content

‘Dŷn ni wedi clywed fod Duw gyda chi!’: Sechareia 8.1–23 (20 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Sechareia 8.1–23

Mae’r bennod hon yn ddarlun hyfryd o fendith. Bydd y ddinas wag yn cael ei hail-boblogi. Mae adnod 4 yn sôn am hen ddynion yn eistedd yn sgwariau’r ddinas, a phlant yn chwarae. Mae hyn yn fwy arwyddocaol nad y gallem ei feddwl: mae gan yr hen ddynion hyn rywun i ofalu amdanynt, felly mae ganddynt yr amser a’r adnoddau i ‘ymddeol’ a does dim rhaid iddynt weithio nes iddynt farw. Mae gan y plant hefyd amser i chwarae; ni chânt eu gorfodi i weithio o oed ifanc iawn, fel y maent mewn sawl rhan i’r byd heddiw. Yn lle bod yn ddarlun o drallod, daw Jerwsalem yn enghraifft ddelfrydol o ffyniant sy’n denu eraill i rannu yn ei chyfoeth (adnod 23).

Ond wrth wraidd y darlun hwn o lwyddiant mae gweledigaeth foesol. Nid dinas gyfoethog yn unig yw Jerwsalem; mae i fod yn un onest, lle mae cyfiawnder yn cael ei chyflawni a thrais yn cael ei wahardd (adnodau 15-17).

Weithiau efallai y cawn yr argraff gan ein harweinwyr gwleidyddol mai elw a ffyniant yw popeth. Mae Sechareia yn rhybuddio rhag gwneud arian y safon y mae popeth yn cael ei farnu yn ei erbyn.

Ar lefel bersonol, hefyd, mae ei eiriau’n heriol. Efallai y byddwn yn gwneud yn dda iawn mewn bywyd yn faterol, ond os ydym yn anonest ac yn ddinistriol yn ein hymddygiad, rydym wedi methu yn y pethau sy’n bwysig a bydd Duw yn ein barnu.

Mae’r adnod olaf o’r bennod yn rhyfeddol o heriol i gredinwyr heddiw. A allwn feiddio dychmygu pobl yn dod atom ac yn dweud, ‘Gad i ni fynd gyda chi. Dŷn ni wedi clywed fod Duw gyda chi!’?

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i dy roi yn gyntaf ym mhopeth rwyf yn ei wneud. Gad imi geisio dy deyrnas a dy gyfiawnder yn gyntaf oll.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible